Mae diweddariadau i ap Adran Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn golygu bod y rhan fwyaf o wasanaethau’r adran bellach ar gael yn Gymraeg.

O Hunanasesiad i’r gwasanaeth Talu Wrth Ennill, mae modd defnyddio’r rhan fwyaf o adnoddau ar yr ap yn Gymraeg erbyn hyn, yn dilyn y gwaith uwchraddio gafodd ei gyflwyno yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae’r ap wedi cael ei ddefnyddio gan fwy na phedair miliwn o bobol, gan helpu cwsmeriaid i ddarganfod gwybodaeth am eu treth, Yswiriant Gwladol, credydau treth a mwy.

“Rydym am i gymaint o bobol â phosibl allu defnyddio ap Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi a chefnogi anghenion Cymraeg ein cwsmeriaid,” meddai Lee Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.

“Gweithiodd Uned Gymraeg Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yng Nghaerdydd yn aruthrol o galed, ynghyd â chydweithwyr digidol ledled y Deyrnas Unedig, i gyflawni’r prosiect hwn.

“Rydym yn hynod falch bod ap Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi bellach ar gael yn Gymraeg.”

Cyfarwyddiadau

Er mwyn defnyddio ap Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn Gymraeg, mae angen clicio ar eicon y gosodiadau, sy’n edrych fel “gêr”, yn y gornel dde uchaf a sgrolio i lawr i’r adran “iaith” lle mae modd toglo ar y Gymraeg.

Ar bob tudalen sydd ar gael yn Gymraeg, bydd eicon “CYM” yn ymddangos yn y gornel dde uchaf.

Bydd cyffwrdd â’r eicon hwnnw yn trosi’r geiriau sy’n cael eu harddangos i’r Gymraeg.

Yna, bydd “ENG” yn ymddangos yng nghornel dde uchaf y sgrin Gymraeg, a bydd ei gyffwrdd yn newid y dudalen i’r Saesneg.

Gwasanaethau Cymraeg eraill

Yn ogystal â’r ap, mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn cefnogi cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith mewn ffyrdd eraill.

Mae’r tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg ym Mhorthmadog, a’r Llinell gymorth TAW ac Ecséis yng Nghaerdydd yn rhoi cyngor i gwsmeriaid sy’n dymuno cyfathrebu â Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn Gymraeg ar ystod eang o faterion treth.

Mae’r Uned Gymraeg yn darparu gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi, ac maen nhw’n cydlynu holl ofynion Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi o ran y Gymraeg, ac yn rhoi cyngor.

Mae cydweithwyr a siaradwyr Cymraeg hefyd ar gael ledled Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi i gefnogi gwasanaethau cwsmeriaid ac adennill dyledion drwy’r Gymraeg.