Bydd ymgyrchwyr yn cynnal diwrnod o weithredu yng Nghaerdydd ar ben-blwydd Charles III, Brenin Lloegr, ddydd Sadwrn (Mehefin 17).

Nod y brotest gan Cymru Republic fydd mynnu bod Stad y Goron yn dod dan reolaeth pobol Cymru, yn hytrach na’r teulu brenhinol.

Bydd y gweithredu’n targedu afon Taf, gan fod honno’n rhan o dir y Goron, ac maen nhw’n annog pobol i gyfarfod ger y Cylch Cerrig ym Mharc Bute am 3 o’r gloch.

Maen nhw hefyd yn annog pobol mewn gwahanol rannau o Gymru i gymryd rhan.

Cred y grŵp yw y dylai Stad y Goron gyfan gael ei gosod dan berchnogaeth ddemocrataidd y bobol, fel y gall yr elw o adnoddau naturiol Cymru ddychwelyd at bobol Cymru.

Mae Cymru Republic eisoes wedi trefnu dwy brotest, y gyntaf pan ymwelodd Charles III â Chaerdydd fis Medi y llynedd, a’r ail ar ddiwrnod ei Goroni ym mis Mai.

‘Dyfodol tecach’

Dywed Ben Gwalchmai o’r grŵp fod “consensws ar draws gwleidyddiaeth prif ffrwd Cymru, gan eithrio’r Torïaid, yn galw am ddatganoli Stad y Goron”.

Cafodd y Stad ei datganoli i’r Alban yn 2016/17.

“Mae ein Prif Weinidog a’r Gweinidog Newid Hinsawdd ill dau eisiau datganoli Stad y Goron i Lywodraeth Cymru,” meddai Ben Gwalchmai, sylfaenydd Llafur dros Annibyniaeth i Gymru.

“Ym mis Ionawr 2023, cadarnhaodd y Prif Weinidog mai dyma yw polisi Llywodraeth Cymru.

“Mae’r brotest hon a phob protest ar dir brenhinol felly o blaid nid yn unig pawb yng Nghymru sydd eisiau dyfodol tecach, ond o blaid polisi Llywodraeth Cymru.

“Mae arolwg barn diweddar gan YouGov yn awgrymu bod 75% o Gymry eisiau iddi gael ei datganoli.”

‘Digon yw digon’

Ychwanega Bethan Sayed, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ei bod hi’n anghyfiawn bod Stad y Goron yn cael ei rheoli o Lundain a’i defnyddio i gynhyrchu arian i Drysorlys a Brenhiniaeth y Deyrnas Unedig “heb fawr o ystyriaeth i anghenion y cymunedau lleol”.

“Mae Stad y Goron yn berchen ar ddarnau sylweddol o arfordir Cymru, ac eto mae’r penderfyniadau ynghylch sut i reoli a datblygu’r ardaloedd hyn yn cael eu gwneud gan bobol mewn gwlad arall nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad â’r bobl na’r tir,” meddai.

“Dyna pam yr ydym yn galw am drosglwyddo Stad y Goron i berchnogaeth gyhoeddus ddemocrataidd.

“Gallem ddewis defnyddio’r tir ar gyfer creu swyddi gwyrdd newydd, neu fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.

“Mae cymryd y cam hwn ar ben-blwydd y Brenin yn symbolaidd – dywedwn digon yw digon – rhowch ein tir yn ôl i ni.

“Gobeithiwn y bydd pobl o bob rhan o Gymru’n cymryd rhan lle mae tir Stad y Goron yn bodoli gerllaw – oherwydd yn sicr bydd yn ymestyn ar hyd Cymru yn anffodus.”

‘Cymru ddylai elwa yn sgil datblygiadau ar Stad y Goron’

Cadi Dafydd

“Mae’n ymwneud â’r cynllunio hirdymor ar gyfer y newid trywydd rydyn ni’n ei gymryd fel gwlad o ran ynni,” medd Cwnsler Cyffredinol Cymru