Dafydd Meurig, y cynghorydd sy’n dal portffolio Cynllunio ar Gyngor Gwynedd, sy’n ymateb i’r dadlau diweddar am y Cynllun Datblygu ar y Cyd â Môn… 

Mae’r mater sydd gerbron y Cyngor Gwynedd fory (dydd Gwener, Gorffennaf 28) yn un o ddifrifol bwys. Dau opsiwn sydd, sef i fabwysiadu, neu beidio mabwysiadu, y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Bydd y penderfyniad yn gosod y polisiau i reoli datblygiadau yn y sir hyd at y flwyddyn 2026.

Mae’n hollbwysig bod aelodau etholedig Gwynedd yn gwneud eu penderfyniad yn seiliedig ar y ffeithiau ac ar dystiolaeth. Yn ddiweddar, mae llawer iawn wedi ei ysgrifennu a’i ddweud am y Cynllun sy’n gamarweiniol ar y gorau, ac yn aml yn anghywir.

Ymddiheuriadau os yw’r wybodaeth a ganlyn yn faith a thechnegol, ond mae’r CDLl ar y Cyd yn ddarn enfawr o waith, ac mae’n amhosib talfyrru i ychydig baragraffau broses sydd wedi cymryd chwe blynedd i’w chwblhau, ac wedi creu toreth o adroddiadau ac asesiadau.

Mae’r broses wedi cynnwys sawl ymgynghoriad cyhoeddus, sydd wedi arwain at newidiadau amrywiol dros y blynyddoedd. Rwyf wedi cynnwys dolenni yn y testun ar gyfer y rhai sydd â diddordeb pellach.

Ffaith 1: Nid yw Gwynedd yn bwriadu codi 8,000 o dai

Mae’r Cynllun yn nodi gofyniad am 3,712 o gartrefi yn ystod oes y Cynllun (2011-2026), sef cyfartaledd o 248 o gartrefi newydd bob blwyddyn. Gan ein bod dros bum mlynedd i mewn i oes y Cynllun, mae’r cyfanswm uchod yn cynnwys y tai hynny sydd eisoes wedi eu codi, a’r rhai sydd wedi cael caniatâd cynllunio ers 2011.

Erbyn Ebrill 2016 roedd 917 o’r cartrefi wedi eu codi’n barod, a 1,429 wedi cael caniatâd cynllunio. Felly os caiff y cartrefi sydd gan ganiatâd cynllunio eu hadeiladu, 1366 o gartrefi sydd i’w darparu dros y 10 mlynedd 2016-2026, cyfartaledd o 137 y flwyddyn, ar draws ardal Gwynedd o’r Cynllun.

O’r 1,366 o gartrefi newydd hyn, disgwylir oddeutu 450 ‘ar hap’ (datblygiadau o fewn neu gyfochrog y ffiniau datblygu presennol neu mewn adeiladau presennol) sy’n gadael 915 o dai i’w codi mewn dynodiadau newydd. Mae’r rhain ar 26 safle newydd ar draws y sir (Atodiad 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol, t. 244), ac yn gymysgedd o dai fforddiadwy a thai marchnad agored.

Wrth osod y cyd-destun, mae 1,830 o geisiadau ar restr aros tai cymdeithasol yng Ngwynedd, ac oddeutu 500 wedi cofrestru gyda Tai Teg – cofrestr o bobol gyda diddordeb mewn perchnogi tŷ lle nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu fforddio prynu ar y farchnad agored.

Ffaith 2: Cynllun Datblygu Lleol yw’r brif ddogfen sy’n caniatau i Awdurdodau Cynllunio reoli datblygiadau newydd yn eu hardaloedd. Heb Gynllun Datblygu yn ei le, ni all Awdurdod Cynllunio reoli datblygiadau yn unol â’i amcanion.

Ers i oes hen Gynllun Gwynedd ddod i ben (CDU 2001-2016), nid oes gan Gyngor Gwynedd Gynllun cyfredol. Hyd nes i’r Cynllun newydd gael ei fabwysiadau, nid oes gan y Cyngor ddarpariaeth tir pum mlynedd fel sy’n ofynnol o dan y Ddeddf, felly mae risg gwirioneddol y gallai datblygwr ennill apêl yn erbyn y Cyngor ar y sail yma.

Digwyddodd hyn yn ddiweddar iawn yn Sir Wrecsam (sydd heb Gynllun Datblygu Lleol wedi ei fabwysiadu), ble caniatawyd ystad o 365 o dai ar apêl ger pentref Llai. Yn ôl Arolygydd yr apêl, roedd y ffaith nad oedd gan y sir ddarpariaeth digonol o dir mewn cynllun cyfredol yn “ystyriaeth faterol” yn yr achos.

Ffaith 3: Nid yw cais Morbaine/Penyffridd i godi 366 ym Mangor eto wedi ei ganiatau

Ystyriwyd yr achos yn nghyd-destun yr hen Gynllun Datblygu (CDU Gwynedd 2001-2016), ac argymhelliad Arolygydd yr apêl i Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru oedd i ganiatau.

Nid yw’r Ysgrifennydd wedi dod i benderfyniad eto, ac ar y 24 o Orffennaf daeth llythyr ganddi gerbron y Pwyllgor Cynllunio oedd yn cydnabod y dylid rhoi llawer mwy o bwysau i’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi derbyn adroddiad yr Arolygydd.

Nid yw safle Penyffridd wedi ei gynnwys ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, felly mae’r Cyngor yn bwriadu gofyn i Lywodraeth Cymru ail agor yr apêl fel y gall y Cyngor amddiffyn barn cynrychiolwyr lleol a’r gymuned, a herio’r penderfyniad ar sail y sefyllfa gynllunio gyfredol.

Petai cais Morbaine/Penyffridd yn cael ei wrthod, ni fyddai’r 366 o unedau yn cael eu hychwanegu at ddynodiad Bangor yn y CDLl ar y Cyd.

Ffaith 4: Mae Asesiadau Iaith y Cynllun Datblygu Lleol wedi casglu a dadansoddi gwybodaeth o sawl ffynhonnell am yr iaith a’r cymunedau.

Cyhoeddwyd Proffil Iaith gan Uned Ymchwil a Gwybodaeth Cyngor Gwynedd, gan ddefnyddio teclyn ‘Gweithredu’n Lleol’ Bwrdd yr Iaith Gymraeg i chwilio am wybodaeth berthnasol – gweler Papurau Testun 10A (10B ar gyfer Môn).

Yn groes i’r honiad ar golwg360, ac yn wahanol i asesiad Hanfod, mae Asesiad Iaith y Cynghorau wedi bod yn broses barhaus – mae cyfres o adroddiadau yn Llyfrgell yr Arolygydd, e.e. adroddiad Asesiad Iaith 2013, adroddiad Asesiad Iaith 2016.

Mae Asesiad Iaith y Cynghorau wedi hysbysu’r Asesiad Cynaliadwyedd a gafodd ei wneud ar y cyd gydag ymgynghorydd allanol sy’n arbenigo mewn gwneud asesiadau o gynaliadwyedd cynlluniau datblygu a phrosiectau unigol. Mae crynodeb anhechnegol o’r Asesiad yma.

Fe ystyriwyd adroddiad Hanfod fel rhan o’r corff tystiolaeth gan Arolygydd y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’n cyfeirio’n benodol ato ym mharagraff 3.23 o’i Adroddiad.

Ffaith 5: Yn ystod Gwrandawiad Cyhoeddus ar 6 Medi 2016 gofynnodd yr Arolygydd i’r Cynghorau ailedrych ar faen prawf 3 a 4 Polisi PS1 – gyda golwg o’u huno – gan nad oedd yn credu bod y berthynas rhyngddynt ddigon clir. Nid oedd y newid o ganlyniad i wrthwynebiad gan Horizon.

Yn wir, yn dilyn Gwrandawiad Cyhoeddus ar 26 Ebrill 2017 awgrymwyd ffurf ar eiriad gan gynrychiolydd un o’r mudiadau iaith oedd yn bresennol, a hwn yw’r ffurf sydd bellach yn ymddangos yn y Cynllun Datblygu Lleol.

Y geiriad llawn (Polisi PS1, maen prawf 3) ydy “(G)wrthod cynigion a fyddai yn achosi niwed o sylwedd i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned nad allir ei osgoi neu ei liniaru yn foddhaol trwy ddefnyddio mecanwaith cynllunio priodol”.

Ffaith 6: Pwrpas Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) yw ymhelaethu ar y polisïau sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol gan roi canllawiau pellach sy’n cyfeirio datblygwyr i gynnig datblygiadau yn unol ag amcanion y Cynllun.

Mae’n fwriad gan gynghorau Gwynedd a Môn yn fuan yn yr hydref i lunio CCAau newydd i gydfynd a’r Cynllun Datblygu Lleol. Y pwysicaf o’r rhain ym marn nifer o Gynghorwyr Gwynedd yw’r CCA ‘Cynnal a Chreu Cymunedau Unigryw a Chynaliadwy’ a fydd yn delio efo materion yn ymwneud â’r Iaith Gymraeg.

Defnyddir y CCA hwn wrth asesu ceisiadau cynllunio unigol, a bydd hwn yn cynnwys, er enghraifft, cig ar asgwrn polisiau megis PS1 uchod, a chanllawiau yn ymwneud â throthwyon a methodoleg asesiadau iaith.

Bydd y CCA presennol ‘Cynllunio a’r Iaith Gymraeg‘ yn cael ei ddefnyddio hyd nes bydd yr un newydd wedi ei fabwysiadu.

Yn gyfochrog â hyn, bydd y gyfres cyntaf o’r CCAau eraill yn cael eu datblygu fydd cyn bwysiced ar gyfer gwarchod y Gymraeg o fewn y drefn gynllunio, sef CCA Tai fforddiadwy; CCA Tai Marchnad leol; CCA Math a Chymysgedd Tai; a CCA Ymrwymiadau Cynllunio.

Bydd y broses o lunio’r CCAau yn dryloyw ac agored, ac yn tynnu ar nifer o ffynhonellau ac arbenigedd. Bydd hefyd yn destun cyfnod ymgynghori statudol, ac mae’n hollbwysig bod cynifer â phosib o garedigion yr Iaith Gymraeg yn cymryd rhan yn y broses hon er mwyn creu CCAau cadarn o safon uchel.

Ar ôl bod yn destun ymgynghori cyhoeddus ac ymateb i’r sylwadau a dderbynnir, caiff y CCAau eu mabwysiadu a byddant yn ystyriaeth cynllunio wrth asesu ceisiadau cynllunio.

Mae rhestr o’r Canllawiau Cynlluniuo Atodol presennol i’w cael yma.

Ffaith 7: Diffiniad ‘Tai Fforddiadwy’ yw ’tai a fydd yn cael eu darparu drwy bolisïau yn y Cynllun a gaiff eu meddiannu gan bobol nad ydynt yn gallu prynu na rhentu ar y farchnad agored ac sydd angen tai’.

Mae polisïau’r Cynllun yn darparu Tai Fforddiadwy mewn sawl ffordd. Mewn rhai ardaloedd, mae gofyn i 100% o’r tai fod yn fforddiadwy. Mewn ardaloedd eraill, y ffigwr o rhwng 10% a 30% (yn dibynnu ar yr Ardal Prisiau Tai) yw’r man cychwyn ar gyfer unrhyw gyd-drafod gyda datblygwyr.

Gallai swyddogion geisio canran uwch ar adeg ystyried cais cynllunio unigol, os y cefnogir hyn gan asesiad hyfywedd.

Bydd yr holl dai fforddiadwy yn cael eu sicrhau drwy gytundeb cyfreithiol (oni bai am achosion lle mai cymdeithas tai sy’n gyfrifol am y tai newydd) a byddant yn destun cymal meddiannaeth leol.

Yn ogystal â’r tai fforddiadwy hyn, mae disgwyl i nifer helaeth o’r tai marchnad agored fod yn fforddiadwy oherwydd eu math, maint, a’u lleoliad.

Ffaith 8: Mae’r Cynllun yn cynnwys polisi arloesol Tai Marchnad Leol (Polisi TAI5, tud. 131) sy’n cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf erioed yng Nghymru.

Mewn rhai mannau penodol – ble mae pris y rhan fwyaf o’r tai ymhell y tu hwnt i gyrraedd pobol leol – mae’r polisi yn golygu y bydd defnydd tai newydd yn cael ei gyfyngu gan amod cynllunio neu gytundeb cyfreithiol i bobol sydd â chysylltiadau lleol yn unig.

Bydd y Polisi yma yn weithredol yn Abersoch, Aberdaron, Borth-y-Gest, Llanbedrog, Llangian, Morfa Bychan, Mynytho, Rhoshirwaun, Sarn Bach, a Thudweiliog.

Ffaith 9: Yn y pentrefi llai, ni fydd dynodiadau tai o’r newydd. Yn hytrach, disgwylir cwrdd â’r angen lleol drwy geisiadau cynllunio yn codi ‘ar hap’.

Er enghraifft, mewn pentrefi sydd wedi eu diffinio fel Clystyrau, ni chaniateir tai marchnad agored. Bydd yr holl gartrefi newydd yn yr ardaoledd isod yn 100% Tai Fforddiadwy:

ARFON – Aberpwll, Bethesda Bach, Caerhun/Waen Wen, Capel y Graig, Crawia, Dinorwig, Gallt y Foel, Glasinfryn, Groeslon Waunfawr, Llanllechid, Llanwnda, Minffordd (Bangor), Mynydd Llandygai, Nebo, Penrhos (Caeathro), Pentir, Saron (Llanwnda), Talybont, Tan y Coed, Treborth, Ty’n-lôn, Ty’n y Lôn, Waun (Penisarwaun).

DWYFOR – Aberdesach, Bryncir, Bryncroes, Llanengan, Llannor, Llwyn Hudol, Pantglas, Penmorfa, Penrhos, Pentrefelin, Pistyll, Pontllyfni, Rhoslan, Swan, Tai’n Lôn.

MEIRIONNYDD – Aberllefenni, Corris Uchaf, Llanaber, Llandderfel, Llanfor, Minffordd, Talwaenydd.

Ffaith 10: O’i fabwysiadu, bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei fonitro yn flynyddol er mwyn mesur ei effaith, a bydd adroddiad monitro yn cael ei gyhoeddi bob mis Hydref wedi i’r Cynllun fod yn weithredol am flwyddyn.

Os bydd yr adroddiad monitro yn dangos nad yw’r Cynllun yn cyflawni’r hyn a obeithiwyd, mae cyfle ar ddiwedd y bedwaredd flwyddyn i adolygu’r Cynllun – hynny ydy, addasu polisiau, ychwanegu/tynnu dynodiadau tai ac ati.

Os oes newid sylweddol yn yr amgylchiadau e.e. petai Wylfa Newydd yn cael ei ohirio i gyfnod y tu hwnt i oes y Cynllun, gellid adolygu’r Cynllun ynghynt, heb orfod disgwyl am y cylch pedair blynedd.

Wrth fabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, bydd y Cyngor yn gallu defnyddio’r polisïau arloesol hyn i gael rheolaeth gadarn dros ddatblygiadau yn y sir, yn hytrach na bod ar drugaredd y datblygwyr mawr.

Mae dolen yma i’r rhai sydd â diddordeb darllen y dogfennau cefndir.