Mae Pere Aragonès, arlywydd Catalwnia, wedi cyhoeddi nifer o newidiadau i’w gabinet.
Daw hyn ar ôl i Teresa Jordà, y Gweinidog Gweithgarwch Hinsawdd, gyflwyno’i henw fel ail ymgeisydd Esquerra ar gyfer sedd Barcelona.
Mae hi wedi cael ei symud o’i swydd, ond mae dau weinidog arall wedi’u symud o’u swyddi nhw hefyd, sef y gweinidogion tiriogaeth ac addysg.
David Mascort, dirprwy Teresa Jordà, fydd yn ei holynu, tra bydd Ester Capella, y cyn-weinidog cyfiawnder, yn olynu Juli Fernández yn y portffolio tiriogaeth.
Bu Fernández yn llafar ynghylch adeiladu priffyrdd newydd yn Terrassa a Sabadell.
Yn rôl y gweinidog addysg, Anna Simó fydd yn olynu Josep González-Cambray, sydd wedi bod dan y lach dros y flwyddyn ddiwethaf ar ôl gorfod gwrthsefyll cyfres o streiciau tros amodau gwaith a newidiadau i’r flwyddyn academaidd.
Y materion hyn sydd wrth wraidd yr ad-drefnu mewn gwirionedd, yn ôl adroddiadau, ond mae Pere Aragonès yn dweud ei fod e’n awyddus i orffen tymor y llywodraeth yn gryf ac osgoi galw etholiad cyffredinol tan 2025, er nad oes gan ei lywodraeth fwyafrif.