Huw Jones - 'cysylltiad rhwng dyfodol y sianel a dyfodol yr iaith' (Llun Golwg360)
Mae’r ddadl dros S4C, fel sianel deledu i wasanaethu siaradwyr Cymraeg, yn gryfach heddiw na phan sefydlwyd yn sianel ym 1982, meddai cadeirydd awdurdod S4C mewn araith neithiwr.

Mae’r sianel yn allweddol er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n gyfrwng credadwy a pherthnasol yn yr oes honno, meddai, a bod cysylltiad pendant rhwng hynny a dyfodol yr iaith.

“Beth bynnag yw’r cyfleoedd newydd sy’n cael eu creu gan y we a’i ffenestri amrywiol, teledu – yn ei ystyr ehangaf – sy’n parhau i fod yn brif lwyfan ein dyddiau ni.”

Y dadleuon yn ‘gryfach’

Roedd Huw Jones yn annerch cynhadledd Dyfodol Gwasanaeth Teledu Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, un o nifer o ddigwyddiadau sy’n rhan o Ymchwiliad yr Arglwydd Puttnam i ddyfodol gwasanaeth teledu cyhoeddus.

“Mae’r pwyntiau sylfaenol am bwysigrwydd teledu ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg yn union yr un rhai ag enillodd y ddadl i greu S4C yn 1982,” meddai.

“Ond faint cryfach yw’r dadleuon yna heddiw pan mae’r hyn sy’n cael ei gynnig i wylwyr trwy gyfrwng yr iaith Saesneg yn debycach i fwy na 500 o sianeli tra yn y Gymraeg ’da ni’n dal i ddibynnu ar ddim ond un?”

“Tydi pob iaith leiafrifol ddim wedi cael llwyfan tebyg i’r un y mae S4C wedi’i ddarparu dros y 34 mlynedd diwethaf. Tydi bob iaith leiafrifol ddim yn wynebu’r dyfodol gyda’r hyder cymharol sy’n wir am y Gymraeg. Mae yna gysylltiad rhwng y ddau beth.”