Mae’r cynlluniau i gychwyn addysg Gymraeg yn Nhrefynwy ym mis Medi wedi cael eu gohirio am ddeuddeg mis, yn dilyn anawsterau wrth recriwtio athro.

Roedd Cyngor Sir Fynwy yn bwriadu cyflwyno addysg Gymraeg yn y drefn drwy agor dosbarth lloeren yn Ysgol Gymraeg y Ffin yng Nghil-y-coed yn Ysgol Gynradd Overmonnow ym mis Medil

Y bwriad wedyn oedd agor ysgol gynradd Gymraeg, gan ddechrau gyda dosbarth egin o fis Medi y flwyddyn nesaf.

Fis Ionawr, dywedodd Cabinet Llafur y Cyngor y bydden nhw’n bwrw ymlaen â’r cynllun er mai dim ond tri disgybl oedd wedi cofrestru erbyn y dyddiad cau y mis hwnnw i ddechrau ym mis Medi yn y dosbarth lloeren fyddai’n darparu addysg i blant meithrin, derbyn a Blwyddyn 1.

Ond mae’r Cynghorydd Martyn Groucutt, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Addysg, wedi cadarnhau bod y cynlluniau ar gyfer dosbarth lloeren wedi cael eu dileu.

Fodd bynnag, mae’r Cabinet wedi cytuno i gyhoeddi eu cynllun i agor ysgol newydd, drwy ddosbarth egin yn Overmonnow, o fis Medi 2024 ar ôl i’r cynnig ddenu cefnogaeth mewn ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae disgwyl i sefydlu’r ysgol newydd gostio £3.6m, fydd yn cynnwys ailwampio tair ystafell ddosbarth a mynd i’r afael ag ol-groniad cynnal a chadw, fydd yn cael ei ariannu drwy grant gan Lywodraeth Cymru.

Methu recriwtio

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt wrth gyfarfod y Cabinet ddoe (dydd Mercher, Mehefin 7) fod ymdrechion Ysgol y Ffin i benodi athro heb ddenu un ymgeisydd “addas”, ar ben y nifer fach o gofrestriadau.

“Roedd hi’n rhy hwyr, wrth edrych yn ôl, i sefydlu ysgol egin [ym mis Medi],” meddai.

“Roedd hi’n agos iawn at gau’r cyfnod cofrestru, ac roedd y mwyafrif o rieni eisoes wedi gwneud penderfyniad [ynghylch ysgol i’w plant].

“Er gwaethaf ymdrechion Ysgol y Ffin i gael athro, ac ar ôl hysbysebu ddwywaith, doedd yr un ymgeisydd addas wedi cael ei ddenu, ac mae ein plant wir yn haeddu’r addysg orau bosib.”

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt fod y penderfyniad i ddileu’r cynllun i ddechrau ym mis Medi wedi cael ei drafod gyda’r fforwm addysg Gymraeg a “grwpiau Cymraeg lleol”, oedd wedi cytuno i ohirio am ddeuddeg mis.

“Rydym yn dal i obeithio’n fawr y bydd darpariaeth gynradd yn cael ei sefydlu yn 2024,” meddai.

Ymgynghoriad

Dangosodd yr ymgynghoriad ynghylch sefydlu ysgol gynradd Gymraeg tair i unarddeg oed ar safle Ysgol Gynradd Overmonnow fod 106 allan o 145 o bobol wnaeth ymateb (73%) yn cefnogi darpariaeth addysg Gymraeg yn y dref.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i rieni yn Nhrefynwy a’r cyffiniau sydd eisiau i’w plant gael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg eu hanfon nhw ar daith o 37 milltir i Ysgol Y Fenni ac yn ôl.

Bwriad y Cyngor yw sefydlu ysgol ag un dosbarth yn Overmonnow, lle byddai’r ysgol Saesneg yn aros ar agor, a thyfu’r ysgol bob blwyddyn wedyn.

Dangosodd yr ymgynghoriad hefyd nad oedd 39 allan o’r 145 wnaeth ateb (27%) yn cefnogi’r cynnig, gyda nifer ohonyn nhw’n dweud bod angen buddsoddi mewn ysgolion Saesneg lleol, gan fynnu nad yw’r galw am addysg Gymraeg yn cyfiawnhau faint o arian sy’n cael ei wario yn ystod yr “argyfwng ariannol presennol”.

“Roedd y fantol o’n plaid ein cynigion o dipyn o beth,” meddai’r Cynghorydd Martyn Groucutt.

Dywedodd hefyd fod y Cyngor, o ganlyniad i’r ymgynghoriad, wedi ystyried safleoedd amgen ar gyfer yr ysgol newydd, gan gynnwys ei safle unigol ei hun, a chafodd hynny rywfaint o gefnogaeth yn yr ymgynghoriad, am “resymau’n ymwneud â throchi ieithyddol”.

“Bron yn amhosib” dod o hyd i safle newydd

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt y byddai dod o hyd i safle ar gyfer adeilad newydd yn Nhrefynwy “bron yn amhosib”, ac nad yw safleoedd amgen gan gynnwys hen Ysgol Iau Rhaglan yn addas oherwydd ei chyflwr gwael, tra nad oes teimlad fod digon o le yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Osbaston i weithredu dwy ysgol.

Bydd hawl gan ddisgyblion sy’n derbyn trafnidiaeth o’u cartrefi i Ysgol y Fenni yn dal i allu hawlio trwydded fws am ddim pan fydd yr ysgol newydd yn agor, ond mae’r Cyngor wedi dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw ystyried a fydd hawl gan frodyr a chwiorydd iau, ar ôl i rieni godi pryderon am fod â phlant mewn dwy ysgol wahanol.

Dywedodd Paul Griffiths, y dirprwy arweinydd oedd yn dweud iddo fod yn gadeirydd ar ysgol feithrin Gymraeg ac ysgol gynradd Gymraeg pan oedd yn byw yn Rhondda Cynon Taf, fod angen dechrau recriwtio’n gynnar er mwyn “adeiladu hyder rhieni” ac fe ofynnodd beth oedd yn cael ei wneud i ddenu disgyblion.

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt y byddai’n mynd i ddiwrnod hwyl yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy sydd â’r bwriad o godi ymwybyddiaeth, a bod y Cyngor yn dal i gydweithio â grwpiau Cymraeg yn yr ardal.

Dywedodd ei bod hi’n “anffodus” fod y ddarpariaeth feithrin wedi’i “chwalu” y llynedd, a hynny mae’n debyg o ganlyniad i faterion yn ymwneud â staffio a salwch.

Ychwanegodd y cynghorydd fod gan yr ysgol ddim ond deuddeg o ddisgyblion pan agorodd yn 1994 a bod y Cyngor bellach yn cynllunio ar gyfer ysgol newydd â 490 o lefydd.

Cytunodd y Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol ar Fehefin 19, gan nodi eu bwriad i agor yr ysgol ym mis Medi 2024.

Bydd cyfnod 28 diwrnod yn dilyn lle bydd pobol yn cael gwneud sylwadau ynghylch y cynnig erbyn y dyddiad cau ar Orffennaf 17.