Fel pawb, mae gen i, erbyn heddiw, lawer mwy o ddiddordeb yn yr economi na fu gen i ychydig flynyddoedd yn ôl!
Er mor anodd yw deall sut y daethom i’r fath ddirwasgiad, mae ei effaith yn amlwg ddigon. Mae sawl sefydliad, cymuned ac aelwyd yn plygu dan ei bwysau. Bu newyddion beunyddiol yr wythnos yn drwm o sôn am sgil effeithiau – byr a hirdymor – y toriadau o 10.5% yng nghyllidebau dau o brif sefydliadau diwylliannol Cymru: ein Hamgueddfa a’n Llyfrgell Genedlaethol. Yn ogystal, bu datgan fod Opera a Cherddorfa Genedlaethol Cymru yn wynebu oblygiadau heriau economaidd a gostyngiad sylweddol mewn cyllid cyhoeddus.
Yng ngafael dirwasgiad, y demtasiwn barod yw ysgubo ymaith bopeth sy’n dda i ddim, a hynny i raddau’n naturiol ddigon; wedi’r cyfan, maen nhw’n dda i ddim. Wrth ddatgan mewn cynhadledd i’r wasg ar gampws Coleg Gwent yng Nglyn Ebwy ddydd Llun (Ebrill 15), roedd y Prif Weinidog Vaughan Gething yn rhannol gywir wrth ddweud:
“We’re at a point where real choices have to be made about what we’re not able to do.“
Penderfynir torri cyllidebau celfyddyd, cerddoriaeth a diwylliant gan mai pethau da i ddim ydyn nhw. Rhannol gywir ydoedd; yr hyn na chaiff ei ddeall yw mai’r pethau sy’n dda i ddim yw cyfrinach goroesi’r dirwasgiad, a hynny’n union oherwydd mai da i ddim ydyn nhw!
Dywedai William Temple (Archesgob Caergaint, diwinydd a phregethwr; 1881-1944) stori am dad yn anfon ei blentyn i’r ysgol gyda nodyn ar ddarn o bapur:
“Dear Sir, don’t teach my boy poitry, he’s going to be a groser.“
Roedd poitry (mae’r camsillafiad o poetry yn fwriadol gan Temple, wrth gwrs) yn dda i ddim, yn yr un ffordd mae’r cain a’r hynafol a’r prydferth yn dda i ddim. Roedd poitry yn dda i ddim fel mae ffydd, gobaith a chariad – bob un – yn dda i ddim.
Heb os, mae poitry diwylliant, celfyddyd a cherddoriaeth – ffydd, gobaith a chariad – yn dda i ddim mewn dirwasgiad, a dyna’n union pam mai’r union bethau hyn sydd wir eu hangen arnom i ymdopi â’r dirwasgiad ac i oroesi’r dirwasgiad fel unigolion, ac fel cymdeithas. Y pethau sy’n dda i ddim fydd yn cynnal a chadw ein hymdrechion i gynnal a chadw ein gilydd.
Tra yng ngafael ei ddirwasgiad ef ei hun, mynnai Iesu:
“Nid ar fara yn unig y bydd dyn fyw.”
(Mathew 4:4)
O dan bwysau ein dirwasgiad ninnau, y demtasiwn yw ymwrthod â phopeth nad yw’n fara, ac yn union oherwydd bod y demtasiwn honno mor gwbl naturiol, dealladwy – a hawdd – rhaid i unigolyn a chymdeithas edrych ar hawddgarwch ac i ymofyn yn ei deml (Salm 27:4). Rhaid wrth fara a poitry beunyddiol.
Mae pob lliw a llun o brydferthwch yn dda i ddim. Mae poitry ffydd, gobaith a chariad yn dda i ddim, ond gan y pethau sy’n dda i ddim mae cyfrinach popeth gwerthfawr.