Bywyd yn y brifddinas yw canolbwynt nofel newydd Llwyd Owen
Bydd un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru yn cyhoeddi ei ddegfed nofel mewn deng mlynedd yr wythnos hon.

Mae ‘Taffia’ gan Llwyd Owen yn mynd i fyd y Ditectif Danny Finch, a oedd hefyd yn gymeriad ymylol yn y nofelau ‘Mr Blaidd’ a ‘Heulfan’.

Daw Llwyd Owen o Gaerdydd yn wreiddiol, ac mae’n dal i fyw yno.

‘Taffia’ yw ei ddegfed nofel i gyd, a’i wythfed yn y Gymraeg. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2007 am ‘Ffydd Gobaith Cariad’.

Yn ‘Taffia’, mae’r Ditectif Danny Finch yn colli ei swydd ar ôl cael ei gyhuddo o dwyll. Rhaid iddo dderbyn gwaith fel swyddog diogelwch ond, ar ôl gwrthod cyfle i fod yn rhan o fusnes anghyfreithlon, mae ei fòs yn cynllwynio yn ei erbyn.

‘Dim cynllun nac uchelgais’

Meddai Llwyd Owen: “Doedd dim cynllun nac uchelgais penodol gennyf pan gychwynnais gyhoeddi nofelau yn 2006, ond rhaid cyfaddef fy mod i’n reit falch o’r hyn rydw i wedi ei gyflawni.

“Beth bynnag sy’n digwydd yn y dyfodol, gallaf edrych yn ôl â balchder ar y degawd diwethaf.”

Caiff ‘Taffia’ ei lansio yn swyddogol yn Yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn, 16 Ebrill am 3 o’r gloch – gyda cherddoriaeth fyw gan Colorama.