A fyddai rhagor o gyfyngiadau ar smygwyr o dan lywodraeth Plaid Cymru?
Mae Plaid Cymru wedi dweud y bydden nhw’n ystyried codi’r oedran y mae modd prynu sigarennau i 21, yn ogystal â chyflwyno treth ar ddiodydd pop a chefnogi isafswm ar bris alcohol, os fyddan nhw mewn grym wedi etholiadau’r Cynulliad.
Daw hyn wedi iddyn nhw lansio eu maniffesto ddydd Mawrth, gan ychwanegu eu cynlluniau i geisio lleihau’r marwolaethau y mae modd eu hatal sy’n ymwneud ag alcohol, ysmygu a gordewdra.
Ynghyd â chodi’r oedran o 18 i 21 oed ar gyfer prynu sigarennau, fe fydden nhw am wahardd ysmygu mewn mwy o fannau cyhoeddus hefyd – fel traethau a pharciau.
Eu bwriad yw arbed 10,000 o fywydau drwy leihau’r marwolaethau y mae modd eu hatal o 25% erbyn 2026.
‘Achub bywydau’
A hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol Iechyd, dywedodd Elin Jones, Llefarydd Iechyd Plaid Cymru bod “gormod o bobl yn marw cyn eu hamser yng Nghymru a rhaid gwneud llawer mwy i leihau’r nifer o farwolaethau ataliadwy”.
Esboniodd y byddai Llywodraeth Plaid Cymru’n mynd i’r afael â gordewdra drwy gyflwyno “treth pop sydd wedi denu cefnogaeth arbenigwyr meddygol”.
Ynghyd â chodi’r oedran prynu sigarennau i 21 oed, maen nhw am leihau camddefnydd o alcohol drwy roi “cefnogaeth gref” i gyflwyno isafswm pris alcohol.
“Bydd lleihau’r nifer o bobl sydd ddim yn iach yn achub bywydau a hefyd yn arbed arian i’r Gwasanaeth Iechyd,” meddai Elin Jones.
‘Uchelgeisiol’
Esboniodd y Llefarydd Iechyd, Elin Jones, eu bod am osod y “targedau uchelgeisiol” oherwydd “er gwaethaf cynnydd technoleg feddygol mae cyfradd y cwymp mewn marwolaethau ataliadwy yn arafach yng Nghymru nag yn Lloegr”.
“Yn 2013, roedd adroddiadau’n nodi fod 7,601 o bobl yng Nghymru wedi marw o ganlyniad i farwolaethau ataliadwy. Os fydd cynlluniau Plaid Cymru yn llwyddo, gellir achub dros 2,000 o fywydau’r flwyddyn,” ychwanegodd.
Maniffesto
Wrth gyhoeddi’u maniffesto ddydd Mawrth, dywedodd arweinydd y blaid Leanne Wood mai dyma’r “rhaglen fwya’ uchelgeisiol hyd yn hyn ar gyfer y llywodraeth”.
Mae eu cynlluniau ar gyfer iechyd hefyd yn cynnwys cyflogi 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys ychwanegol.
Ond, mae’r Blaid Lafur eisoes wedi eu cyhuddo o fod eisiau torri £1.5biliwn o gyllideb iechyd Cymru erbyn 2021, rhywbeth mae Plaid Cymru wedi mynnu sydd yn “gelwydd”.