Mae dros 50 o unigolion a sefydliadau wedi llofnodi llythyr yn galw am amnest i bobol ifanc Trelái wedi’r anhrefn yno.

Yn y llythyr, mae’r llofnodwyr yn galw ar Wasanaeth Erlyn y Goron i ollwng yr achosion yn erbyn yr ugain gafodd eu harestio mewn perthynas â’r anhrefn yn Nhrelái ar Fai 22 yn dilyn marwolaethau Harvey Evans a Kyrees Sullivan.

Roedd golygfeydd treisgar yn yr ardal yn dilyn marwolaethau’r ddau fachgen lleol mewn gwrthdrawiad.

Mae’r llythyr, sydd wedi cael ei lofnodi gan y cyfarwyddwr Hollywood Boots Riley, yn galw ar Mark Drakeford i wneud datganiad yn galw am amnest iddyn nhw hefyd.

Ymysg y llofnodwyr eraill mae Cyhoeddiadau’r Stamp, Paned o Gê, Black Lives Matter Caerdydd, y cyn-Aelod o’r Senedd Bethan Sayed, ac ymchwilwyr fel Dr Catherine Foster sy’n gymrawd ymchwil iechyd y cyhoedd.

Ers i’r llythyr gael ei ysgrifennu, mae ugain o bobol wedi cael eu harestio, ac yn ôl y llofnodwyr “bydd trosglwyddo cyhuddiadau difrifol i blant a phobol ifanc yn effeithio ar gwrs eu bywydau cyfan”.

Mae’r llythyr yn dadlau y byddai mynd i’r llys, neu’r carchar, yn niweidio eu hiechyd meddwl a chorfforol presennol a hirdymor, ynghyd â’u mynediad at waith, addysg a chymorth.

‘Diwedd ar droseddoli’r gymuned’

“Ni allwn amgyffred yr hyn y mae cymunedau Trelái yn mynd trwyddo ar hyn o bryd, ac rydym yn cydsefyll â nhw yn eu colled,” meddai Cyhoeddiadau’r Stamp, un o lofnodwyr y llythyr.

“Rydan ni’n gobeithio, trwy arwyddo’r llythyr agored hwn, ein bod yn ychwanegu llais arall at yr alwad i beidio â chymryd mwy gan gymuned sydd eisoes mewn galar dychrynllyd, a pheidio ag achosi mwy o niwed diangen i’w phobl ifanc.”

Yn ôl y llythyr, “galwn am amnest i’r bobol ifanc hyn a diwedd ar droseddoli cymuned Trelái yn sgil y terfysgoedd hyn”.

“Mae bywydau teulu, ffrindiau a chymuned ehangach y plant sydd wedi colli eu bywydau wedi cael eu newid am byth. Nid oes unrhyw ffordd i ddod â nhw yn ôl.

“Nid oes angen achosi mwy o ddioddefaint i’r gymuned hon trwy roi ei bobol ifanc dan glo. Bydd troseddoli’r [20] yma a gyhuddwyd o derfysg yn difetha eu bywydau, ac yn dinistrio bywydau eu teuluoedd.

“Bydd yn creu mwy o boen a dioddefaint mewn cymuned sydd wedi dioddef digon o ganlyniad i weithredoedd y “system gyfiawnder troseddol.

“Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i wneud datganiad yn galw am amnest, yn addo dim mwy o arestiadau ac i Erlyniad y Goron ollwng y cyhuddiadau yn erbyn y rhai sydd eisoes wedi’u harestio eisoes.”

Cefndir

Yn dilyn marwolaethau’r bechgyn, lledodd si fod fan heddlu wedi bod yn eu dilyn cyn y ddamwain.

Dywedodd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, i ddechrau nad oedd swyddogion yn “erlid” y ddau fachgen.

Wedi hynny, dangosodd recordiad teledu cylch-cyfyng fod fan heddlu wedi bod yn dilyn y bechgyn cyn y ddamwain angheuol.

Er bod Heddlu’r De wedi dweud eu bod nhw wedi bod yn dilyn y bobol ifanc cyn y gwrthdrawiad, mae’r heddlu’n dweud nad oedd yna’r un car heddlu ar Heol Snowden pan ddigwyddodd y ddamwain.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw am yn ymchwilio i’r gwrthdrawiad ar ôl i fideo ddangos cerbyd heddlu yn dilyn beic trydan ychydig cyn y digwyddiad.

Wrth gyhoeddi bod cyfanswm o ugain o bobol wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, dywedodd Heddlu’r De fod 17 ohonyn nhw’n ddynion a thair yn fenywod, a’u bod nhw rhwng 14 ac 17 oed.

Mae’r ugain wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth, ond mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl arestio rhagor o bobol.

“Fel rhan o’r ymchwiliad hyd yn hyn, mae dros 290 o fideos o gamerâu corff heddweision wedi’u casglu,” meddai Ceri Hughes, Uwch Swyddog Arolygu’r Heddlu.

“Mae hynny’n ogystal â sawl awr o fideos wedi’u postio ar gyfryngau cymdeithasol, drôn, hofrennydd, a lluniau teledu cylch cyfyng.

“Mae disgwyl i ni arestio rhagor wrth i ni barhau i adnabod y rheiny oedd yn rhan [o’r anhrefn].”

‘Sïon wedi cyfrannu at yr anhrefn yn Nhrelái’

Cadi Dafydd

Mae un sy’n byw yn Nhrelái ac a oedd yn dyst i’r anhrefn yno’n credu bod y gymuned wedi “cael eu gadael lawr yn wael” gan yr heddlu

Anhrefn Trelái: Naw o bobol wedi cael eu harestio

Maen nhw i gyd yn y ddalfa ar amheuaeth o godi terfysg