Fyddech chi'n barod i fynd am dro am 41 munud ar ôl bwyta bar siocled Mars? (llun: Fighting Falcon/CC3.0)
Dylai pecynnau bwyd gynnwys gwybodaeth am faint o ymarfer corff sydd ei angen er mwyn llosgi’r calorïau sydd ynddyn nhw, yn ôl un arbenigwr ar iechyd cyhoeddus.
Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd, Shirley Cramer yn dadlau bod angen newid agwedd y cyhoedd at y bwydydd y maen nhw’n ei fwyta, er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ffitrwydd.
Un ffordd o wneud hynny, meddai, yw dweud ar becynnau bwyd faint o ymarfer corff fyddai angen ei wneud er mwyn llosgi’r cyfanswm calorïau y mae’r bwyd yn ei gynnwys.
Fe allai hynny newid arferion siopa rhai pobol – yn enwedig gyda’r awgrym y gallai fod wedi cymryd dros bum awr o gerdded er mwyn llosgi’r calorïau mewn un ŵy Pasg poblogaidd gafodd ei werthu eleni!
‘Chwe eiliad cyn dewis’
Dyw cynnwys faint o fraster, siwgr a halen sydd mewn bwyd ar ei ben ei hun ddim yn ddigon, meddai mewn erthygl ar gyfer cyfnodolyn y British Medical Journal.
Dywedodd y byddai cynnwys gwybodaeth am ymarfer corff yn dylanwadu ar y math o fwydydd y byddai pobol yn dewis ei brynu, faint o fwyd i’w fwyta ar y tro a faint o ymarfer corff i’w wneud ar ôl bwyta.
Yn ôl ymchwil sy’n cael sylw yn ei herthygl, mae 44% o bobol yn dweud bod pecynnau bwyd yn ddryslyd ar hyn o bryd.
Dywedodd Shirley Cramer bod angen symleiddio ond ehangu’r wybodaeth sydd ar becynnau, gan mai am chwe eiliad yn unig y mae pobol yn edrych ar becynnau ar gyfartaledd cyn penderfynu prynu neu beidio.
“Mae pobol yn cael symbolau’n llawer haws i’w deall na gwybodaeth ar ffurf rhifau, ac mae labeli calorïau sy’n cyfateb i ymarfer corff yn hawdd i’w deall,” meddai.
Cyfri’r calorïau
Mae dynion yng ngwledydd Prydain yn pwyso 13.2 stôn (84kg) ar gyfartaledd. O ystyried hynny, dyma enghreifftiau o faint o amser y byddai’n ei gymryd i losgi calorïau mewn rhai bwydydd cyffredin wrth gerdded ar gyflymdra sionc o ryw bedwar milltir yr awr.
Sglodion – 253 calori – 35 munud
Creision Ready Salted – 132 calori – 18 munud
Bar o siocled Mars – 294 calori – 41 munud
Mae menywod yng ngwledydd Prydain yn pwyso 10.5 stôn (67kg) ar gyfartaledd. Gan ddefnyddio’r un meini prawf, dyma faint o amser y byddai’n ei gymryd i fenywod losgi’r un faint o galorïau:
Sglodion – 45 munud
Creision Ready Salted – 24 munud
Bar o siocled Mars – 52 munud
Ond mae newyddion gwaeth i unrhyw un wnaeth fwyta ŵy Pasg Dairy Milk eleni, gydag un o’r rheiny’n cynnwys 1818 calori. Byddai llosgi’r calorïau yn un o’r rheiny’n cymryd dynion 253 munud o gerdded sionc ar gyfartaledd – bron i bedair awr a chwarter.
Ac fe fyddai’n cymryd merched 332 munud ar gyfartaledd i losgi’r calorïau yn yr ŵy Pasg – bron i bump awr a hanner o gerdded!