Mae Cymdeithas yr Iaith yn bwriadu “dechrau ar gyfnod o weithredu torcyfraith” er mwyn cynyddu’r pwysau ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phroblemau tai.
Wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ‘Cais am dystiolaeth ar sicrhau llwybr tuag at Dai Digonol’, mae Senedd Cymru wedi mynegi “siom dybryd” nad ydyn nhw am reoleiddio’r farchnad dai gyda Deddf Eiddo.
Mae’r cais am dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddeall rhenti, ymddygiad tenantiaid a landlordiaid, fforddiadwyedd a sut mae modd gwella’r cyflenwad tai dros amser.
Yn ôl Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymru y Gymdeithas, dydy’r Llywodraeth “ddim yn mynd at wraidd y broblem” wrth beidio â chyfeirio at Ddeddf Eiddo yn y papur gwyn sy’n gofyn barn ar y cynigion i sicrhau digon o dai – “dim ond ymdrin â rhai symptomau”.
“Mae tai yn cael eu trin fel asedau masnachol i wneud elw ohonyn nhw yn hytrach nag asedau cymdeithasol i ddarparu cartref,” meddai.
“Dyna sydd wedi golygu bod prisiau tai a rhenti ymhell y tu hwnt i gyrraedd pobol ar gyflog lleol a’u gorfodi o’u cymunedau.
“Croesawn y camau yn y cais am dystiolaeth i reoli rhenti a sicrhau bod rhent yn fforddiadwy, ond symptomau yw’r rhain – fel gormodedd ail gartrefi – o’r broblem sylfaenol mai’r farchnad agored sy’n rheoli ein polisïau tai.
“Heb fynd at wraidd y broblem, ni fyddwn yn atal chwalfa ein cymunedau.
“Bu miloedd yn rhan o’r ymgyrch ddiweddar am Ddeddf Eiddo gyflawn trwy ddod i ralïau ac ymateb i ymgynghoriadau, ond mae amser yn brin i ddatrys y broblem – i’n cymunedau ac i’r Llywodraeth, gan mai dwy flynedd sydd ar ôl o gyfnod y Senedd bresennol.
“Mae’n amlwg bod angen cynyddu’r pwysau felly galwn ar bobl o bob rhan o Gymru i ymuno â ni mewn cyfnod o weithredu uniongyrchol fydd yn arwain at rali dorfol ar ddydd Mercher yr Eisteddfod Genedlaethol.”
Hawl i ‘gartref diogel a fforddiadwy’
Wrth nodi’u gweledigaeth yn y cais am dystiolaeth, mae Llywodraeth Cymru’n dweud y dylai “pawb yng Nghymru allu fforddio cartref diogel a fforddiadwy sy’n diwallu eu hanghenion ar gyfer y camau gwahanol yn eu bywydau”.
“Gallai fod yn gartref brics a morter traddodiadol yn y sector cymdeithasol, y sector preifat neu’r sector perchen-feddiannaeth neu’n llety amgen megis cartref mewn parc neu gwch preswyl,” meddai’r cais.
“Mae’r gallu i alw rhywle yn gartref yn rhoi sicrwydd, hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn i gymuned.
“Mae’r ffaith bod ganddynt y sicrwydd hwn yn galluogi pobl i ymwreiddio, os dymunant wneud hynny, boed hynny yn nhermau swyddi, addysg, magu teuluoedd neu symud i le newydd i fyw ar ôl ymddeol. Felly, wrth i anghenion pobl newid dros amser, bydd y cyflenwad a’r math o gartrefi a’u lleoliad hefyd yn newid.
“Mae’r gallu i sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng y cyflenwad o gartrefi a natur y galw am gartrefi ledled Cymru yn un nod y dylid ceisio ei gyflawni fel rhan o’r gwaith o sicrhau y gall pawb yng Nghymru gael cartref digonol.
“Mae nodau eraill y mae angen eu cyflawni yn cynnwys sicrhau bod cartrefi yn ffordd, o ansawdd boddhaol, yn ddiogel rhag peryglon ac wedi’u lleoli mewn lleoedd sy’n darparu mynediad at wasanaethau iechyd, addysg, swyddi, cludiant a gwasanaethau cymdeithasol a chymunedol.”