Baner gwrthryfelwyr Darfur
Mae un o uchel swyddogion y Cenhedloedd Unedig wedi galw ar i’r ddwy ochr yn rhyfel y Swdan roi’r gorau i ymladd … wrth i 138,000 ffoi o’u cartrefi ers dechrau’r flwyddyn.
Fe alwodd y pennaeth cynnal heddwch, Herve Ladsous ar i’r ddwy ochr yn rhanbarth Darfur ddod at ei gilydd i drafod.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae o leia’ 300,000 o bobol wedi eu lladd yn yr ymladd ac, ar ôl 13 mlynedd, does dim arwydd ei fod yn dod i ben.
Maen nhw’n amcangyfri hefyd fod mwy na 2.5 miliwn o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi.
Y cefndir
Gwraidd yr anghydfod yn Swdan oedd ymgyrch annibyniaeth gan Affricaniaid yng ngorllewin y wlad sy’n cyhuddo arweinwyr Arabaidd y wlad o wahaniaethu yn eu herbyn.
Mae’r Llywodraeth wedi ymateb drwy arfogi lluoedd Arabaidd ac ymosod ar y bobol gyffredin.
Maen nhw hefyd wedi’u cyhuddo o allforio aur yn anghyfreithlon, ac o wneud elw gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd, ond maen nhw’n gwadu eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le.