Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, wedi cyhuddo Rishi Sunak o dorri’r Cod Gweinidogol.
Daw hyn ar ôl i Brif Weinidog Ceidwadol y Deyrnas Unedig gyhoeddi cynlluniau i fynd i’r afael â salwch gweithwyr a’r hyn mae’n ei alw’n “ddiwylliant papur salwch”.
Ond fe ddaeth y cyhoeddiad y tu allan i San Steffan, ac nid yn Nhŷ’r Cyffredin.
Yn ôl Rishi Sunak, mae salwch yn “ddewis o ran ffordd o fyw” i rai, ac mae hynny’n achosi cynnydd sylweddol mewn biliau lles.
Dywed y byddai’r Ceidwadwyr yn pennu “pobol broffesiynol gwaith ac iechyd arbenigol” i ddosbarthu tystysgrifau salwch pe baen nhw’n aros mewn grym ar ôl yr etholiad cyffredinol.
Yn ôl cynlluniau’r blaid, byddai unrhyw un sydd allan o waith ar ôl blwyddyn o gymorth gan hyfforddwr gwaith yn colli eu hawl i dderbyn budd-daliadau.
Dywed fod angen “newid y diwylliant” ynghylch tystysgrifau salwch, ac y byddai peidio gweithredu’n “anghyfrifol” wrth ddarogan cynnydd o 50% mewn taliadau PIP (taliadau annibyniaeth bersonol) dros y pedair blynedd nesaf.
Diffyg tosturi
Ond mae Llafur yn dweud bod y llywodraeth bresennol “wedi rhedeg allan o syniadau”, ac maen nhw’n eu cyhuddo nhw o ddiffyg tosturi.
Daw hyn wrth i’r Ceidwadwyr gyflwyno cynlluniau i fynnu profion llymach a mwy o dystiolaeth cyn y gall rhywun hawlio taliadau PIP, er mwyn “gwneud y system yn decach ac yn anoddach i’w hecsbloetio”.
Mae elusennau anabledd wedi beirniadu’r cynlluniau fel rhai “hynod niweidiol”, ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod sylwadau Rishi Sunak yn rhai “despret”.
Ond mae Chris Bryant wedi tynnu sylw at y ffordd y cafodd y cyhoeddiad ei wneud.
“Mae’r Cod Gweinidogol yn dweud y dylid gwneud pob cyhoeddiad ynghylch polisi newydd gerbron y senedd yn gyntaf,” meddai.
“Mae’r senedd yn eistedd heddiw.
“Pam fod Sunak yn gwneud ei gyhoeddiad ar bapurau salwch y tu allan i’r senedd?
“Mae’n torri ei God Gweinidogol ei hun.”