Y ffliw oedd un o'r prif resymau dros y cynnydd mewn marwolaethau
Mae ffigyrau newydd wedi dangos bod y nifer o farwolaethau yng Nghymru a Lloegr y llynedd ar ei uchaf ers 12 mlynedd – gan arwain at leihad mewn disgwyliad oes dynion a merched.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), roedd y ffliw wedi cyfrannu at farwolaethau nifer sylweddol o bobl 75 oed neu’n hŷn.

Cafodd y rhan fwyaf o’r marwolaethau ychwanegol yn 2015 eu cofnodi o fewn tri mis cynta’r flwyddyn, ac roedd hynny’n cyd-daro â’r adeg pan oedd yr achosion o ffliw ar eu uchaf.

‘Diffyg effeithiolrwydd’

Rhwng 2014 a 2015 bu cynnydd o 5.6% yn y nifer o farwolaethau yng Nghymru a Lloegr, gyda nifer y marwolaethau yn 2015 yn cyrraedd 529,613 – y ffigwr uchaf i gael ei gofnodi ers 2003.

O ganlyniad fe gwympodd ddisgwyliad oes pobl yng Nghymru a Lloegr y llynedd, gyda dynion yn disgyn 0.2 blwyddyn i 79.3 oed, a merched yn disgyn 0.3 i 82.9 oed.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi amcangyfrifon marwolaethau ar gyfer cyfnod y gaeaf yn unig, gan awgrymu bod y cynnydd yn nifer o farwolaethau yn ystod y gaeaf yn ymwneud â diffyg effeithiolrwydd brechlyn y ffliw.

‘Nifer o ffactorau’

Dywedodd yr Athro John Newton, a gyfrannodd at yr astudiaeth, y gallai “nifer o ffactorau gyfrannu at gynnydd yn nifer o farwolaethau ymysg pobl hŷn mewn blwyddyn benodol”.

“Mae ffliw yn gallu cael effaith fawr, yn enwedig ar y rheiny sydd fwyaf bregus neu’n dioddef o salwch arall, fel dementia,” meddai.