Mae nifer o wleidyddion yng Nghymru wedi ymateb yn chwyrn i lythyr Suella Braverman, y cyn-Ysgrifennydd Cartref, at y Prif Weinidog Rishi Sunak.

Daeth ei llythyr ar ôl iddi gael ei diswyddo am ei sylwadau am y gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina tros Gaza.

Mae’n arfer i weinidogion sy’n gadael eu swyddi gyhoeddi llythyrau yn canmol y Prif Weinidog a’r llywodraeth, ond manteisiodd Braverman ar ei llythyr hithau i feirniadu Sunak a’i lywodraeth.

Fe wnaeth hi ei gyhuddo o “fradychu” ar fater atal cychod bychain rhag croesi’r Sianel, o “fethu â chyflawni’n barhaus” ar bolisïau allweddol”, gan ddweud bod ei “ddull nodweddiadol o lywodraeth” yn golygu ei fod yn “analluog” wrth geisio cyflwyno polisïau.

Ychwanegodd nad yw’r Prif Weinidog wedi gwireddu ei addewid i wneud “beth bynnag mae’n ei gymryd” i atal cychod rhag croesi’r Sianel, a hynny drwy fethu â dileu’r pryderon am y cynllun dadleuol i ddargyfeirio ffoaduriaid i Rwanda.

Galwodd arno i “newid trywydd ar unwaith”, gan dynnu sylw at “golledion etholiadol sy’n torri record” a’r ffaith fod “ailosod wedi methu” a bod y Ceidwadwyr “yn rhedeg allan o amser”.

Yn dilyn yr helynt, mae Rishi Sunak wedi ad-drefnu ei Gabinet.

‘Golchi dillad budron yn gyhoeddus’

Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi cyhuddo Rishi Sunak a Suella Braverman o “olchi dillad budron yn gyhoeddus, gan ddatgelu maint obsesiwn yr asgell dde â defnyddio rhaniadau cymdeithasol fel arf i ddal gafael ar rym”.

Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, hefyd wedi bod yn feirniadol, gan alw am etholiad cyffredinol yn hytrach nag ad-drefnu’r Cabinet.

“Bob tro rydych chi’n tynnu carreg i fyny yn yr ardd llawn pleserau daearol sy’n cael ei hadnabod fel rheolaeth 13 mlynedd y Torïaid, rydych chi’n dod o hyd i’r trychfilod mwyaf cas,” meddai.

“Cytundebau cudd, cefnu ar addewidion, hunangynhaliaeth, meddwl hudolus, ffrindgarwch, lobïo amhriodol.”

Rishi Sunak

“Ffars”: Ymateb Plaid Cymru wrth i Rishi Sunak ad-drefnu ei Gabinet

Mae David Cameron yn dychwelyd i fod yn Ysgrifennydd Tramor, tra bod ei ragflaenydd James Cleverly yn olynu Suella Braverman yn Ysgrifennydd Cartref

Suella Braverman wedi’i diswyddo: “Beth gymerodd mor hir?”

Gwleidyddion yng Nghymru yn ymateb i ddiswyddiad Ysgrifennydd Cartref San Steffan