Bydd cerflun Cranogwen yn cael ei ddadorchuddio ym mhentref Llangrannog heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 10).
Y cerflun o Sarah Jane Rees – oedd yn forwr, bardd, athrawes, newyddiadurwraig, pregethwraig ac ymgyrchydd – yw’r trydydd i gael ei gomisiynu gan fudiad Monumental Welsh Women.
Cafodd Cofeb Betty Campbell ei dadorchuddio yng Nghaerdydd yn 2021, a cherflun Elaine Morgan yn Aberpennar yn 2022.
Y bwriad ydy codi pum cerflun i anrhydeddu pum Cymraes dros bum mlynedd, a bydd y dadorchuddiad diweddaraf yn ddathliad creadigol fydd yn “adleisio elfennau o gyraeddiadau arloesol a niferus Cranogwen”.
Daeth Sarah Jane Rees (1839-1916) yn brifathrawes yn 21 oed, a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1865.
Hi oedd y fenyw gyntaf hefyd i olygu cylchgrawn Cymraeg i fenywod, Y Frythones, oedd yn ymgyrchu dros addysg i ferched.
‘Dod â Cranogwen yn fyw’
Mae’r cerflun wedi cael ei leoli yng nghanol Llangrannog, yn yr ardd gymunedol ar ei newydd wedd, dafliad carreg o le cafodd Sarah Jane Rees ei chladdu, ym mynwent yr eglwys.
Y cerflunydd Sebastien Boyesen o Langrannog sydd wedi bod wrthi’n creu’r cerflun.
“Sut mae gwneud rhywun fel Cranogwen ddod yn fyw?” meddai.
“Roedd hi’n berson cryf, digyfaddawd, creadigol gyda nifer o onglau iddi.”
Bydd seremoni breifat yn cael ei chynnal yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, ac yna bydd gorymdaith gyhoeddus o’r gwersyll i’r pentref am 1yp cyn i’r cerflun gael ei ddadorchuddio am 2.
Yr Athro Mererid Hopwood, y fenyw gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, fydd yn llywio seremoni’r bore.
Ar ôl hynny, bydd yr orymdaith yn symud yn ei blaen i draeth Llangrannog i fwynhau’r perfformiadau.
Fe fydd y dathliad yn cynnwys sawl un o artistiaid lleol Ceredigion, megis Qwerin ac Eddie Ladd, ac artistiaid cenedlaethol fel Casi Wyn, Bardd Plant Cymru, a Hannan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru.
‘Menyw ryfeddol, dewr ac arloesol’
Dywed Helen Molyneux, sylfaenydd grŵp Monumental Welsh Women, mai eu cenhadaeth yw “dathlu uchelgais a llwyddiant benywaidd trwy gofio am gyflawniadau Menywod gwych o Gymru – gan ysbrydoli cenhedlaeth nesaf y menywod gwych o Gymru”.
“Bydd y cofnod parhaol hwn o Granogwen yn sefyll yng nghalon ei chymuned hoff sef Llangrannog, a bydd yn ffordd o gofio menyw ryfeddol, dewr ac arloesol a’i chyflawniadau niferus a oedd wedi torri tir newydd, a bydd hefyd yn ysbrydoliaeth i ni gyd sy’n ei dilyn,” meddai.
Mae Elin Jones, Llywydd Senedd Cymru, yn aelod o Bwyllgor Llywio’r Cerflun.
“Ceir disgwyliadau uchel am y cerflun hwn o Granogwen, un a gyflawnodd cymaint yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan wneud hynny yn ystod cyfnod pan nad oedd hi’n dderbyniol i fenywod wneud pethau o’r fath,” meddai.
“Mawr obeithiwn y bydd dadorchuddio’r cerflun gyda dathliad creadigol yn ffordd o dalu teyrnged haeddiannol i fenyw ryfeddol.”
‘Stori’n hudo’
Yn dilyn y dadorchuddio, bydd S4C yn darlledu rhaglen am ei hanes â phennod arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol.
Mewn rhaglen ddogfen arbennig wythnos nesaf (nos Sul, Mehefin 18), y ddarlledwraig a’r hanesydd Ffion Hague fydd yn olrhain stori hynod Cranogwen.
“Mae stori Cranogwen wedi fy hudo i ers blynyddoedd. Des i ar draws Cranogwen wrth ffilmio rhaglen S4C Mamwlad, ac fe ryfeddais i ar gynifer ei doniau hi,” meddai.
“A’r un llinell gyson drwy ei bywyd a’i gwaith oedd dyrchafu lle’r ferch mewn cymdeithas a dangos drwy esiampl y gall menywod wireddu breuddwydion.”