Mae pedwar ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor wedi’u rhestru ymhlith 1% ucha’r byd.
Mae’r pedwar ymhlith yr ymchwilwyr sydd wedi cael eu dyfynnu amlaf mewn papurau ymchwil.
Caiff rhestr gwobrau Clarivate ei chreu yn seiliedig ar faint o weithiau mae papurau ymchwil ymchwilwyr yn cael eu dyfynnu mewn papurau ymchwil eraill o ansawdd uchel.
Yr ymchwilwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr o Fangor ydy’r Athro Karen Hughes o’r Coleg Gwyddorau Dynol; Jane Noyes, sy’n Athro mewn Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Davey L. Jones, Athro Gwyddorau Pridd ac Amgylcheddol; a’r Athro Mark A. Bellis, sy’n Uwch Ddarlithydd yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd.
‘Gwaith sy’n cael effaith’
Mae Mark Bellis yn Athro Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ac yn Athro Iechyd Cyhoeddus a Gwyddor Ymddygiadol ym Mhrifysgol Liverpool John Moores, ac mae ei ymchwil yn cynnwys profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, alcohol, cyffuriau, iechyd rhywiol,
“Mae’n cymryd sawl ymennydd i gynllunio, cynhyrchu a chyhoeddi papur ymchwil sy’n cael effaith ac mae cael fy nghynnwys yn y rhestr yn glod i’r gwaith a wneir gan y tîm iechyd cyhoeddus cyfan,” meddai.
“Rwy’n gobeithio y bydd gwybod bod ein gwaith yn cael ei ddefnyddio gan ein cyd-ymchwilwyr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a gan lunwyr polisi’n ysgogi pob un ohonynt i wneud gwaith sy’n cael hyd yn oed mwy o effaith.”
‘Wedi gwirioni’
Fel Nyrs Gofrestredig a Nyrs Plant Gofrestredig, mae Jane Noyes yn un o nifer fechan iawn o nyrsys ym Mhrydain sydd wedi’u derbyn yn Gymrawd Academi Nyrsio America.
“Rwyf wedi gwirioni bod fy ngwaith yn parhau i gael ei ddyfynnu’n aml ac yn parhau’n ddylanwadol iawn,” meddai.
“Yn gynyddol, mae cyllidwyr ymchwil eisiau gweld eu bod wedi cyllido ymchwil sy’n cael effaith ac sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn, ac mae gwobr Clarivate yn darparu tystiolaeth dda i gefnogi’r nod hwnnw.”
‘Braint’
Mae Karen Hughes yn Rheolwr Datblygu Ymchwil a Chapasiti (Projectau Arbennig) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.
Hi sy’n arwain yr Uned Cydweithio Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor, sy’n uned ymchwil cymhwysol rhwng y Brifysgol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys atal trais, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a defnydd o alcohol.
Mae hi hefyd yn gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd i gefnogi’u rhaglen atal ac ymateb i drais.
“Mae’n fraint cael fy nghynnwys eleni yn rhestr Clarivate o Ymchwilwyr y Dyfynnir eu Gwaith Amlaf,” meddai.
“Mae cael fy nghynnwys ar y rhestr yn dangos sut mae ein hymchwil cydweithredol yn dylanwadu ar wybodaeth yn fyd-eang, yn ogystal â dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar draws Cymru.”
‘Gwobr i’r tîm’
Ffocws gwaith ymchwil Davey Jones yw cloriannu gwasanaethau ecosystem a gwarchod iechyd dynol.
Ar ddechrau’r pandemig, sylweddolodd fod modd defnyddio technegau oedd wedi’u datblygu’n barod i fonitro lefelau Covid-19 mewn systemau dŵr gwastraff.
Mae’n cynghori Llywodraeth Cymru ar eu polisïau iechyd cyhoeddus, amaeth, defnydd tir a newid hinsawdd, ac yn arwain y ‘Rhaglen gwyliadwriaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru’.
“Mae ymddangos ymysg rhestr Clarivate o Ymchwilwyr y Dyfynnir eu Gwaith Amlaf yn adlewyrchu ymroddiad y technegwyr, myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol sydd wedi gweithio gyda mi i gynhyrchu ystod eang o gynnyrch ymchwil gydag effaith ystyrlon,” meddai.
“Mae hon yn wobr i’r tîm cyfan.”