Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi y bydd un o fwytai canolfan gelfyddydau Pontio yn cau dros dro – a hynny lai na dwy flynedd ers i’r lle agor ei ddrysau i’r cyhoedd.

Mae’n debyg y bydd bwyty ‘Gorad’ yn cau ddiwedd yr haf eleni (Medi 1), er mwyn galluogi staff i “newid offer coginio”.

Daw’r penderfyniad, meddai llefarydd ar ran Prifysgol Bangor, yn sgil adolygiad o holl wasanaethau arlwyo Pontio, ac mi fydd y bwyty yn ail-agor yn y flwyddyn newydd gyda “chynnig newydd ar gyfer cwsmeriaid”.

Yn y cyfamser, fe fydd y mannau eraill sy’n gwerthu bwyd o fewn y ganolfan – caffi ‘Cegin’ a chiosg ‘Copa’ – yn parhau ar agor. O fis Medi ymlaen, fe fydd byrbrydau ar gyfer ym mar ‘Ffynnon’ hefyd.

Yn ôl y brifysgol, “ni fydd unrhyw ddiswyddiadau o ganlyniad i’r newidiadau yma”.