Mae James Evans, llefarydd iechyd meddwl y Ceidwadwyr Cymreig, wedi beirniadu’r gofal sydd yn cael ei gynnig i ddioddefwyr anhwylderau bwyta yng Nghymru.
Dywed fod pobol aros “llawer rhy hir i dderbyn triniaeth”, ac y gall anhwylderau bwyta “gael effaith ddinistriol ar iechyd a lles y rhai sy’n dioddef”.
Mae hynny, meddai, “yn gwneud ymyrraeth gynnar a thriniaeth yn hollbwysig”.
Daw ei sylwadau yn dilyn y newyddion yn ddiweddar fod dynes yng Nghymru wedi marw ar ôl i’w hanorecsia waethygu o ganlyniad i ddiffyg gofal arbenigol.
Angen mwy o ofal iechyd meddwl
Mae Lara Rebecca yn actifydd ac yn bodledwraig sydd wedi bod yn siarad yn agored am ei phrofiadau hi gydag anhwylderau bwyta.
Wrth siarad â golwg360, dywedodd ei bod hi’n ddiolchgar am y gofal gafodd hi, ond ei bod hi eisiau gweld mwy o ffocws ar iechyd meddwl y rheiny sy’n derbyn triniaeth.
“Rwy’n ddiolchgar am yr help dderbyniais i, achos mae e wedi helpu fi i ddod trwyddo fe,” meddai.
“Ond mae yno wir elfennau y buasai modd eu gwella o ran edrych ar yr elfennau seicolegol a deall ein bod ni’n unigolion ac nid jyst pwysau neu ystadegau.
“Roedd mwy o ffocws ar fagu pwysau a bwyta yn hytrach na’r elfennau seicolegol, ac roedd yn rhaid i mi ddarganfod hynny fy hun.
“Dyna pam fy mod i’n awyddus i siarad yn agored am beth wnes i fynd trwyddo, oherwydd rwy’n sylweddoli bod hynny’n rwystr mae llawer o bobol yn ei wynebu.”
Unigolyn ac nid ystadegyn
Dywed Lara Rebecca fod angen mwy o gymorth ar bobol i fynd at wraidd seicolegol anhwylderau bwyta, gan fod graddfa’r effeithiau corfforol yn amrywio o berson i berson.
“Fel claf, wnes i deimlo fel rhif yn hytrach nag unigolyn sydd wedi dioddef ac sydd wedi bod yn dioddef ers tipyn o flynyddoedd,” meddai.
“Mae angen sicrhau bod pobol yn derbyn y cymorth cyn eu bod nhw’n dioddef yn wael iawn.
“Roedd yn rhaid i fi golli mwy o bwysau er mwyn cael caniatâd i fynd i’r ysbyty, roedd yn rhaid i fy BMI ddisgyn o dan rif penodol.”
Cychwynnodd Lara Rebecca ei phodlediad, Keep Smiling, er mwyn gallu siarad yn agored am ei phrofiadau gydag eraill.
“Cyn y podlediad, wnes i sefydlu blog ac roedd o’n gyfle i fi siarad yn gyhoeddus am fy mhrofiadau gyda fy anhwylder bwyta a fy iechyd meddwl.
“Roedd y cyfnod o ddioddef mor negyddol, felly roedd yn gyfle i fod yn greadigol ac i rannu fy mhrofiadau i drio helpu eraill.”
Dywed fod y diffyg ffocws ar algorithmau yn caniatáu iddi fod yn gwbl onest ac agored ar ei phodlediad.
“Dyna ble rydw i’n teimlo fwyaf cyfforddus ar gyfryngau cymdeithasol, gan ei bod yn drafodaeth agored heb gyfyngiadau.”
Buddsoddi mwy
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw am fuddsoddi mwy o arian mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta eleni, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl.
“Rydym yn cydnabod yr effaith y gall anhwylderau bwyta ei chael ar fywydau pobol ac rydym yn cynyddu buddsoddiad mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta, gan gynnwys £2.5m ychwanegol y flwyddyn ariannol hon,” meddai llefarydd.
“Bydd y rhan fwyaf o bobol sydd angen mynediad at wasanaethau, gan gynnwys gofal claf mewnol, yn derbyn y gofal hwn yng Nghymru ac rydym hefyd yn gweithio gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i archwilio’r opsiynau ar gyfer uned anhwylderau bwyta arbenigol yng Nghymru.
“Rydym yn disgwyl i bob bwrdd iechyd ddarparu cymorth arbenigol, amlddisgyblaethol i bobol ag anhwylderau bwyta.”