Athro sy’n wreiddiol o Loegr ond sydd wedi ymgartrefu yn Aberystwyth yw un o’r pedwar sydd wedi cyrraedd rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Symudodd Tom Trevarthen i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2011.

Disgynnodd mewn cariad â’r dref a phenderfynu aros, gan fynd yn ei flaen i ddilyn cwrs TAR.

Cafodd swydd yn Ysgol Henry Richard yn Nhregaron, ac mae o bellach yn Bennaeth ar Adran Saesneg yr ysgol.

Bu’n dysgu Cymraeg mewn gwersi ar-lein wythnosol yn ystod y cyfnod clo, cyn ymuno â’r cwrs dwys dros yr haf y llynedd.

Mae o hefyd yn astudio am radd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ymchwilio i addysg yng Nghymru.

Mae’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, wrth gymdeithasu, wrth weithio ac wrth astudio, ac mae wedi troi o’r Saesneg i’r Gymraeg wrth siarad gyda ffrindiau erbyn hyn.

‘Syndod’

“Roedd bwriad gyda fi i ddysgu am flynyddoedd – fi wastad wedi gwybod pa mor bwysig ydy’r iaith,” meddai wrth golwg360.

“Wnes i drio drwy’r ymarfer dysgu wnes i o 2018 i 2019, a ges i ychydig o wersi dros y flwyddyn yna.

“Wnes i gynnydd – dim lot – ond wnes i joio.

“Ro’n i dal yn uniaith Saesneg tan y llynedd.

“Fi’n teimlo bach mwy dwyieithog nawr, a fi’n dechrau teimlo fel siaradwr Cymraeg.”

Sut deimlad yw clywed eich bod wedi eich dewis o 30 o unigolion, felly?

“Ges i syndod!

“Aeth y cyfweliad yn dda iawn ac wnes i wir joio siarad gyda’r beirniaid.

“Roedden nhw mor neis.

“Fi’n gwneud y dosbarth ar-lein bob nos Lun dros Zoom gyda Dysgu Cymraeg Gwent ac mae’n ddosbarth anhygoel.

“Ond fi wastad wedi teimlo fi’n gwaelod y dosbarth o safbwynt gramadeg.

“Fi’n hapus i siarad yn gloi a hyderus, ond fi’n gwneud bob math o gamgymeriadau, yn arbennig treigladau.

“Os ydyn nhw eisiau Dysgwr y Flwyddyn sydd yn gallu siarad yn berffaith – dim fi!”

‘Fi’n lot hapusach’

I Tom Trevarthen, mae bywyd wedi’i drawsnewid ers dysgu Cymraeg, ac nid yn unig yn ei weithle.

“Mae bywyd wedi newid yn hollol,” meddai.

“Fi’n cymdeithasu yn yr iaith – dyna beth sydd wedi bod yn bwysig i fi.

“Mae pobol wastad wedi dweud bod dysgu Cymraeg yn rhywbeth da ar gyfer dy yrfa, ac falle mae’n rhywbeth da…

“Ond mae hi’n lot fwy joiadwy na hynny.

“Fi wedi cael y flwyddyn fwyaf arbennig fy mywyd, ac mae’n gwneud fi bach yn emosiynol weithiau pan fi’n meddwl sut mae e wedi gwneud i fi deimlo dros y flwyddyn.

“Mae’n fwy na jest cyfathrebu.

“Fi’n teimlo fel fi’n gallu mynegi fy hunan.

“Ro’n i’n uniaith Saesneg felly mae o wedi trawsnewid sut fi’n teimlo am fywyd, i fod yn deg.

“Fi’n lot hapusach.

“Mae bach fel bod yn rhan o glwb newydd weithiau.

“Mae dal yn anhygoel i fi bod fi’n gallu clywed rhywbeth sydd ddim yn Saesneg a gwybod beth sy’n mynd ymlaen.

“Bob dydd fi’n deffro yn y bore a throi ymlaen Radio Cymru a gwrando ar Dros Frecwast, a fi’n deall!

“Mae’n anhygoel i fi.”

Tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Er bod yr Eisteddfod yn lleol iddo yn Nhregaron y llynedd, doedd Tom Trevarthen yn methu mynd yno.

Ond mae’n edrych ymlaen at fod ar Faes yr Eisteddfod am y tro cyntaf eleni ym Moduan.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr ddydd Mercher, Awst 9, a bydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a £300, yn rhoddedig gan Gyngor Tref Pwllheli.

“Fi’n mynd i fod yna eleni ac am fwy na jest diwrnod y seremoni Dysgwr y Flwyddyn,” meddai.

“Wnes i benderfynu misoedd yn ôl i fynd gyda fy ffrind David – fe sydd wedi enwebu fi ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn.

“Fi’n wir edrych ymlaen.

“Fi ddim yn disgwyl ennill nag unrhyw beth.

“Fi jest yn disgwyl cael amser hyfryd yn siarad gyda phobol.

“Dw i jest eisiau joio fy hun – dyna dw i eisiau cael allan o gystadlu – a fi yn yn barod.”

Cyhoeddi Rhestr Fer Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol 2023

Dyma ychydig o hanes y pedwar a’u taith gyda’r Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf