Mae 750 o fenywod wedi dod ynghyd i fynnu bod Llywodraeth Cymru’n gweithredu ar unwaith i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari.

Yn ôl y menywod, mae yna “argyfwng diffyg ymwybyddiaeth”, ac maen nhw am weld ymgyrch genedlaethol yn canolbwyntio ar symptomau’r canser yn cael ei hariannu.

Bob blwyddyn, mae dros 300 o fenywod yng Nghymru’n cael diagnosis o ganser yr ofari, ac ychydig dros draean ohonyn nhw sy’n derbyn diagnosis cam cynnar (cam 1 neu 2), lle bydd canlyniadau gwell.

Mae’r rhan fwyaf o fenywod yn cael diagnosis o ganser yr ofari drwy ymweld â meddyg pan fydd ganddyn nhw symptomau, ac yn ôl adroddiad Target Ovarian Cancer, ‘Pathfinder Cymru: Cyflymach, pellach, a thecach’, dim ond 6% o fenywod Cymru ddywedodd eu bod nhw’n hyderus yn enwi’r symptomau.

Y prif symptomau yw:

  • bol wedi chwyddo
  • poen abdomenol
  • teimlo’n llawn
  • gorfod pasio dŵr ar frys

Dim ond ychydig dros chwarter menywod Cymru sy’n gwybod fod bol chwyddedig yn symptom, tra bo cyn lleied â 2% yn ymwybodol fod gorfod pasio dŵr ar frys yn arwydd arall.

Yn sgil y cyfuniad o ddiffyg ymwybyddiaeth a diagnosis araf, fe wnaeth elusen Target Ovarian Cancer, ar y cyd â Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru, greu deiseb yn mynnu bod Llywodraeth Cymru’n gweithredu.

‘Chwe mis i fyw’

Cafodd y ddeiseb ei llofnodi gan 750 o fenywod, a’i chyflwyno i’r Senedd heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 14).

Un o’r rhai lofnododd y ddeiseb yw Amanda Davies, sy’n 49 oed ac yn byw yn Sir Benfro.

Ar ôl cael diagnosis o ganser yr ofari ei hun, mae hi’n annog y Llywodraeth i roi blaenoriaeth i’r maes.

“Erbyn i’r holl symptomau ymddangos gyda’i gilydd, roedd gen i ganser yr ofari cam 3 a dim ond chwe mis oedd gen i ar ôl i fyw. Roedd yn drychinebus,” meddai.

“Roeddwn i wedi bod yn mynd i weld y meddyg teulu, ond chefais i fyth unrhyw ymchwiliadau. Roedden nhw’n fy ystyried i’n ‘rhy ifanc’ i fod â’r clefyd.

“Roedd gen i fola chwyddedig a phoen abdomenol, dau o’r prif symptomau, ond roedd symptomau eraill nad oeddwn i’n eu gwybod.

“Wnes i fyth roi’r holl symptomau at ei gilydd, er fy mod i’n gwybod fod Mam-gu wedi marw o ganser yr ofari. I feddwl taw canser yr ofari oedd yn fy ngwneud i’n sâl…”

Mae hi’n cwestiynu a fyddai ymgyrch ymwybyddiaeth yn rhestru’r symptomau a rhannu profiadau menywod eraill wedi ei harwain i gael diagnosis cynt.

“Yn aml, caiff y symptomau eu camgymryd am glefydau eraill neu straen, neu caiff menywod ifancach ddiagnosis anghywir.

“Mae’n bosibl bod menywod yn dal i deimlo embaras wrth sôn am ‘broblemau merched’, a byddan nhw yn aml yn cysylltu’r symptomau â’r broses o heneiddio – sy’n golygu bod y canser wedi cyrraedd cam hwyrach, gan ei wneud yn amhosibl i’w drin mewn rhai achosion – gan achosi marwolaethau diangen.”

Diagnosis cynnar yn ‘hollbwysig’

Ddwy flynedd yn ôl, pasiodd aelodau Sefydliad y Merched gynnig yn galw am fwy o weithredu i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari.

“Mae gwell ymwybyddiaeth o’r symptomau’n hollbwysig i gael diagnosis cynnar,” meddai Jill Rundle, cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru.

“Yn syml, mae gormod o bobol yn marw am nad yw eu canser yr ofari’n cael ei ddarganfod yn ddigon cynnar.

“Mae aelodau Sefydliad y Merched yn dweud yn glir bod rhaid i hyn newid.”

‘Dim rhaglen sgrinio’

Dywed Annwen Jones, Prif Weithredwr Target Ovarian Cancer, fod gwybod am y symptomau’n bwysicach fyth gan nad oes rhaglen sgrinio ar gyfer canser yr ofari ar hyn o bryd.

“Drwy wybod beth yw’r symptomau, mae menyw’n fwy tebygol o gysylltu â’i meddyg teulu gyda’i phryderon yn gynt, fel y gellir diystyru neu gadarnhau diagnosis o ganser yr ofari,” meddai.

“Byddai ymgyrch ymwybyddiaeth a ariennir gan y llywodraeth ac sy’n rhestru’r symptomau – bola chwyddedig parhaus, poen abdomenol, yr angen i basio dŵr yn amlach a theimlo’n llawn yn gyflym – yn mynd i’r afael â’n pryderon ni, yn cynyddu nifer y menywod sy’n cael diagnosis yn gynnar ac yn y pen draw, yn gwella’r tebygolrwydd o oroesi.”

‘Nifer o gamau’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi ymrwymo i wella canlyniadau canser.

“Rydym wedi amlinellu dull manwl yng Nghynllun Gwella Canser Cymru ac mae hyn yn cynnwys nifer o gamau i wella diagnosis a thriniaeth canserau, megis cyflwyno canolfannau diagnostig cyflym.

“Os yw pobol yn sylwi ar unrhyw newid sylweddol neu hirdymor yn eu hiechyd corfforol, yna dylai pobl ofyn am gyngor gan eu meddyg teulu.”