Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gofynion newydd i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru er mwyn gwella gofal clefyd siwgr a rhoi gwell cefnogaeth i bobol reoli eu cyflwr.
Mae clefyd siwgr yn effeithio ar ryw 7% o bobol yng Nghymru, ac mae’r Datganiad Ansawdd ar gyfer y cyflwr yn nodi blaenoriaethau gwasanaeth allweddol a disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer datblygu gofal gwell.
Mae’n rhoi pwyslais ar ofal cefnogol da, sef helpu pobol i ddysgu sut i reoli eu cyflwr yn dda drwy gymryd rhan mewn rhaglenni addysgol, cael cefnogaeth reolaidd gan wasanaethau gofal iechyd, a gwella mynediad at dechnoleg Clefyd Siwgr, all helpu pobol i reoli’r cyflwr.
10% o’r boblogaeth yn byw â’r cyflwr erbyn 2035
Er bod clefyd siwgr math 1 yn effeithio ar oddeutu 16,000 o bobol yng Nghymru ac nad oes modd ei atal, mae dros 190,000 o bobol yn byw â chlefyd siwgr math 2, lle mae modd ei atal neu ei ohirio.
Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai nifer yr achosion godi i 10% o’r boblogaeth erbyn 2035.
A phan nad yw clefyd siwgr yn cael ei reoli’n dda, gall arwain at niwed difrifol i’r galon, y llygaid, yr arennau a’r traed yn ogystal ag achosi argyfyngau diabetig i rai pobol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’n bwysig fod pobol yn cael y cymorth cywir pan fydd ganddyn nhw’r cyflwr, a bod achosion newydd yn cael eu hatal lle bo hynny’n bosib.
Rhan o’r dull newydd yw cyflwyno cefnogaeth i bobol sydd â’r risg uchaf o gael clefyd siwgr a chyflwyno gwasanaethau lleddfu newydd ar gyfer pobol sydd newydd gael diagnosis allai wrthdroi datblygiad y cyflwr.
Yn ogystal, mae £1m y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglen ataliol ar gyfer pobol â’r cyflwr cyn-ddiabetes fel rhan o’r buddsoddiad ehangach o £13m o dan y Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach.
‘Blaenoriaeth genedlaethol’
Wrth gwrdd â chleifion sydd wedi bod trwy’r rhaglenni addysg dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:“Mae datganiad ansawdd heddiw yn nodi sut y bydd y GIG yn gwneud diagnosis ac yn helpu pobol i reoli eu diabetes.
“Mae’n nodi’r blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer datblygu gwasanaethau ac mae’n canolbwyntio’n benodol ar atal diabetes math 2 ac, yn ehangach, atal y cymhlethdodau difrifol a all ddod gyda diabetes.”
“Mae diabetes hefyd yn cael effaith sylweddol ar ein GIG.
“Rydyn ni’n buddsoddi mewn rhaglenni sy’n cefnogi pobol i gyrraedd pwysau iach – sef y ffordd orau o atal diabetes math 2.
“Fodd bynnag, mae’n amlwg bod rhaid i ni wneud mwy i atal achosion o ddiabetes math 2, sy’n cyfrif am oddeutu 90% o achosion newydd.”
“Mae angen inni wneud newidiadau systemig mawr i greu amgylcheddau sy’n annog pobol i fod yn fwy egnïol.
“Mewn ffordd debyg, mae angen i ni sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael gafael ar fwyd iach fforddiadwy.
“Mae’r newidiadau hyn yn cyrraedd y tu hwnt i’r GIG ac mae angen i bawb yn ein cymdeithas chwarae eu rhan, gan gynnwys helpu i dynnu’r pwysau oddi ar wasanaethau’r GIG.”
Newidiadau mawr mewn llywodraethu a darparu gofal
Dywed Rachel Burr, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru, fod Diabetes UK Cymru “yn croesawu’r Datganiad Ansawdd newydd ar gyfer Gofal Diabetes a lansiwyd heddiw”.
“Fel elusen, rydym yn obeithiol y bydd yn arwain at welliant amlwg mewn gofal i bobol sy’n byw gyda diabetes ledled Cymru,” meddai.
“Mae diabetes yn ddi-baid, mae’n effeithio ar bob agwedd ar fywyd unigolyn, a bywydau’r rhai sy’n agos atynt.
“Mae angen i bobol â phob math o ddiabetes gael mynediad at sgrinio a gofal arferol, cymorth seicolegol, a’r cynnig o dechnolegau newydd i allu rheoli eu diabetes yn y ffordd orau bosibl.
“Gyda darpariaeth gofal yng Nghymru yn dal i adfer yn dilyn y pandemig, a heriau pellach nawr wrth i ni wynebu argyfwng costau byw, edrychwn ymlaen at newidiadau mawr mewn llywodraethu a darparu gofal, fel bod pawb sy’n byw gyda diabetes a phawb y mae diabetes yn effeithio arnynt yn cael mynediad at gefnogaeth a gofal teg a chyson.”