Yn ôl ymchwil sydd wedi’i chyhoeddi gan y Senedd, bu cynnydd o 1.6% i 4.3% yn nifer y myfyrwyr sy’n dweud bod ganddyn nhw gyflwr iechyd meddwl yng Nghymru ers 2014/15.
Mae adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ymchwilio i’r cymorth iechyd meddwl sydd i’w gael mewn addysg uwch a’u neges ganolog yw bod “myfyrwyr yn haeddu safon gyson o gymorth iechyd meddwl ar gyfer yr heriau unigryw y maent yn eu hwynebu”.
Yn gyffredinol, mae cyfradd hapusrwydd myfyrwyr Cymru ddwywaith yn waeth na’r ffigwr ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.
Dywed y Pwyllgor fod angen mynd i’r afael â’r stigma o amgylch y pwnc a deall a chefnogi’r problemau sy’n wynebu pobol ifanc gan ei bod yn debygol nad yw sawl person ifanc yn teimlo’n gyfforddus yn rhannu eu profiadau iechyd meddwl.
Maen nhw’n cydnabod, tra bod cychwyn yn y brifysgol yn amser cyffrous i rai, ei fod hefyd yn peri gofid i bobol ifanc a bod hyn yn arbennig o wir yn sgil yr argyfwng costau byw bresennol ac effeithiau hirdymor y pandemig.
Yn ôl y Pwyllgor, oherwydd ffactorau allanol mae’n bwysicach nag erioed sicrhau bod cymorth iechyd meddwl priodol ar gael i fyfyrwyr.
‘Gwaith i’w wneud’
Dywed y Pwyllgor fod gwaith i’w wneud er mwyn ehangu ffiniau’r gofal mae prifysgolion a lleoliadau statudol yn eu darparu ar gyfer myfyrwyr.
Ymysg eu hargymhellion mae sicrhau profiad cyfartal i bawb, cynnig cymorth ychwanegol yn ystod y broses pontio rhwng sefydliadau addysg a darparu cyllid hirdymor cynaliadwy.
Mae’r diffyg cymorth iechyd meddwl sydd yn cael ei gynnig yn ystod y broses bontio rhwng addysg gynradd ac uwchradd yn bwnc mae cadeirydd y Pwyllgor, Lynne Neagle, eisoes wedi ei drafod yn sgil ymgyrch Sortiwch y Switsh Mind Cymru.
Mae’r adroddiad diweddaraf hefyd yn awgrymu bod angen ei gwneud hi’n symlach i fyfyrwyr gael mynediad at gymorth iechyd meddwl gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Yn ogystal, dywed fod angen gwella’r broses o gasglu data iechyd meddwl yng Nghymru er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o’r angen am wasanaethau neu gymorth er mwyn gallu diwallu anghenion.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Cafodd 33 o argymhellion eu gwneud yn yr adroddiad, ac mae 16 ohonyn nhw wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.
O’r rheiny, cafodd unarddeg eu derbyn mewn egwyddor, tri eu derbyn yn rhannol a thri eu gwrthod.
“Mae’n hanfodol ein bod yn creu amgylchedd lle mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel i ddatgelu cyflwr iechyd meddwl, fel y gellir rhoi cymorth a darparu gwasanaethau priodol i’w cefnogi, a’u helpu i lwyddo ac i wneud yn fawr o’u hamser yn y brifysgol,” meddai llefarydd.
Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan y Senedd dydd Mercher nesaf (Mehefin 14).