Yn ddiweddar mi fues i mewn digwyddiad yn y Rhyl i dynnu sylw at y drychineb ddyngarol arswydus sy’n digwydd yn Gaza. Mi wnaeth yr orymdaith gychwyn o orsaf drenau’r dre’ ac ymlwybro ar hyd y stryd fawr tuag at yr arena ddigwyddiadau ar y prom. Ar ôl cyrraedd yno, cafwyd areithiau gan ddau weinidog yr efengyl, dau Aelod o’r Senedd yng Nghaerdydd, un Aelod Seneddol Llundeinig, dau feddyg (un ohonyn nhw newydd ddychwelyd o Gaza) ac un fam Fwslemaidd a’i phlentyn. Ymhlith y dorf oedd wedi ymgynnull yno yn heulwen diarhebol y dref gwelais un Aelod Seneddol ac un cyn-Aelod Seneddol a pherchnogion siopau Cymraeg. Roedd hyd yn oed cynghorwyr lleol a phlant yn rhan o’r digwyddiad.
Yn amlwg, ni chafwyd unrhyw areithiau gwrth-Semitaidd yn ystod y digwyddiad ac roedd ysbryd y brotest yn un heddychlon gyda’r pwyslais ar alw ar roi diwedd ar ddioddefaint trigolion Gaza wrth iddyn nhw wynebu cyrchoedd awyr dinistriol gan luoedd Israel a newyn. Ond – a dyma wallgofrwydd cyfreithiol pethau – mae unrhyw awgrym o feirniadaeth o weithredoedd Israel yn ôl diffiniad yr IHRA (International Holocaust Rememberance Alliance), gafodd ei fabwysiadu gan lywodraeth Teresa May yn 2016, yn medru cael ei ystyried yn gyfystyr â gwrth-Semitiaeth.
Yn ddamcaniaethol, felly, gallai unrhyw un o’r siaradwyr yn y Rhyl y diwrnod hwnnw a phob un o’r gorymdeithwyr gael eu labeli’n wrth-Semitaidd a wynebu achosion disgyblu neu waharddiadau gan eu cyflogwyr. Mae sawl achos o hyn wedi digwydd eisoes (Gweler ‘Erasing Palestine : Free Speech and Palestine Freedom’ gan Rebecca Ruth Gould). Mae prifysgolion, hyd yn oed, wedi derbyn bygythiadau i’w cyllid gan Lywodraeth Prydain os nad ydyn nhw’n cytuno i weithredu yn unol â diffiniad yr IHRA. (Oherwydd anhapusrwydd gyda diffiniad yr IHRA, yn 2021 cafodd diffiniad arall o’r hyn yw gwrth-Semitiaeth ei gyhoeddi gan nifer o Iddewon dylanwadol – Datganiad Jerusalem. Mae’r diffiniad hwn yn anelu at wahaniaethu rhwng beirniadaeth ddilys o Israel a gwrth-Semitiaeth).
Afraid dweud fod diffiniad y IHRA yn un afresymegol a phleidiol. Wedi’r cyfan, mae llu o Iddewon wedi bod yn beirniadu gweithredoedd Israel ymhell cyn iddi gychwyn ar ei hymgyrch fomio yn erbyn poblogaeth Gaza (Torri’r Lawnt – Mowing the Lawn – yw’r term gaiff ei ddefnyddio gan luoedd arfog Israel). A ydy Iddewon megis Gabor Maté a’i feibion, Naomi Klein, Simone Zimmerman, Norman Finkelstein, Jonathan Glazier, aelodau ‘Jewish Voice For Peace’ a ‘Jews For Justice For Palestinians’ a niferoedd mawrion yr Iddewon hynny sydd wedi bod yn gorymdeithio yn Llundain a dinasoedd eraill ar draws y byd fel Iddewon, gyda’u baneri’n datgan hynny’n glir, yn wrth-Semitaidd? Nac’dyn, siŵr. Mae’n amlwg, felly, ei bod hi’n bosib bod yn feirniadol o Israel heb fod yn wrth-Semitaidd.
Yn baradocsaidd, mae hi hefyd yn bosib i rywun fod yn gefnogol iawn o Israel tra ar yr un pryd yn arddel syniadau gwrth-Semitaidd. Yn rhyfedd ddigon, cyfeillion pennaf Israel yn Ewrop ydy’r pleidiau asgell dde eithafol megis Fidesz Victor Orbán yn Hwngari, yr AfD yn yr Almaen, Rassemblement National (Front National gynt) yn Ffrainc, Liga Nord yn yr Eidal, Konfederacja yng Ngwlad Pwyl, a Vox yn Sbaen. Mae’r pleidiau asgell dde eithafol hyn yn gweld Israel fel model o’r math o wladwriaeth asgell dde, wrth-Fwslemaidd, filitaraidd yr hoffen nhw eu datblygu ar draws Ewrop. Maen nhw hefyd yn cefnogi Israel am eu bod nhw am weld yr Iddewon hynny sy’n byw yn Ewrop ar hyn o bryd yn ‘dychwelyd i Israel’.
Yn yr Unol Daleithiau, wedyn, cefnogwyr mwyaf pybyr Israel ydy’r Cristnogion efengylaidd asgell dde hynny sy’n galw eu hunain yn Seioniaid Cristnogol. Yn ôl y Cristnogion hyn, mae’r Beibl wedi proffwydo y bydd Crist yn dychwelyd i deyrnasu ar y ddaear pan fydd yr Iddewon wedi llwyddo i ail-greu cenedl Israel ym Mhalesteina gan hel y Palestiniaid oddi yno. Unwaith y bydd yr adfeddiannu hyn wedi digwydd, caiff y ffyddloniaid Cristnogol eu sgubo i fyny i’r nefoedd yn y rapture, tra bo’r gweddill ohonom yn dioddef yr Armagedon fawr. O ran yr Iddewon, fodd bynnag, bydd angen iddyn nhw droi’u cefnau ar eu Hiddewiaeth hereticaidd, bechadurus a chofleidio Crist – neu cân nhw eu difa yn nhân Uffern. (Mae perthynas wresog Trump â’r Seioniaid Cristnogol hyn, felly, yn taro dyn braidd yn rhyfedd ac afresymegol o ystyried y ffaith fod ei ferch, ei fab yng nghyfraith a’i wyrion yn Iddewon. Ond mae cefnogaeth Seioniaid Cristnogol ac efengylwyr yr Unol Daleithiau yn bwysicach yn etholiadol i Trump yn y tymor byr na’r dynged arswydus fyddai’n wynebu ei deulu petai proffwydoliaethau’r Seioniaid Cristnogol yn digwydd cael eu gwireddu).
Prif ladmeryddion y gredo sylfaenol wrth-Semitaidd hon ydy teledu-bregethwyr megis y Parchedig John Hagee, sylfaenydd a chadeirydd ‘Christians United for Israel’ (a ddatganodd fod Hitler wedi’i ddefnyddio gan Dduw i sbarduno’r Iddewon i fudo i Israel) a’r Parchedig Robert Jeffress o enwad Bedyddwyr y De, sy’n gweld y gwrthdaro presennol yn Gaza fel cam cychwynnol tuag at ‘y dyddiau olaf’ pan gaiff dilynwyr pob crefydd arall (gan gynnwys Iddewon a Chatholigion!) eu dinistrio. Gallwch eu gwylio nhw’n mynd trwy’u pethau ar YouTube os ydych chi o gyfansoddiad digon cryf i fedru ymdopi â hynny. Y peth i’w bwysleisio ydy nad rhyw ffyliaid hanner pan, ymylol ydy’r rhain. Maen nhw’n ffyliaid prif ffrwd. Mae eu dilynwyr lu yn cynnwys gwleidyddion dylanwadol megis Mike Pence, Mike Pomeo – a Donald Trump.
Robert Jeffress a John Hagee fu’n bennaf gyfrifol am berswadio Trump i symud llysgenhadaeth yr UDA o Tel Aviv i Jerusalem. Cafodd y ddau ohonyn nhw eu gwahodd i gymryd rhan yn y seremoni agoriadol gafodd ei chynnal yno. A dydy datrys y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yn sicr ddim yn rhan o’u hagenda. I’r gwrthwyneb, maen nhw’n awchu am yr apocalyps gan y bydd hynny, yn eu tyb nhw, yn arwain at ailddyfodiad Crist.
Er gwaethaf gwrth-Semitiaeth y Cristnogion hyn yn 2021, datganodd Ron Dermer, llysgennad Israel yn yr Unol Daleithiau, y dylai Israel flaenoriaethu ei pherthynas gydag efengylwyr yr Unol Daleithiau yn hytrach na’r Iddewon sy’n byw yno. Yn strategol, mae hyn yn gwneud synnwyr gan fod tua 100m o boblogaeth America yn ystyried eu hunain yn efengylwyr o ryw fath, gyda 30m yn ystyried eu hunain yn Seioniaid Cristnogol. Dim ond tua wyth miliwn sy’n Iddewon – ac mae llawer o’r rheiny yn wrth-Seionaidd ac yn hynod feirniadol o ymddygiad Israel, yn enwedig y to iau.
Ar ôl ymosodiad terfysgol Hamas ar Hydref 7, ac wrth iddi dod yn amlwg fod Israel yn mynd i ymosod yn filitaraidd ar boblogaeth Gaza, gan achosi cyflafan a thywallt gwaed aruthrol, dechreuais ddilyn gwefannau a sianeli YouTube gan fudiadau Iddewig sy’n llafar iawn eu condemniad, nid yn unig o’r digwyddiadau erchyll presennol, ond o ymdriniaeth gyffredinol Israel tuag at y Palestiniad ers sefydlu’r wladwriaeth.
I gloi, hoffwn roi lle i un o’r datganiadau mwyaf emosiynol a di-flewyn-ar-dafod a wnaed gan rywun o gefndir Iddewig ers cychwyn yr hunllef yn Gaza sef datganiad Miriam Margolyes, yr actores 83 oed o Awstralia. Mae ei datganiad yn dweud y cwbl am weithredoedd gwladwriaeth Israel ac yn eu cyferbynnu â’r hyn mae hi’n ei ystyried yn hanfod Iddewiaeth. Does dim pwynt ceisio ychwanegu at y geiriau. Gwell gadael iddyn nhw siarad drostyn nhw eu hunain:
Helo, Miriam Margolyes ydw i, ac roeddwn i eisiau dweud rhywbeth i gefnogi Cyngor Iddewig Awstralia. Rwy’n ddinesydd Awstralaidd. Rwy’n 83 ac nid wyf erioed wedi bod â chymaint o gywilydd o Israel ag yr wyf ar hyn o bryd. I mi, mae’n ymddangos fel pe bai Hitler wedi ennill.
Mae wedi ein newid fel Iddewon rhag bod yn dosturiol a gofalgar ac yn gwneud i eraill fel y byddech chi’n dymuno iddyn nhw ei wneud i chi, i’r genedl genedlaetholgar greulon hon, gan erlid a lladd menywod a phlant.
Wrth gwrs, rwy’n condemnio gweithred Hamas, wrth gwrs rwy’n ei wneud. Ond mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud, pobl Iddewig draw yn Israel, yn frawychus, yn embaras ac yn ddrygionus ac ni allaf ddeall pam nad yw pob Iddew, yn enwedig aelodau synagogau, eisiau atal yr hyn sy’n digwydd.
Ac yn enw’r ddynoliaeth, galwaf ar bob Iddew i weiddi, cardota, sgrechian am gadoediad.
Nid yw’n wrth-Semitaidd i gael barn wahanol am y gweithredoedd yn ystod y rhyfel nawr. Mae’n rhaid i ni wneud, fel roedd fy mam yn arfer dweud, y peth iawn; Y peth iawn yw cadoediad i atal y lladd, yn sicr i erfyn a mynnu rhyddhau gwystlon. Ond mae’na farn am weithredoedd Israel, nad yw’n wrth-Semitaidd i’w lleisio. Mae’r hyn y mae Israel yn ei wneud yn anghywir, mae’n weithred ysgeler.
Ac, os ydych chi am ddweud hyn, mae’n ddrwg iawn i Israel. Galwch ar eich rabïaid, ar eich cymunedau, ar yr holl bobl rydych chi’n eu hadnabod. Lleisiwch eich ffieidd-dra a’ch atgasedd o weithredoedd Israel. Os gwelwch yn dda. Yna rydych chi’n gwneud y peth iawn ac yn ymddwyn yn unol â’r traddodiad Iddewig.