Y llun neidio bunjee (Clive Arrowsmith/PA Wire)
Dau lun coll gan ffotograffydd o Gymru fydd canolbwynt cyhoeddiad newydd o luniau o fyd cerddoriaeth.
Fe ddaeth Clive Arrowsmith, y ffotograffydd o Sir y Fflint, o hyd i’r lluniau o’r cyn-Featle Paul McCartney yn ei atic yn Llundain.
Fe fyddan nhw’n cael eu cyhoeddi am y tro cynta’ mewn cyhoeddiad arbennig o gylchgrawn y Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol.
Y lluniau
Roedd y ddau lun wedi eu tynnu yn 1995 – un y dangos y gitarydd fel petai’n gwneud naid bunjee a’r llall yn un cariadus ohono ef a’i wraig Linda McCartney, dair blynedd cyn iddi farw o ganser.
Roedd Clive Arrowsmith, sy’n cale ei ystyried yn un o’r ffotograffwyr enwogion gorau, wedi dod i adnabod y Beatles gwreiddiol pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Celf Queensferry a nhwthau yng Ngholeg Celf Lerpwl.
“Mae’r lluniau’n dal eiliadau allweddol y sesiwn pan ddaeth y cyfan ynghyd,” meddai Clive Arrowsmith.
“Yr hwyl yr oedden ni’n ei gael ac agosatrwydd Paul a Linda; naturioldeb y lluniau yw allwedd eu llwyddiant.”