Bethan Gwenllian
Bethan Gwenllïan sydd yn edrych ar beth fydd effaith argyfwng Tata ar etholiadau’r Cynulliad…

Gyda’r argyfwng dur diweddaraf yn fater gwleidyddol annisgwyl yng Nghymru ac ym Mhrydain, mae wedi rhoi siawns o’r newydd i bleidiau Cymru gael danlinellu eu haddewidion i ddiwydiannau a swyddi yma yng Nghymru.

Gyda datblygiad economaidd yn un o’n pwerau datganoledig, mae ymateb pleidiau Cymru yn hynod o bwysig yn y tymor byr er mwyn sicrhau swyddi miloedd o bobol, a hefyd er mwyn cadw economi Cymru yn sefydlog.

Ond efallai y bydd effaith tymor hir ar ymateb y pleidiau hefyd. Gyda’r argyfwng yn digwydd fis cyn yr etholiad Cynulliad, mi fydd y ffordd y mae’r pleidiau yn ymateb yn aros ym meddyliau’r pleidleiswyr, rhywbeth allai newid canlyniad y bleidlais fis Mai.

Mae’n rhaid cofio bod yr argyfwng dur yn effeithio ar economi Cymru ond hefyd ar economi Prydain, ac yn eistedd felly rhwng pwerau ein Cynulliad a chyfrifoldebau San Steffan.

Hyd yn hyn mae ein llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi galw ar lywodraeth Geidwadol San Steffan i estyn llaw i geisio datrys problemau’r diwydiant.

Er bod angen i Brif Weinidog Cymru ymateb i’r argyfwng, mae’n siawns wrth gwrs i Blaid Llafur Cymru ddangos y gwahaniaethau sydd rhyngddyn nhw a’r Blaid Geidwadol yn San Steffan.

Ymateb dryslyd

Mewn datganiad diweddar fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: “Bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth o fewn ei gallu.

“Ond mae’r cwestiynau sylfaenol sy’n wynebu’r diwydiant cynhyrchu dur yng Nghymru yn mynd ymhell y tu hwnt i’n cyfrifoldebau datganoledig. Rwy’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gamu i’r adwy a chwarae ei rhan.”

Mae’r datganiad yn wrthgyferbyniad llwyr i ymateb dryslyd y Torïaid yn Llundain, gyda Sajid Javid y Gweinidog Busnes yn cydnabod bod y newyddion am Tata Steel ym Mhort Talbot wedi bod yn annisgwyl.

Mae pwyslais Carwyn Jones fod yn rhaid i achub y diwydiant dur fod yn ymdrech sy’n cael ei rannu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn sicrhau nad yw Llundain yn anwybyddu’r ffaith fod yr argyfwng yn effeithio ar y ddwy ochr o boptu Clawdd Offa.

Fe allai ymateb dryslyd y Ceidwadwyr danseilio’r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn yr etholiadau Cynulliad, rhywbeth a fydd efallai yn gweithio er lles Llafur a Phlaid Cymru.

Galw pawb nôl

Mae’r gwahaniaeth mewn ymateb hefyd i’w weld gyda’r trafodaethau ar y mater. Fe alwodd Carwyn Jones gyfarfod argyfwng yn y Cynulliad ar ddydd Llun, rhywbeth gafodd ei ganmol gan Jeremy Corbyn.

Dechreuodd Corbyn ddeiseb yn gofyn i David Cameron weithredu i achub y diwydiant dur ac i alw senedd San Steffan nôl. Hyd yn hyn, mae gan y ddeiseb dros 150,000 o lofnodau.

Mae dewis Carwyn Jones i alw’r Senedd nôl ddydd Llun yn dangos bod yr ymateb i’r argyfwng llawer cryfach yng Nghaerdydd nac yn Llundain.

Yn wir, mae’n edrych yn fwy amlwg bod y Blaid Geidwadol yn ansicr o beth i wneud nesaf, a hynny ddim yn debygol o fod o gymorth i’r Ceidwadwyr Cymreig fis Mai.

Plaid i fanteisio?

Mae ymateb, neu ddiffyg ymateb, y Ceidwadwyr hefyd yn rhoi’r siawns i Blaid Llafur a hefyd i Blaid Cymru ymosod arnynt.

Mewn blog ar wefan Plaid Cymru ym mis Chwefror, fe ddywedodd yr AC Bethan Jenkins fod y “diwydiant dur Cymru dan fygythiad difrifol, a rhaid i ni weithredu rhag blaen os ydym am gefnogi’r diwydiant trwy’r amseroedd hynod anodd hyn”.

Ym mis Ionawr, fe alwodd Plaid Cymru ar Lywodraeth Cymru i gymryd “cyfranddaliad rhannol” yn Tata Steel er mwyn ceisio achub y diwydiant ac achub miloedd o swyddi.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw ar y ddwy lywodraeth i weithio law yn llaw i geisio achub y diwydiant, efallai er mwyn tynnu sylw etholwyr ar y ffaith bod angen i Blaid Lafur Cymru chwarae rhan wrth wella’r sefyllfa, yn ogystal â gwleidyddion Llundain.

Er bod Carwyn Jones wedi galw ar David Cameron i wladoli’r ffatri, mae’n debyg y bydd Plaid Cymru yn gallu tynnu sylw pobol at fethiant Llywodraeth Cymru i ymateb yn gynt.

Pleidlais bwysig

Gyda miloedd o swyddi yn y fantol, mae dyfodol Tata Steel ym Mhort Talbot yn ansicr.

Ansicr hefyd yw’r camau y bydd Llywodraeth Prydain yn ei gymryd er mwyn sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru a ledled Prydain.

Mae ymateb araf gwleidyddion Llundain i’r argyfwng yn rhoi neges glir i ni yma yng Nghymru: ni sy’n gyfrifol am sicrhau dyfodol ein diwydiannau.

Mae’n pleidlais ym mis Mai felly yn hynod bwysig er mwyn dewis pa wleidyddion sy’n mynd i weithredu er ein lles ni i achub ein swyddi a’n heconomi.

Mae Bethan Gwenllïan yn astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.