‘Rhaid atal ehangu pwll glo Aberpergwm’
Daw’r alwad gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl i Coal Action Network golli adolygiad barnwrol
Gorymdaith annibyniaeth YesCymru: Beth sydd angen ei wybod?
Hon yw’r “orymdaith fwyaf uchelgeisiol eto”, medd y mudiad annibyniaeth
Cipio grym: Tŷ’r Arglwyddi’n cefnogi cynnig Dafydd Wigley
Bydd ei gynnig bellach yn cael ei drosglwyddo i Dŷ’r Cyffredin
Ceidwadwyr yn gwrthod ymuno ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Daw’r penderfyniad ar ôl i’r awdurdod benderfynu arddel yr enw Cymraeg
Llŷr Gruffydd yn galw am sicrwydd y daw rhagor o bwerau i Gymru
Daw’r alwad am addewid i ddatganoli’r economi, darlledu, ynni, lles, cyfiawnder, a thrafnidiaeth ar drothwy rali annibyniaeth yn Abertawe
Maxine Hughes yn cyfweld â Donald Trump a’i gefnogwyr mewn rhaglen ddogfen newydd ar S4C
Bu’r newyddiadurwr Cymreig sy’n byw yn yr Unol Daleithiau mewn trafodaethau am dros flwyddyn er mwyn trefnu cyfweld y cyn-lywydd
Twyll a bygythiadau yn etholiadau Twrci “ddim yn rhywbeth newydd”
Hazel Eris, sy’n byw yn y wlad, fu’n siarad â golwg360
Arweinydd Cyngor Sir Penfro wedi goroesi pleidlais hyder
Fe wynebodd David Simpson y bleidlais hyder mewn cyfarfod fore heddiw (dydd Iau, Mai 18)
Cyrff chwaraeon Awstralia’n cefnogi cydnabod pobol frodorol mewn refferendwm
Ond mae llai o bobol yn y wlad yn cefnogi cynnig y llywodraeth erbyn hyn, yn ôl ystadegau
Ymgyrchwyr ger y Senedd yn galw am ddeddf er lles natur “heb oedi”
Fel rhan o’r ymgyrch, mae strwythur pren saith troedfedd wedi cael ei osod yn dangos ‘ymyl y dibyn’ i fyd natur