Mae Andrew RT Davies yn dweud ei fod eisiau gweld Cymru'n wlad o drethi isel
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi dweud y bydden nhw’n rhewi treth cyngor am bum mlynedd petawn nhw’n ffurfio’r llywodraeth yn dilyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Yn ôl y blaid mae cyfraddau wedi codi o 178% ers 1997, ac mae’r Cymry bellach yn gwario mwy ar dalu trethi cyngor nag unrhyw ran arall o Brydain.

Mynnodd y Ceidwadwyr bod y llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd wedi gwrthod â defnyddio £94m gafodd ei ddarparu er mwyn lleddfu cost trethi cyngor, er bod hynny wedi cael ei wneud yn Lloegr.

“Ers 19 mlynedd mae un llywodraeth Lafur diegni ar ôl y llall wedi eistedd ar eu dwylo tra bod pobol Cymru’n dioddef cynnydd andwyol i’w biliau treth cyngor. Mae’n rhaid i hyn stopio,” meddai arweinydd Ceidwadwyr Cymru Andrew RT Davies.

‘Gwlad o drethi isel’

Dywedodd y Torïaid bod teuluoedd yng Nghymru bellach yn dlotach o £794 ers 2011/12 oherwydd y cynnydd yn y dreth ers i’r llywodraeth Lafur diweddaraf ddod i rym.

“Ers 2011 mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am rewi treth cyngor, ac os cawn ni ein hethol i lywodraeth ym mis Mai dyna’n union wnawn ni,” meddai Andrew RT Davies.

“Byddai’r mesur yn para drwy gydol y tymor Cynulliad nesaf, gan olygu bod pobol yn gallu cadw mwy o’r arian y maen nhw’n ei ennill, rhoi sicrwydd ariannol i deuluoedd sy’n gweithio’n galed, a rhoi hwb i economïau lleol.

“Mae hyn yn rhan o weledigaeth y Ceidwadwyr Cymreig i wneud economi Cymru’n un o drethi isel.”