Mae gwleidyddion yng Nghymru wedi bod yn ymateb i ymddiswyddiad Boris Johnson, sydd wedi cyhoeddi ei fod yn gadael San Steffan ar unwaith gan roi’r gorau i fod yn Aelod Seneddol Ceidwadol.

Daeth ei gyhoeddiad ar y diwrnod y gwnaeth aelod blaenllaw arall o’r blaid, Nadine Dorries, gyhoeddi ei bod hithau’n rhoi’r gorau iddi hefyd, ar ôl iddi gael gwybod nad oedd hi wedi’i chynnwys yn rhestr anrhydeddau ymddiswyddiad Johnson pan adawodd e Downing Street.

Roedd disgwyl y byddai hi’n cael mynd i Dŷ’r Arglwyddi.

Ond wrth gyhoeddi ei hymadawiad, dywedodd fod “rhywbeth arwyddocaol” ar fin digwydd ac y dylai hi fod wedi camu o’r neilltu’n gynt.

Mae’r ymadawiadau’n golygu y bydd yn rhaid i’r Ceidwadwyr frwydro am ddwy sedd mewn is-etholiad.

Adroddiad i bartïon

Daw ymddiswyddiad Boris Johnson ar ôl gweld copi o’r adroddiad i ‘Partygate’, sef y cyfres o bartïon honedig gafodd eu cynnal yn Downing Street yn ystod cyfnodau clo Covid-19.

Cynhaliodd y Pwyllgor Breintiau ymchwiliad i honiadau y gwnaeth y cyn-Brif Weinidog gamarwain y senedd yn San Steffan ynghylch y sefyllfa, ac mae e wedi cyhuddo’r ymchwiliad o geisio’i “yrru allan” ar ôl iddyn nhw ddweud ei fod e wedi “ymosod ar onestrwydd” Tŷ’r Cyffredin.

Mae’r pwyllgor yn mynnu eu bod nhw wedi dilyn y gweithdrefnau priodol a mandad gwleidyddion bob amser, ac y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun (Mehefin 12).

Mae e wedi cyhuddo’r broses o fod yn “llys cangarŵ”, gan fynnu bod yr adroddiad yn “llawn camgymeriadau ac yn drewi o ragfarn”.

Ond roedd e eisoes wedi cyfaddef iddo gamarwain y senedd pan roddodd e dystiolaeth i’r pwyllgor ym mis Mawrth, er ei fod yn mynnu bod hynny wedi digwydd yn anfwriadol.

Er nad oedd ymbellhau cymdeithasol heb fod yn “berffaith”, mynnodd fod pawb yn Downing Street wedi cadw’n dynn at y canllawiau bob amser.

“Wnes i ddim dweud celwydd, a dw i’n credu yn eu calonnau fod y pwyllgor yn gwybod hynny,” meddai wrth ymddiswyddo.

Dywedodd mai bwriad y pwyllgor “o’r dechrau” oedd ei ganfod yn euog “waeth beth oedd y ffeithiau”, ac mae e hefyd wedi beirniadu llywodraeth Rishi Sunak wrth adael gwleidyddiaeth “am y tro, o leiaf”.

Wrth gloi ei ddatganiad, dywedodd ei fod e wedi cael ei wthio allan “yn annemocrataidd”, a bod ei ymadawiad yn “gam cyntaf angenrheidiol” gan rai o’i wrthwynebwyr i ddial arno am Brexit.

Mae nifer o wleidyddion Ceidwadol fydd yn derbyn anrhydeddau yn sgil penderfyniadau Boris Johnson, gan gynnwys Priti Patel a Michael Fabricant, hefyd wedi beirniadu’r ymchwiliad.

‘Llwfr’

Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda a chadeirydd y pwyllgor fu’n cynnal ymchwiliad i Boris Johnson, wedi beirniadu’r rhestr anrhydeddau gafodd ei chyhoeddi ddydd Gwener (Mehefin 9).

Roedd yn cynnwys Jacob Rees-Mogg, sydd wedi’i urddo’n farchog, ynghyd â nifer o swyddogion llywodraeth Boris Johnson oedd â rhan yn y partïon yn Downing Street, gan gynnwys un oedd wedi hysbysebu digwyddiad “dewch â’ch diod eich hun”.

Yn ôl Chris Bryant, mae ymddiswyddiad Boris Johnson yn arwydd o wendid Rishi Sunak, wrth iddo roi i’w “bwrjis – y criw mwyaf anhygred eto, anrhydeddau dianrhydedd”.

“Mae rhywbeth arbennig o lwfr am Johnson yn ymddiswyddo fel nad yw’n wynebu’r canlyniadau ac wrth fynd yn Trump i gyd,” meddai.

“Fe ddywedodd e gelwyddau, fe wnaeth e wrthod droeon i gywiro’r cofnod.

“Roedd e bob amser yn anaddas ar gyfer swydd uchel…”

Y pwyllgor a’r ymchwiliad

Wrth ymhelaethu ar waith y pwyllgor a’r ymchwiliad, eglurodd Chris Bryant fod modd cynnal ymchwiliad i gyn-aelod neu rywun nad yw’n aelod o Dŷ’r Cyffredin.

Mae hynny’n golygu y gallai fod yn amhosib i Boris Johnson ddychwelyd i fod yn aelod seneddol maes o law.

Dywed y byddai’n cael ei wahardd pe bai’n ceisio sefyll eto yn y dyfodol.

Wrth drafod yr ymchwiliad, dywedodd fod Boris Johnson yn “ofni” casgliadau’r ymchwiliad a chasgliadau Tŷ’r Cyffredin, lle mae gan y Ceidwadwyr fwyafrif o 66 sedd.

“Dydy’r Torïaid ddim bellach yn llywodraeth,” meddai.

“Mae’n bryd iddyn nhw adael y llwyfan a’n bod ni’n cael etholiad cyffredinol.”

Ar ôl darllen yr adroddiad, fe gyhuddodd e Boris Johnson o “narsisiaeth hedonaidd” gan ddweud bod ei ymosodiadau ar Harriet Harman a’r pwyllgor seneddol yn “warthus ac yn gyfystyr â dirmyg seneddol”.

Dywedodd nad yw’n “deall pam nad yw Sunak wedi eu condemnio nhw eto”.

‘Gwynt teg’

Ond mae gwleidyddion eraill o’r gwrthbleidiau yng Nghymru wedi croesawu ei ymddiswyddiad, gan ddatgan eu barn am Boris Johnson yn ddi-flewyn-ar-dafod.

“Dorries a Boris, deuawd cywilyddus a digywilydd yn gadael y llwyfan,” meddai Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon.

“Dau ddihiryn pantomeim oedd yn eu helfen yn gwneud llanast yn ystod ein horiau duaf.

“Gwynt teg.”

Yr un oedd neges Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, oedd wedi dymuno “ta ta, BoJo”, cyn ychwanegu “Gwynt teg ar ei ôl”.

“Boris, y cyn-Brif Weinidog yn rhedeg i ffwrdd dan warth oddi wrth ganlyniadau ei weithredoedd unwaith eto.

“Gymru – dyma galibr yr arweinwyr mae San Steffan yn eu gorfodi arnom.

“Gallwn ni wneud gymaint gwell.”