Y gobaith yw arbed ynni yn y wlad, yn ôl yr arlywydd Nicolas Maduro
Mae Arlywydd Venezuela wedi cyhoeddi y bydd holl weithwyr y wlad yn cael diwrnod ychwanegol at eu penwythnos, a hynny am y ddeufis nesa’.

Mewn cyfweliad ar deledu’r wlad nos Fercher fe ddywedodd yr Arlywydd Nicolás Maduro fod hyn yn rhan o gynllun 60 diwrnod i arbed ynni, wrth i’r wlad wynebu argyfwng o ran eu cyflenwad.

O ganlyniad, bydd pob dydd Gwener yn ddiwrnod o wyliau i weithwyr Venezuela o hyn tan ddiwedd mis Mai, ac mae disgwyl iddo effeithio ar wasanaethau’r sector gyhoeddus a phreifat.

Yr wythnos diwethaf, fe gafodd gweithwyr y wlad dridiau ychwanegol at eu gwyliau Pasg, mewn ymgais i arbed ynni bryd hynny.

Mae’r broblem yn ymwneud â sychder diweddar, gyda’r cronfeydd dŵr sydd eu hangen i bweru’r gorsafoedd hydro-electrig yn isel iawn.