Mae disgwyl cadarnhad mai Rhun ap Iorwerth fydd arweinydd nesaf Plaid Cymru.
Mae’r blaid yn chwilio am olynydd i Adam Price, oedd wedi camu o’r neilltu fis diwethaf yn dilyn adroddiad ynghylch y diwylliant o fewn y Blaid.
Cyhoeddodd Sioned Williams a Siân Gwenllian ddatganiad ar y cyd yn datgan na fydd y naill na’r llall yn sefyll, sydd ond yn gadael Rhun ap Iorwerth fel ymgeisydd.
Dim ond Aelodau o’r Senedd sy’n cael arwain Plaid Cymru, a dim ond tro pedol all atal yr Aelod dros Ynys Môn rhag cael ei benodi, gydag enwebiadau’n cau ddydd Gwener nesaf (Mehefin 16).
Mae Llŷr Gruffydd wedi bod wrth y llyw dros dro ers i Adam Price ymddiswyddo, ond roedd un o gyn-arweinwyr Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi mynnu y dylai’r arweinydd nesaf fod yn ferch.
Yn eu datganiad, dywedodd Sioned Williams a Siân Gwenllian eu bod nhw’n cytuno â sylwadau Leanne Wood ac fe wnaethon nhw gadarnhau y byddan nhw’n cyflwyno cynnig maes o law i sicrhau cyd-arweinyddiaeth yn y dyfodol er mwyn sicrhau cydraddoldeb a chynhwysiant – yn debyg i fodel y Blaid Werdd.