Mae dysgwr o Wlad Belg, wnaeth glywed yn yr ysgol fod y Gymraeg ar drai, bellach wedi dysgu Cymraeg ac yn gobeithio symud i Gymru ryw ddydd.
Fe wnaeth Tom Peeters, sy’n byw yn Attenrode ger Brwsel, glywed y Gymraeg am y tro cyntaf yn yr ysgol.
Dywedodd ei athro wrtho fod siaradwyr Cymraeg, a phob iaith Geltaidd arall, yn gostwng mewn niferoedd, ac mai pobol hŷn yn unig mewn ardaloedd gwledig oedd yn ei siarad.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd ei ddenu at yr iaith ar ôl gweld Beibl Cymraeg mewn siop lyfrau yn Llundain.
Dechreuodd ddysgu Cymraeg gyda Duolingo yn 2017, a thair blynedd yn ddiweddarach fe ymunodd â chwrs Dysgu Cymraeg rhithiol.
Mae bellach yn dysgu ar lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Y Fro.
Diwylltiant ‘bywiog a chyffrous’
“Yn yr ysgol, mi wnes i ddysgu Ffrangeg, Almaeneg, Iseldireg a Saesneg, ac un diwrnod, roedd rhaid i mi ysgrifennu erthygl am yr ieithoedd Celtaidd,” meddai Tom Peeters.
“Ges i fy arwain i gredu bod y Gymraeg ar drai, tan i mi ddod ar draws y Beibl Cymraeg yma yn Llundain.
“Dw i mor falch i mi wneud, achos ers hynny, dw i wedi dysgu bod diwylliant Cymraeg bywiog a chyffrous yn bodoli yng Nghymru, a bod fy athro yn anghywir.”
Mae’n dod ar ei wyliau i Gymru bob haf, ac mae’n paratoi i ddychwelyd ganol mis Mehefin i sefyll ei arholiad lefel Canolradd.
“Ar ôl yr arholiad, dw i eisiau teithio i orllewin Cymru, er mwyn mynd i Dŷddewi,” meddai.
“Dw i wedi ymweld â gogledd a de Cymru o’r blaen, felly dw i’n awyddus i ddarganfod yr hyn sydd gan y gorllewin i’w gynnig.
“Un o fy hoff lefydd ydy Castell Caerffili, yn enwedig ar fachlud haul.
“Dw i hefyd yn hoff iawn o Gaernarfon, a ches i fy swyno wrth glywed criw o blant yn sgwrsio yn Gymraeg gyda’i gilydd yno un tro.”
Darllen heb eiriadur
Mae Tom Peeters yn ceisio defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth, lle bo hynny’n bosib.
“Dw i wedi darllen nofelau Cymraeg i blant, llyfrau o gyfres Amdani, a fy ffefryn ydy Plygain Olaf, sef nofel dditectif sydd wedi ei lleoli yn Sir Drefaldwyn.
“Yn ddiweddar, dw i wedi prynu Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig, a dw i wedi dysgu llawer wrth ei ddarllen.
“Fy nod ydy gallu darllen llyfrau Cymraeg heb ddefnyddio geiriadur.’’
S4c a BBC Radio Cymru yw’r ffynonellau eraill sy’n ei helpu i ddysgu’r iaith, yn ogystal â mynychu Sadyrnau Siarad rhithiol er mwyn sgwrsio gyda dysgwyr eraill.
Magu hyder i ymweld â’r Eisteddfod
Y llynedd, mi wnaeth ei ymweliad â Chymru gyd-daro â gŵyl Tafwyl, ac mae’n gobeithio magu digon o hyder i allu ymweld a deall popeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf.
“Mi wnes i elwa llawer o ymweld â Tafwyl y llynedd, a dw i’n ysu i ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn siarad Cymraeg drwy’r dydd bob dydd,” meddai.
“Fy nod yn y pendraw ydy ymddeol i Gymru pan ddaw’r amser, felly gwyliwch y gofod!’’