Mae Leanne Wood yn dweud ei bod hi’n credu y dylai arweinydd nesaf Plaid Cymru fod yn fenyw.

Wrth siarad â Bethan Rhys Roberts ar raglen Wales Live y BBC, dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru y dylai’r arweinydd newydd fod yn rywun sydd wir yn deall gwreig-gasineb.

Daw hyn yn dilyn ymddiswyddiad y cyn-arweinydd Adam Price oherwydd honiadau o aflonyddu a bwlio, a’r feirniadaeth o’i ymateb i’r adroddiad Prosiect Pawb.

Hyd yma, Rhun ap Iorwerth yw’r unig ymgeisydd i gyflwyno’i enw, ond dywed Leanne Wood y byddai hi’n dewis cefnogi ymgeisydd benywaidd drosto pe bai un yn cyflwyno’i henw.

“Pe bai yna ddynes yn ei herio, fe fyddwn i’n pleidleisio dros fenyw am yr holl resymau gwleidyddol hynny dw i wedi’u hamlinellu,” meddai.

“Yn bennaf oherwydd mae’n debyg y byddai hi wedi cael profiad ohono rywbryd yn ystod ei bywyd.”

“Her” i’r blaid

Fodd bynnag, er nad yw hi’n cytuno’n llwyr â’r unig ymgeisydd i gyflwyno’i enw hyd yn hyn, dywed y byddai hi’n ei gefnogi pe bai’n cael ei ethol.

“Os caiff ei ethol yn arweinydd, byddaf yn ffyddlon iddo, a byddaf yn gweithio gydag e,” meddai am Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ynys Môn.

“Ond fe fydd yn ymwybodol bod yna feysydd polisi lle mae’n cymryd un safbwynt pan efallai nad oes gan y blaid yr un safbwynt ag e, fel niwclear.

“Mae hynny’n mynd i fod yn her, ac rwy’n mawr obeithio y bydd yn cymryd trosolwg eang ac yn ystyried barn gwahanol bobol yn hytrach na bod yn un meddwl am rai o’r materion hyn.”

Dywedodd hefyd nad yw hi’n credu bod penodi arweinydd heb etholiad yn broses ddemocrataidd.

“Dw i ddim yn meddwl ei bod hi’n beth iach i gael coroni,” meddai.

“Mae cystadleuaeth yn sicrhau bod materion lle mae gwahaniaeth barn, a materion lle mae gwahaniaethau barn ym Mhlaid Cymru, yn cael eu gwyntyllu’n iawn a phobol yn cael cymryd safbwynt a phleidlais.”

Dim adran Adnoddau Dynol

Cyfaddefodd Leanne Wood hefyd fod problemau o ran diwylliant y blaid pan oedd hi’n arweinydd, ond fod y sefyllfa wedi gwaethygu ers hynny.

“Roedd yna faterion a digwyddiadau hanesyddol, yn enwedig o ran aflonyddu rhywiol,” meddai.

“Ond doedd yna ddim y diwylliant gwenwynig hwn ymhlith y staff.

“Mae hwnna’n ddatblygiad newydd.”

Dywed nad oedd gan y blaid adran Adnoddau Dynol yn ystod ei chyfnod hi’n arweinydd.

“Dydyn ni ddim yn blaid wleidyddol fawr,” meddai.

“Mae gennym ni nifer fach o staff y brif swyddfa.

“Mae’r prif weithredwr yn gyfrifol am Adnoddau Dynol, felly mae yna swyddogaeth Adnoddau Dynol ond dyw e ddim yn adran.

“Mae rhai materion wedi bod o gwmpas hyn yn bendant, ond mae’r pethau hyn yn faterion mae’r blaid yn edrych arnyn nhw nawr.”

Cryfhau cyn adroddiad

Yn ôl Plaid Cymru, roedd gwaith wedi dechrau i gryfhau strwythurau Adnoddau Dynol y blaid cyn i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.

“Mae nifer o’r argymhellion yn adroddiad Nerys Evans eisoes wedi eu gweithredu, ac mae Plaid Cymru yn ailddatgan ei hymrwymiad i flaenoriaethu’r gwaith yma er mwyn sicrhau fod y blaid yn ofod diogel, cynhwysol a pharchus i bawb,” meddai llefarydd.