Mae ymchwiliad wedi’i lansio i ddealltwriaeth Whitehall o ddatganoli ledled y Deyrnas Unedig.

Bydd yr ymchwiliad, gafodd ei argymell gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol, yn digwydd yn ystod yr hydref.

Mae’n seiliedig ar ganfyddiadau’r Adolygiad Dunlop yn 2021, oedd yn edrych ar fecanweithiau’r Undeb.

Bwriad yr adolygiad oedd canfod a oedd strwythur Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i osod mewn ffordd oedd yn cydnabod yn llawn y buddion o fod yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

Yn ôl yr adolygiad, nid oedd y berthynas rynglywodraethol rhwng y pedair llywodraeth genedlaethol “yn addas at y diben”.

Ymchwiliad o’r newydd

Bydd ymchwiliad newydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol yn canolbwyntio ar ddatganoli yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Fel rhan o’r ymchwiliad, bydd y Pwyllgor yn holi gweinidogion a gweision sifil ar yr arweiniad maen nhw wedi’i dderbyn o ran trefniadau datganoli yn y Deyrnas Unedig.

Mae’n debygol y byddan nhw hefyd yn gofyn i weinidogion ac arweinwyr datganoledig i gyfrannu a rhoi tystiolaeth ar eu barn nhw ynghylch sut mae datganoli yn cael ei drin yn Whitehall.

‘Hollbwysig deall datganoli’

Dywed William Wragg, yr Aelod Seneddol Ceidwadol a chadeirydd y pwyllgor, fod yr ymchwiliad yn “hollbwysig” er mwyn sicrhau bod Aelodau Seneddol yn deall goblygiadau datganoli’n llawn.

“Mae 25 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r setliadau datganoli newid llywodraethu’r Deyrnas Unedig yn sylfaenol, gyda sefydlu sefydliadau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon,” meddai.

“Yn y cyfnod hwnnw, rydym hefyd wedi gweld pwerau’n cael eu dychwelyd i’r Deyrnas Unedig ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd a newidiadau pellach i bwerau’r sefydliadau datganoledig.

“Mae’n hollbwysig fod gweinidogion a gweision sifil Whitehall yn deall yn llawn oblygiadau’r setliadau datganoli ar y broses o lunio polisi ac yn cynnal y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i gyflawni ar gyfer pob rhan o’r Deyrnas Unedig.”

Dywed y bydd yr ymchwiliad yn ymateb i Adolygiad Dunlop drwy ganfod a yw ymrwymiad y Llywodraeth i wella datganoli wedi bod yn foddhaol.

“Rydyn ni eisiau darganfod pa gynnydd sydd wedi’i wneud a chlywed gan y rhai sydd wedi gweithio gydag ac o fewn Whitehall a’r gweinyddiaethau datganoledig,” meddai.

Dealltwriaeth Whitehall yn ddigon da?

Mae’r pwyllgor yn croesawu cyflwyniadau ar amryw o themâu, gan gynnwys y camau mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’u cymryd i adeiladu dealltwriaeth a gwreiddio ystyriaeth o ddatganoli yn Whitehall.

Byddan nhw hefyd yn edrych ar yr hyn mae sefydliadau datganoledig yn ei feddwl o ddatganoli.

Bydd yn ystyried a yw un gwasanaeth sifil i Lywodraethau’r Deyrnas Unedig, yr Alban a Chymru yn gweithio’n effeithiol ochr yn ochr â gwasanaeth ar wahân yng Ngogledd Iwerddon.

Bydd y dystiolaeth yn cael ei chasglu hyd at Fedi 8.