Mae “siom a dicter” ymhlith aelodau’r Blaid Lafur yn etholaeth Caerffili, ar ôl i Chris Evans gael ei ddewis i fod yn ymgeisydd y blaid ar gyfer y sedd.

Cyhoeddodd Wayne David, yr Aelod Seneddol presennol dros Gaerffili, y bydd yn ymddeol adeg yr etholiad cyffredinol nesaf.

Cafodd Chris Evans, yr Aelod Seneddol presennol dros Islwyn, ei ddewis gan y Pwyllgor Gwaith Cymreig i fod yn ymgeisydd Llafur ar gyfer sedd Caerffili.

Mae’r Pwyllgor Gwaith Cymreig yn gyfuniad o gynrychiolwyr o bob adran o’r blaid, gan gynnwys aelodau seneddol, Aelodau’r Senedd, cynghorwyr, undebau llafur a Phleidiau Llafur Etholaethol.

Mae tyndra ynghylch dewis Chris Evans am nad oedd aelodau Llafur lleol wedi cael y cyfle i bleidleisio yn ystod y broses i ddewis ymgeisydd.

Llythyr

Mae Plaid Lafur Etholaeth Caerffili wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Gwaith Cymreig i fynegi eu pryderon.

“Hoffai’r Blaid Lafur Etholaethol roi ar gof a chadw i’r Pwyllgor Gwaith Cymreig y siom a’r dicter sy’n cael ei deimlo ynghylch y ffordd mae hi wedi cael ei thrin â dirmyg, mae’n ymddangos, yn y mater hwn,” meddai’r llythyr.

“Mae’n gofyn yn barchus i’r Pwyllgor Gwaith Cymreig fynd i’r afael â phryderon y Blaid Lafur Etholaethol ar y mater hwn ac adfer disgwyliad teg aelodau Plaid Lafur Etholaethol Caerffili i gael proses ddethol ddemocrataidd, ynghyd â peth sicrwydd ynghylch llunio rhestr fer.”

Ymateb Wayne David

“Mae hi bob amser yn mynd i fod ychydig yn anodd oherwydd newidiadau i ffiniau,” meddai Wayne David.

“Mae’n aelod presennol â record dda, ac rwy’n siŵr y bydd e’n cynrychioli’r etholaeth yn dda pe bai’n cael ei ethol.”

Dywed Comisiwn Ffiniau Cymru eu bod nhw’n bwriadu hollti etholaeth Islwyn rhwng Caerffili a Gorllewin Casnewydd, ac mae disgwyl cadarnhad o hynny ym mis Gorffennaf.

Pe bai’r newidiadau’n digwydd, byddai Cefn Fforest, Pengam, Pontllanfraith a Maesycwmer yn dod yn rhan o etholaeth Caerffili.

Bydd etholaeth newydd, Gorllewin Casnewydd ac Islwyn, yn cael ei chreu a byddai’n cynnwys Abercarn, Argoed, y Coed Duon, Crosskeys, Crymlyn, Trecelyn, Penmaen, Dwyrain Rhisga, Gorllewin Rhisga ac Ynysddu.

Ruth Jones yw Aelod Seneddol Llafur presennol Gorllewin Casnewydd.

Mae Chris Evans wedi gwrthod gwneud sylw yn dilyn cais gan y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol.

Plaid Cymru’n beirniadu’r broses

Yn y cyfamser, mae arweinydd Plaid Cymru yng Nghaerffili wedi beirniadu’r broses o ddewis ymgeisydd seneddol ar gyfer etholaeth Caerffili.

Mae’r Cynghorydd Lindsay Whittle, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Caerffili, wedi cymharu’r Blaid Lafur â ‘Big Brother’.

“Does bosib fod gan y Blaid Lafur yng Nghaerffili rywun oedd yn barod i sefyll ar gyfer y sedd,” meddai.

“Felly galla’ i ddeall dicter y rheiny yng Nghaerffili, sy’n rhan sylweddol o’r etholaeth newydd.

“Mae’n sicr yn fater o ‘Big Brother’ sy’n gwybod orau o ran y Blaid Lafur.

“Prin fod Aelod Seneddol Islwyn wedi amlygu ei hun ers iddo gael ei ethol.

“Tra bod y Blaid Lafur yng Nghymru wir yn gwneud anghyfiawnder â Chaerffili, mae’n annemocrataidd gorfodi ymgeisydd heb gyfarfod dethol.

“Ond am wn i, maen nhw’n gweithredu ar sail gorchymyn eu penaethiaid yn Llundain.”