Mae aelodau seneddol o Gymru wedi talu teyrnged i unig Aelod Seneddol y Blaid Werdd yn dilyn ei chyhoeddiad ei bod hi am roi’r gorau iddi.

Daeth Caroline Lucas yn arweinydd y Blaid Werdd yn 2008, a bu yn y swydd tan 2012 gan gael ei hethol yn aelod seneddol dros Brighton Pavilion yn 2010.

Mae hi wedi cynyddu ei mwyafrif ym mhob etholiad ers hynny.

Daeth yn gyd-arweinydd yn 2016, gan rannu’r swydd gyda Jonathan Bartley.

Cafodd ei hethol yn aelod seneddol 13 o flynyddoedd yn ôl, ac mae’n dweud bod ei phrif gyflawniadau’n cynnwys rhoi materion megis incwm sylfaenol, yr hawl i gael mynediad at fyd natur ac ymgyrchu tros TGAU Hanes Naturiol ar yr agenda, ynghyd â sicrhau’r ddadl gyntaf ar fater diwygio cyfreithiau cyffuriau.

Dywed ei bod hi’n “fath gwahanol o wleidydd”, gan gyfeirio at adeg yn 2013 pan gafodd ei harestio yng Ngorllewin Sussex am gymryd rhan mewn protest ar safle ffracio Cuadrilla.

Serch hynny, wrth gyhoeddi ei bod hi am roi’r gorau iddi, cyfeiriodd hi at anawsterau wrth geisio cydbwyso arweinyddiaeth ei phlaid gyda’i chyfrifoldeb fel unig aelod seneddol ei phlaid hefyd.

“Y gwir yw, wrth i’r bygythiadau hyn i’n hannwyl blaned ddod yn fwy o argyfwng, dw i wedi ei chael hi’n anodd treulio’r amser dw i eisiau ei dreulio ar yr argyfyngau hyn sy’n dod yn fwy o fater brys,” meddai.

Dywed y Blaid Werdd y byddan nhw’n canolbwyntio ar sicrhau mwy o aelodau seneddol yn yr etholiad cyffredinol nesaf fel bod modd “adeiladu ar waith” Caroline Lucas.

Teyrngedau

Ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged i Caroline Lucas mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, a Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon.

Dywed Chris Bryant ei bod hi wedi cynnig “goleuni ar adeg dywyll”, tra bod Hywel Williams yn dweud y bydd hi’n “golled fawr i’r achosion gorau”.

Mae wedi’i galw’n “wleidydd egwyddorol, dewr a huawdl” gan Hywel Williams, sy’n dweud ei fod yn “dra ddiolchgar iddi am gyfeillgarwch a chefnogaeth dros flynyddoedd lawer”.