Neil Hamilton
Hefin Jones sy’n bwrw’i olwg unigryw arferol ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu.
Aberconwy – ble’r oedd Ukip?
Dim ond dwy etholaeth yng Nghymru na chafodd y fraint o fedru pleidleisio dros ymgeisydd UKIP, sef Arfon ac Aberconwy. Efallai nad ydynt yn gweld Arfon fel man naturiol i’w polisïau, ond pam fod y fath anwybyddu ar Aberconwy druan? Ai diogrwydd? Ynteu a oedd posib eu bod yn ffafrio un ymgeisydd, ac y byddai sefyll yno’n rhannu pleidlais y mewnfudwyr? Os felly, mi weithiodd.
Gwep Leighton
Doedd ond un ymgeisydd am goron ‘gwep blin y noson’. ‘Standing in Rhondda is no more than a political stunt’ esboniodd Leighton Andrews yn 2013 am enwebiad Leanne Wood yn ei etholaeth. ‘It’s clear that she plans to get back into the Assembly on the regional list and the people of the Rhondda will soon see through that’.
Neil Hamilton – inja-roc UKIP
Wrth i un seren syrthio daw un arall yn ei le. A dechrau addawol i Neil Hamilton. Cyn cadarnhau na fydd yn trafferthu byw yn Nghymru, roedd ar Good Morning Britain (‘and it is a good morning in Britain’ fel na ddywedodd Ron Davies) y bore hwn yn esbonio swmp anferth ei Gymreictod sylweddol wedi i’r holwr amau. ‘If you cut me open’, Owain Glyndwr-iodd, ‘I’m like a stick of Blackpool rock’. Noson hwyr i fod yn deg.
Twmpath y Torïaid
Etholiadu creadigol gan rywun yn Witney, Lloegr. Roedd yr ymgeisydd Llafur wedi colli ei sedd, ond fel yr oedd pawb yn barod i fynd adref beth a ddarganfuwyd oedd peil taclus o bleidleisiau i’w enw ar waelod twmpath y Torïaid, oedd yn ddigon i achub Duncan Enright. Digon i atgoffa dyn o refferendwm yr Alban.
Chwilio am hiliaeth
Creisis ac epidemig wrth i’r blaid Lafur dderbyn cymorth dyngarwyr o bob man i dyrchu drwy holl hanes eu haelodau am yr hiliaeth gwrth-Iddewig anferth yn eu parti. Ac mae’r cliriad mawr hyd yn hyn wedi cyrraedd….daliwch arni, nid ar chwarae bach mae cyfri…18. Ymysg troseddion y deunaw hyn, os fedrwch stumogi’r fath hiliaeth, oedd nodi fod Israel yn cefnogi ISIS, nodi fod triniaeth Israel o Balestiniaid fel triniaeth y Natsïaid o Iddewon, nodi fod ysgolion yn trwytho plant am y Natsïaid tra’n anwybyddu troseddau eraill hanesyddol ayyb. Da iawn bawb am y gwaith diflino, diwyro a diderfyn o chwynu’r fath ffasgwyr o ardd taclus gwleidyddiaeth.
WMD’s Saddam
Nid fod neb yn cyfrif, ond i gymharu mae 24 Aelod Seneddol Ceidwadol wedi llwyddo i gael eu dal yn gor-wario ar eu hymgyrchoedd etholiadol, sy’n drosedd go-lew o ddifrifol. Hyd yn hyn, does yr un wedi colli ei swydd – yn wahanol i rai o’r miloe…deunaw aelod Llafur dieflig, nac wedi cael eu henwi ar newyddion y BBC. Y tro olaf clywyd cymaint o chwerthin a chlincian gwydrau yn ystafelloedd tywyll San Steffan oedd wedi’r llwyddiant o dwyllo eu senedd i bleidleisio ar oresgyn Irac gyda WMD’s Saddam Hussein.
Gwynedd a hawliau dynol Iddewon
Amser rhagorol felly i’r Jewish Human Rights Watch fynd â chynghorau Gwynedd ac Abertawe i’r llys am sefydlu eu polisi o wrthod prynu nwyddau Israel oherwydd eu hymosodiad echrydus a’u gwarchae parhaol ar Gaza. Hyd yn hyn maen nhw yn gwrthod rhyddhau lluniau o’r cyfarfodydd siambrau o freichiau syth a marciau beiro mewn sgwariau taclus o dan eu trwynau. ‘They wouldn’t pass a motion saying something deropgatory abouit women, so why would they do that about Jews’ symleiddiodd cyfreithiwr JHRW ar y BBC.
Rhyddid i’r farchnad!
Tolltodd rhyw ddihiryn 248 tudalen o ddrafft cytundeb TTIP i Greenpeace, a darllen gwael y gwnaiff i’r rhai…wel, un, Guto Bebb…sydd wedi mynnu nad oes unrhyw berygl i’r Gwasanaeth Iechyd na neb o gwbl. A’r hyn mae’n ddangos yw fod yr Undeb Ewropeaidd wedi ceisio annog yr Americanwyr i feddalu ychydig ar yr Investor State Dispute Settlement, y darn sy’n hoelio hawl corfforaethau preifat i erlyn llywodraethau sy’n eu hatal rhag unrhyw elw posib. Ond na, dim gobaith. Ac eitha gwaith hefyd. Bydd y farchnad o’r diwedd yn rhydd! Rhyddid i’r farchnad!
Cyfaddefiad ar Heno
Yn dangos eu bod wedi cyrraedd uwchgynghrair y sefydliadau mae Undeb Amaethwyr Cymru, fel pob sefydliad gwerth ei halen, wedi penodi bos sydd â dim profiad o gwbl yn y maes. Croeso i’w Cyfarwyddwr Rheoli newydd, y cyn-Uwchgapten Alan Davies, yr un mae BBC Cymru wastad yn ei gyfweld i gyfiawnhau bomio pa bynnag wlad y mis hwnnw. ‘Mae’n bwnc hollol newydd i fi, do’n i ddim wedi bod yn y byd amaeth cyn eleni,’ cyfaddefodd ar Heno.
Uwch Gynghrair lle?
A son am uwchgynghrair, daeth cwestiwn i geisio Ffansi Ffortiwn ar Heno a’r ymgais ‘Pa glwb enillodd yr Uwchgynghrair Pêl-droed?’ gyda’r dewis rhyngwladol o Gaernarfon, Caerlŷr a Chaerfyrddin. Gan mai ond un Uwchgynghrair sydd, sef yr un nad sydd angen y wlad yn ei enw.
Pedlo cyffuriau
Tîm seiclo Prydain, British Cycling, oedd yn gyfrifol am fwydo cyffuriau i reidiwr a fethodd ei brawf, felly cawn edrych ymlaen i ddegau o aelodau seneddol a sylwebwyr yn galw am wahardd seiclwyr Prydain o’r Gemau Olympaidd, yn union fel erfynont am wahardd athletwyr Rwsia.