Yr wythnos yma, agorodd cyfnod o ymgynghori yn ardal Parc Cenedlaethol Eryri, all arwain at gam cyntaf i’r cyfeiriad iawn o arafu twf mewn tai gwyliau yno. Mae’n dilyn cyfnod tebyg o ymgynghori sydd eisoes wedi cael ei wneud gan Gyngor Gwynedd.
Mae’r ymgynghori’n ymwneud â newid y drefn gynllunio fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i gael caniatâd i droi tŷ o fod yn brif gartref yn llety gwyliau neu’n ail gartref – er na fydd yn effeithio ar y tai hynny sydd eisoes yn dai gwyliau.
Rhoi’r hawl i gynghorau weithredu rhywfaint o reolaeth ar y farchnad dai mae’r newid sy’n cael ei adnabod fel cyflwyno Erthygl 4 – nid gweithredu rheolaeth o’r fath. Mae’n bwysig fod y rheini sydd wedi bod yn codi bwganod yn erbyn y newid yn deall hyn.
Ni fydd yr angen am ganiatâd cynllunio i droi tŷ a fu unwaith yn gartref yn llety gwyliau neu’n ail gartref yn golygu rhagdybiaeth o angenrheidrwydd y bydd cais o’r fath yn cael ei wrthod ym mhob achos. Holl bwynt trefn o’r fath ydi galluogi ffordd o rwystro twf pellach mewn tai gwyliau yn yr ardaloedd hynny lle maen nhw allan o reolaeth. Mi fydd y graddau y gweithredir hyn yn dibynnu ar gynlluniau datblygu lleol ac arweiniad gwleidyddol awdurdodau cynllunio – y Parc Cenedlaethol yn achos Eryri, a’r cynghorau sir yn y rhan fwyaf o weddill Cymru.
Er mor bwysig ydi hi fod cynghorau’n cael yr hawliau hyn i wrthsefyll colli cartrefi parhaol o’r stoc dai, bydd angen bod yn ofalus sut fydd y grym hwnnw’n cael ei weithredu.
Hyd yn oed mewn ardaloedd lle mae’n ymddangos bod eisoes ormodedd o dai gwyliau, mi fydd yn anodd cyfiawnhau gwrthod ceisiadau mewn rhai achosion. Gall y tai fod yn rhy fach neu mewn cyflwr rhy wael i fyw ynddyn nhw drwy’r flwyddyn ond eto’n ddigon da i aros am gyfnodau byr ar y tro yn ystod yr haf. Gallai gosod llety gwyliau hefyd helpu i gynnal teuluoedd lleol sy’n berchen ar un neu ddau eiddo o’r fath mewn ardaloedd gwledig.
Angen mesurau eraill
Rhaid sylweddoli na fydd y mesurau hyn i reoli twf tai gwyliau ddim yn ddigon oni bai eu bod yn digwydd law yn llaw â mesurau eraill i fynd i’r afael â gor-dwristiaeth.
Does dim pwynt i adran gynllunio awdurdod neu gyngor fod yn arafu twf mewn tai gwyliau os bydd eu hadrannau datblygu economaidd yn tanseilio’u hymdrechion trwy annog datblygiadau fydd yn denu mwy a mwy o ymwelwyr i’w hardaloedd. Os ydan ni o ddifrif am leihau pwysau ar y farchnad dai, mae’n golygu hefyd rheoli ac atal gor-dwristiaeth yn gyffredinol. Mae’n golygu’r angen am ragdybiaeth yn erbyn cymeradwyo rhagor o atyniadau ymwelwyr ar raddfa fawr, a chefnu ar y feddylfryd o groesawu unrhyw ddatblygiad ar sail yr addewidion gwag arferol o “greu swyddi”. Os bydd mwy a mwy o ymwelwyr yn dod, a phrinder llety ar eu cyfer, bydd hynny’n arwain at fwy o geisiadau am godi gwestai newydd ac ehangu meysydd carafannau. A chan nad oes digon o weithwyr lleol i’r diwydiant fel y mae, bydd galwadau wedyn am ddatblygu llety ar gyfer gweithwyr tymhorol. Y cyfan fydd yn digwydd fydd cylch dieflig o orddatblygu, gan gyfrannu ymhellach at ddifetha cymeriad ardaloedd o arwyddocâd amgylcheddol a diwylliannol arbennig.
Hefyd, pe byddai trefn rhy haearnaidd o gyfyngu ar lety gwyliau heb fesurau cyfatebol i reoli gor-dwristiaeth, gallai yrru prisiau’r tai gwyliau presennol yn uwch fyth. Canlyniad hynny fyddai eu rhoi y tu hwnt i gyrraedd busnesau bach lleol, gyda dim ond cwmnïau mawr yn gallu eu fforddio os ydyn nhw’n dod ar y farchnad.
Rhaid i dreth twristiaid hefyd fod yn rhan annatod o unrhyw gynlluniau i reoli’r diwydiant – gydag unrhyw enillion ohoni’n cael eu defnyddio er budd cymunedau lleol ac nid ar fwy o gyfleusterau i ymwelwyr.
Cymhlethdod ail gartrefi
Er cymaint yr her o reoli llety gwyliau sy’n cael ei osod i ymwelwyr, mae’n rhywbeth sy’n bosibl ei wneud os ydi’r ewyllys yno.
Mae rheoli ail gartrefi, ar y llaw arall, yn fater mwy cymhleth – ac mae hyn yn wir yn achos premiwm treth cyngor yn ogystal â’r cynigion Erthygl 4.
Fel mae’n digwydd, mae un o’r straeon gwleidyddol sydd wedi cael sylw amlwg dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf wedi dangos hyn yn glir. Mae Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, yn wynebu pob mathau o gwestiynau gan fod ganddi hi a’i gŵr dŷ yr un ar un adeg. Parhau mae’r dadleuon a ddylai fod wedi talu treth enillion cyfalaf wrth werthu ei thŷ ei hun, gan nad oes neb wedi gallu profi i sicrwydd a oedd hwn yn brif gartref iddi ai peidio.
Yr hyn sy’n gwneud y stori’n ddiddorol ydi’r cwestiynau mae’n eu codi am beth yn hollol ydi ail gartref.
Boed hi a’i gŵr wedi camddefnyddio’r system neu beidio, yr hyn sy’n amlwg ydi mor hawdd fyddai i unrhyw gwpl priod fod yn berchen dau dŷ, gan honni bod y naill a’r llall yn brif gartref i un ohonynt. Yr unig adeg y gallai hynny achosi problem iddyn nhw fyddai pe baen nhw eisiau gwerthu tŷ arall sydd ganddyn nhw yn rhywle arall. Ond mae ffyrdd o gwmpas hynny hefyd, fel y gwelwyd yn y ffordd roedd aelodau seneddol yn gallu ‘fflipio’ eu cartrefi.
P’run bynnag, pe bai cwpl yn ddibriod, does dim oll y gallai unrhyw sefydliad cyhoeddus ei wneud i rwystro’r naill gymar a’r llall rhag trin eu tai fel prif gartref.
Yn ôl gofynion Erthygl 4, byddai angen i berchennog neu ddeiliad y tŷ dreulio o leiaf 183 o nosweithiau ynddo er mwyn iddo gyfrif fel prif gartref. Mae’n ymddangos yn amod digon teg a rhesymol ar bapur. Ond sut fyddai profi bod rhywun wedi torri amod o’r fath? Pa gyngor neu awdurdod fyddai â’r adnoddau i sicrhau bod perchnogion yn cadw at ofynion y polisi?
Asesu’r effaith ar y Gymraeg
Yn eu hasesiad o effaith cyflwyno Erthygl 4 ar y Gymraeg, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn cyflwyno dadleuon digon rhesymol a chredadwy pam y dylai hyn gael effaith gadarnhaol.
Yn sicr maen nhw yn llygad eu lle wrth ddweud bod niferoedd cynyddol o dai gwyliau yn cael effaith ar ddiwylliant, iaith a ffyniant economaidd cymunedau. Heb ymyrraeth bydd parhau’r drefn bresennol mewn perygl o ddifa rhai cymunedau yn llwyr.
Mae’r asesiad yn rhagweld hefyd y bydd y polisi yn arwain at sefydlogi neu ostwng prisiau tai mewn cymunedau lle cyflwynir Erthygl 4, er ei fod yn cydnabod ei bod yn anodd rhagweld ag unrhyw sicrwydd beth fydd effaith y polisi ar y farchnad dai.
Y rhagdybiaeth ydi y byddai gostyngiad o’r fath mewn prisiau tai yn galluogi mwy o Gymry i’w prynu ac aros mewn ardaloedd gwledig. Mae’n awgrymu hefyd y gallai tai newydd gaiff eu codi yn y dyfodol mewn ardaloedd Erthygl 4 fod yn fwy fforddiadwy.
Gwendid rhagdybiaethau o’r fath ydi eu bod yn tueddu i gymryd yn ganiatol mai’r farchnad tai gwyliau sy’n gyfangwbl gyfrifol am godi prisiau tai allan o gyrraedd pobol leol mewn ardaloedd gwledig. Mae hyn yn annhebygol iawn o fod yn wir. Yn ogystal â chystadlu yn erbyn buddsoddwyr mewn tai gwyliau, mae trigolion cynhenid yn gorfod cystadlu yn erbyn pobol o ddinasoedd mawr Lloegr sydd â’u bryd ar symud i fyw i gefn gwlad. Oherwydd eu niferoedd a’r cyflogau uwch yn y dinasoedd, mae Cymry lleol dan anfantais o’r cychwyn – ac mae hyn am fod yn wir am unrhyw dai ar y farchnad agored faint bynnag fydd prisiau’n gostwng.
Fel mae’n digwydd, mae gan Barc Cenedlaethol Eryri Gynllun Datblygu Lleol sydd â chyfyngiadau gweddol gaeth ar nifer y tai newydd mae’n eu caniatáu – ac mae hyn yn beth da. Ar y llaw arall, mae perygl y gallai cynghorau eraill ddefnyddio’r ffaith fod Erthygl 4 ar waith fel ffordd o gyfiawnhau gormodedd o dai newydd – ar y sail na fydden nhw’n peri unrhyw gynnydd mewn tai gwyliau.
Yn ogystal â gor-dwristiaeth, problem arall sy’n wynebu Eryri ydi poblogaeth sy’n heneiddio. Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd mwyafrif – 55 y cant – o boblogaeth ardal Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn 50 oed neu’n hŷn, gyda bron i draean – 29% – dros 65 oed. Mae hyn yn cymharu â chanrannau cyfatebol o 43% dros 50 a 22% dros 65 yng Nghymru ar gyfartaledd.
Tua 57% o’r boblogaeth oedd yn gallu siarad Cymraeg – ond mae hyn yn cuddio gwahaniaeth anferthol yn ôl oedran. Roedd 72% o’r rhai o dan 50 oed yn gallu siarad Cymraeg – o gymharu â dim ond 45% o bobol dros 50 oed. Mae tystiolaeth ddigonol mai pobol o’r tu allan i Gymru fyddai hyd at 90% o’r boblogaeth ddi-Gymraeg hyn, gyda’r mwyafrif llethol o Loegr.
Mae’n wir fod y ganran uwch sy’n gallu siarad Cymraeg ymysg pobl iau yn rhywbeth cadarnhaol, ond mae’r ffigurau cyffredinol yn dangos graddau’r math o ddisodli diwylliannol sy’n digwydd yn ein hardaloedd gwledig. Ac mae’r disodli diwylliannol hwn o leiaf gymaint o fygythiad i’n diwylliant a’n hunaniaeth ag unrhyw dai gwyliau.
Mewn unrhyw dai ar y farchnad agored, bydd ein pobol ifanc yn gorfod cystadlu yn erbyn pobol fwy cefnog (a hŷn yn bennaf) o’r tu allan.
Mae’r cynigion presennol ar gyfer galluogi cyfyngu ar dai gwyliau yn haeddu cefnogaeth fel cam i’r cyfeiriad iawn. Mi fyddan nhw’n dibynnu ar lawer o fesurau eraill i fynd law yn llaw â nhw, fodd bynnag, cyn y gallan nhw weithredu’n effeithiol i warchod cymeriad a threftadaeth ein cefn gwlad.