Bydd arddangosfa sy’n dathlu’r berthynas rhwng ieithoedd a natur yn agor yn yr Ysgwrn, cartre’r bardd Hedd Wyn, ar Fehefin 24.
Mae ‘Geiriau Diflanedig’ yn rhan o bartneriaeth gydag Amgueddfa Cymru, ac Awdurdodau Parc Cenedlaethol Eryri ac Arfordir Penfro.
Bydd yr arddangosfa deithiol, sy’n cael ei threfnu gan Compton Verney, Hamish Hamilton a Penguin Books, yn dod â gweithiau celf gwreiddiol Jackie Morris yn fyw gyfochr â barddoniaeth Saesneg gan Robert Macfarlane yn ogystal â barddoniaeth Gymraeg gan Mererid Hopwood.
Mae’r llyfr ei hun gan Robert Macfarlane wedi ei ysgrifennu mewn ymateb i’r ffaith fod nifer o eiriau byd natur yn diflannu o eirfa ein plant sydd yn ei dro yn arwain at ddatgysylltiad rhwng meddyliau ein cenhedlaethau ieuengaf a rhyfeddodau ein hamgylcheddau naturiol.
Bydd y gweithiau celf yn pigo’r cydwybod ac yn annog y gynulleidfa i ymgysylltu â rhyfeddodau ein ieithoedd a datblygu gwerthfawrogiad tyfnach o natur.
Yr Ysgwrn
Mae’r Ysgwrn wedi’i leoli yng nghanol rhyfeddod byd natur yng Cwm Prysor, ac mae’n leoliad delfrydol i werthfawrogi’r arddangosfa a’r cysylltiad i fioamrywiaeth.
Yn amgueddfa sydd wedi ymrwymo i warchod treftadaeth Gymreig a dathlu’r cysylltiad rhwng diwylliant unigryw yr ardal gyda’r dirwedd a’r bywyd gwyllt, mae’n cynnig ei hun yn berffaith ar gyfer cynnal celf o’r fath.
Yn ôl Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol APCE, maen nhw’n “hynod falch” o groesawu’r arddangosfa ac mae’n “fraint gallu cynnal dathliad o gyfuniad mawrhydedd geiriau, byd natur a threftadaeth Gymreig yma”.
“Rydym yn gobeithio bydd hyn yn ysbrydoli pobl o bob cenhedlaeth i ailgysyslltu gyda’n hamgylchedd naturiol a meithrin y berthynas rhwng ein ieithoedd a bioamrywiaeth,” meddai.
Bydd yr arddangosfa ar agor tan y gwanwyn y flwyddyn nesaf, a bydd rhaglen o weithgareddau yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir.
Bydd pecyn addysg hefyd ar gael i ysgolion mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a gyda chefnogaeth Artfund.