Mae pobol â chreithiau ar eu hwynebau’n fwy tebygol o ddioddef o orbryder ac iselder na phobol sydd hebddyn nhw, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.

Dyma astudiaeth fwya’r byd o’r cysylltiad rhwng creithiau ar yr wyneb a gorbryder ac iselder.

Cafodd yr astudiaeth, sy’n cael ei galw’n AFFECT (Assessing the burden of facial scarring and associated mental health conditions to identify patients at greatest risk), ei hariannu gan The Scar Free Foundation ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Yr ymchwil

Roedd gwaith dadansoddi’r ymchwilwyr yn seiliedig ar Fanc Data SAIL Prifysgol Abertawe.

Gan ddefnyddio data iechyd o Gymru, gwnaethon nhw ganfod 179,079 o bobol â chreithiau ar eu hwynebau.

Cafodd y cofnodion hyn eu paru yn ôl statws economaidd-gymdeithasol, oedran dioddef y creithiau ar yr wyneb, a rhywedd y bobol hyn â’r un nifer o bobol heb greithiau.

Cafodd cofnodion meddygon teulu’r parau hyn eu cymharu er mwyn cadarnhau faint o bobol â chreithiau ar eu hwynebau a phobol heb greithiau gafodd eu trin am orbryder ac iselder.

Gallai’r canfyddiadau newid sut mae cleifion â chreithiau ar eu hwynebau’n cael eu cefnogi.

Canfyddiadau

Dangosodd yr ymchwil fod rhai ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar y canlynol:

  • Mae gorbryder ac iselder yn fwyaf cyffredin ymhlith pobol â chreithiau sydd wedi deillio o hunan-niweidio, ymosodiad neu anafiadau trawmatig fel llosgiadau.
  • Pobol â chreithiau ddeilliodd o gyflyrau cynhenid sydd leiaf tebygol o gael eu trin am orbryder ac iselder.
  • Mae menywod, pobol â hanes o iechyd meddwl gwael a phobol ddifreintiedig hefyd yn wynebu risg uwch.

Gobeithio am gegnogaeth ar gyfer y cleifion

“Rwyf wedi bod yn llawfeddyg cosmetig ers 20 mlynedd, ac rwyf wedi gweld nifer mawr o gleifion y bu’n rhaid tynnu canserau oddi ar eu hwyneb, neu sydd wedi cael anafiadau i’r wyneb,” meddai’r Athro Iain Whitaker, o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, Prif Ymchwilydd Astudiaeth AFFECT.

“Mae pob llawdriniaeth yn gadael craith, ond ar hyn o bryd does dim cefnogaeth seicolegol i gleifion.

“A minnau’n feddyg, mae’n bwysig i mi wybod beth yw goblygiadau trin fy nghleifion, ar ben yr effeithiau corfforol uniongyrchol.

“Rwyf am wella gwybodaeth a phrofiad fy nghleifion.

“Rwy’n gobeithio y bydd yr ymchwil hon yn arwain at system fwy cadarn o gefnogi iechyd meddwl cleifion â chreithiau ar yr wyneb.”

‘Aros am hyn ers amser maith’

Un sydd â phrofiad o fyw gyda chreithiau yw Simon Weston, Llysgennad Scar Free.

“Ers i mi fod yn 20 oed, rwy’ wedi gorfod byw gyda fy nghreithiau,” meddai.

“Ar y dechrau, achosodd y newid sydyn yn fy mywyd heriau seicolegol difrifol.

“Yn ogystal â dioddef o PTSD, es i’n isel iawn, gan boeni a fyddwn i erioed yn cael bywyd arferol eto ac a fyddwn i’n gallu cael teulu.

“Ond fy nheulu a fy ffrindiau oedd fy rhwydwaith cymorth, ac roedd cryn dipyn o gryfder a chariad wnaeth fy ngwthio ymlaen.

“Ddigwyddodd hi ddim dros nos – roedd yn rhaid ymdopi â newid mawr a dysgu i hoffi fy hun a’r person oeddwn i. Yn y pen draw, gwnes i hynny.

“Mae gwaith The Scar Free Foundation a’r tîm ym Mhrifysgol Abertawe’n wych.

“Bu’n rhaid aros am hyn am amser maith.

“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn creithio, ac rwyf am i bobol â’r mathau hyn o wahaniaethau gweledol gael eu derbyn yn ein cymdeithas.

“Mae pobol â chreithiau’n bobol go iawn a’u hunig ddymuniad yw cael eu trin yn gyfartal.

“Erbyn hyn, dyw’r pethau sarhaus mae pobol yn eu dweud ddim yn effeithio arna i.

“Rwy’n gyfforddus iawn yn fy nghroen fy hun, ac rwy’ am i bobol eraill deimlo’n gyfforddus hefyd.

“Gobeithio y bydd y camau mae’r tîm yn eu cymryd yn helpu i gyflawni hyn.”