Mae David Cameron o'r farn y byddai pobol ifanc Prydain ar eu colled petai'r wlad yn gadael yr Undeb Ewropeaidd (llun: PA)
Fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn rhybuddio pobol ifanc y bydden nhw’n cael eu taro waethaf pe bai Prydain yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Cameron yn Nyfnaint heddiw i lansio’r ymgyrch i recriwtio mwy o bleidleiswyr ifainc, sydd yn llai tebygol o bleidleisio na’r genhedlaeth hŷn – y rheiny sydd fwyaf tebygol o fod eisiau gadael Ewrop.
Daw’r sesiwn ar ôl i’r llywodraeth gael ei feirniadu am wario £9.3 miliwn o arian trethdalwyr ar hyrwyddo’r ymgyrch i aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ac am ei sefyllfa ariannol.
Ond mae undeb gweithwyr y GMT bellach wedi cyhoeddi eu bod nhw am ymgyrchu o blaid gadael Ewrop yn y refferendwm ym mis Mehefin, a hynny er mwyn gwarchod swyddi a hawliau.
Tynnu sylw
Yn ystod ei araith yn Nyfnaint, fe fydd David Cameron yn tynnu sylw at dystiolaeth y byddai diweithdra’n codi’n gynt o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Fe fydd yn dweud y bydd y bleidlais i adael yn cael effaith ar brisiau, gobeithion am swyddi, addysg a theithio, ac y byddai effeithiau economaidd gadael yr Undeb yn waeth i bobol ifanc nag unrhyw un arall.
Mae’r taflenni sydd wedi arwain at ffrae yn dweud wrth bleidleiswyr y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn “lleihau buddsoddiad a cholli swyddi”.
Ond mae’r AS Llafur Graham Stringer, sydd o blaid ‘gadael’, wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o geisio tynnu sylw oddi ar y ffrae am sefyllfa ariannol Ian Cameron, ac unrhyw elw a ddaeth i’r Prif Weinidog yn sgil dulliau osgoi trethi a gafodd eu defnyddio gan ei dad.
Undeb o blaid gadael
Yn y cyfamser, mae undeb gweithwyr yr RMT yn annog aelodau i bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan ddweud eu bod yn gofidio am golli swyddi a hawliau gweithwyr.
Wrth amlinellu eu rhesymau, dywedodd yr undeb fod polisïau newydd Ewrop ar reilffyrdd yn debygol o arwain at breifateiddio ac y byddai’n amhosib gwyrdroi’r penderfyniad wedyn.
Ychwanegodd yr undeb y byddai morwyr ar eu colled o golli hawliau, swyddi a chyflogau drwy bolisi newydd sy’n cael ei lunio.
Ac maen nhw’n dadlau y byddai llymder yn dod i ben pe bai Prydain yn gadael Ewrop, ac y byddai’n golygu llwyddo i atal cytundeb TTIP rhag cael ei dderbyn.