“Siom a dicter” tros ddewis ymgeisydd Llafur yng Nghaerffili
Mae Chris Evans wedi’i ddewis i frwydro’r sedd yn dilyn ymddeoliad Wayne David, ond doedd aelodau ddim wedi cael cyfle i bleidleisio
Newidiadau yng nghabinet Llywodraeth Catalwnia
Mae sawl rheswm posib tros yr ad-drefnu, yn ôl adroddiadau
65 o staff Cyngor Ceredigion yn dysgu Cymraeg yn y gweithle
Mae 62% o staff y cyngor yn medru sgwrsio yn Gymraeg, ond mae pryder am ddiffyg siaradwyr o fewn y gwasanaeth gofal cymdeithasol
Cymdeithas yr Iaith am ddechrau cyfnod o “weithredu torcyfraith” i ymgyrchu dros Ddeddf Eiddo
“Mae’n amlwg bod angen cynyddu’r pwysau felly galwn ar bobol o bob rhan o Gymru i ymuno â ni mewn cyfnod o weithredu …
Boris Johnson wedi mynd: “Gwynt teg ar ei ôl”
Daeth ymddiswyddiad cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig o San Steffan yn sgil casgliadau adroddiad sydd heb ei gyhoeddi eto
Lansio ymchwiliad i ddealltwriaeth Whitehall o ddatganoli
Bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol yn edrych ar ddealltwriaeth Whitehall o ddatganoli yn y Deyrnas Unedig
Disgwyl i Rhun ap Iorwerth arwain Plaid Cymru
Mae pob aelod arall o’r blaid yn y Senedd bellach wedi cadarnhau na fyddan nhw’n sefyll
Gallai £500m o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd gael ei golli os na chaiff ei wario
Mae gan Lywodraeth Cymru bron i £650m ar ôl i’w wario eleni
Cefnogaeth y Senedd i ddatganoli dŵr yn “annigonol”
“Briwsion yn unig” fyddai datganoli dŵr a dydy cefnogaeth y Senedd ddim o reidrwydd yn sicrhau y bydd y broses yn mynd yn ei blaen, medd Gwern Gwynfil
‘Dylai arweinydd nesaf Plaid Cymru fod yn fenyw,’ medd Leanne Wood
Dywed y cyn-arweinydd mai dyma’r ffordd orau o sicrhau bod y blaid yn gallu gweithio ar awgrymiadau’r adroddiad Prosiect Pawb