Mae 65 o aelodau staff Cyngor Ceredigion wedi bod yn dysgu Cymraeg dan hyfforddiant eu tiwtor Cymraeg yn y gweithle, yn ôl adroddiad newydd.
Mae’r adroddiad yn dangos bod 21 aelod o’u gweithlu bellach yn siaradwyr Cymraeg newydd ac yn defnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau proffesiynol a phersonol, ar ôl cwblhau’r Cwrs Uwch cynllun Tiwtor Cymraeg y gweithle’r Ganolfan Ddysgu Cymraeg Cenedlaethol.
Yn ôl Adroddiad Safonau’r Gymraeg ar gyfer 2022-2023 y cyngor, 62% o staff y Cyngor sy’n gallu sgwrsio ar lafar yn Gymraeg.
Mae’r Cyngor wedi sefydlu partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn ariannu Tiwtor Cymraeg Gwaith ers rhai blynyddoedd.
Fodd bynnag, mae’r niferoedd oedd yn dilyn cyrsiau dysgu Cymraeg gyda’r tiwtor yn y gweithlu ychydig yn is ar gyfer y cyfnod 2022-23 nag ar gyfer y tair blynedd cyn hynny, 82 yn 2021-22, 70 yn 2022-19, ac 83 yn 2019-20.
“Pryder” yn y gwasanaeth gofal
Dim ond un gwasanaeth o fewn y Cyngor oedd yn pryderu ynghylch nifer y siaradwyr Cymraeg oedd ar gael i ddarparu’r gwasanaeth, sef y Porth Gofal, eu gwasanaeth gofal cymdeithasol.
Mae’r Cyngor wedi tynnu sylw at y ffaith ei bod hi’n anodd recriwtio ym maes Gofal Cymdeithasol, lle mae prinder swyddogion sydd wedi’u cymhwyso’n broffesiynol, heb sôn am eu gallu yn y Gymraeg.
Er mwyn ceisio cau’r bwlch, mae’r Cyngor wedi cynnig rhaglen hyfforddiant gofal cymdeithasol yn fewnol, drwy bartneriaeth gyda’r Brifysgol Agored.
Mae’r cwrs gradd Gwaith Cymdeithasol yn cymryd tair blynedd i’w gwblhau, ac mae disgwyl i ddau siaradwr Cymraeg gymhwyso’r hydref hwn, dau arall yn hydref 2024, ac un yn ystod hydref 2025.
Ychwanega’r adroddiad fod y Tiwtor Cymraeg Gwaith wedi creu sesiynau hyfforddi pwrpasol ar gyfer staff rheng flaen ym maes gofal cymdeithasol ynghylch geirfa benodol sy’n cael ei defnyddio yn y sector, a’u bod nhw wedi darparu’r sesiynau i awdurdodau cyfagos hefyd.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod nifer y rheiny sy’n dewis gwneud cyfweliadau drwy’r Gymraeg (15%) yn isel o gymharu â’r nifer sy’n eu gwneud yn Saesneg (84%).
Dim cwynion
Wnaeth y Cyngor ddim derbyn unrhyw gwynion ynghylch eu gwasanaethau Cymraeg nac o ran gweithredu Safonau’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn.
Fodd bynnag, maen nhw wrthi’n adolygu’r broses gwynion er mwyn hwyluso’r broses o gyflwyno pryderon yn y Gymraeg.
Yn ôl Cyngor Ceredigion, mae eu prif gyflawniadau yn cynnwys adolygu Siarter Cwsmer y Cyngor, sy’n disgrifio lefel y gwasanaeth y gall pobol ei ddisgwyl wrth gysylltu â’r Cyngor a chyhoeddi Polisi’r Gymraeg ar Ddyfarnu Grantiau, er mwyn sicrhau bod prosesau dyfarnu grantiau yn ystyried unrhyw effaith ar y Gymraeg.
Dywed Catrin M S Davies, Aelod Cabinet dros y Gymraeg a Diwylliant, ei bod hi’n “braf gweld bod cynnydd cadarnhaol wrth weithredu Safonau’r Gymraeg ac mae’n dangos ymroddiad y Cyngor at wneud gwelliannau parhaus yn ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg”.
“Mae gan bobol Ceredigion yr hawl i gael gwasanaeth yn eu mamiaith, ac rydym am sicrhau ein bod yn gallu diwallu hynny,” meddai.
“Hoffen i weld mwy o drigolion y sir yn manteisio ar y gwasanaeth Cymraeg yn amlach.
“Mae diffyg hyder yn eu Cymraeg yn dal yn broblem ar hyd y sir a does dim angen iddo fod.”