Roedd Araith y Brenin ddydd Mawrth diwethaf (Tachwedd 7) yn un ar gyfer “llywodraeth yn ei dyddiau olaf sy’n gwybod fod ei hamser ar ben,” yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Fe wnaeth Mark Drakeford y sylwadau yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 14).
Cafodd y pwnc ei grybwyll gan Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, wrth iddi ofyn am farn y Prif Weinidog ar yr Araith.
Roedd “llawer iawn ar goll” o’r araith, yn ôl Mark Drakeford, gan gynnwys y Bil Iechyd Meddwl, ymateb i chwyddiant, a’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
‘Colli cyfleoedd i wneud bywyd yn well i’r bobol sy’n byw yma’
Yn ystod y sesiwn, fe holodd Delyth Jewell “pa asesiad” wnaeth y Prif Weinidog o effaith yr Araith ar Gymru, gan droi ei sylw wedyn at yr “anhrefn” yn Downing Street hefyd.
“Mae’r anrhefn yn ôl yn Rhif 10,” meddai.
“Efallai nad aeth i ffwrdd.
“Mae’n ymddangos fod gennym San Steffan sy’n datglymu yn gyflym iawn.
“Mae Araith y Brenin, oedd dim ond wythnos yn ôl, yn teimlo fel hanner oes yn ôl.
“Ond ni ddylem ganiatáu i’r rhestr honno o gyfleoedd a gollwyd fynd heb eu crybwyll – methiant San Steffan i weithredu ar gost anghydraddoldeb, penderfyniad y Torïaid i gondemnio cenedlaethau’r dyfodol i dlodi a llygredd trwy ddrilio am fwy o olew a nwy.
“Bydd effaith yr Araith honno ar Gymru yn cael ei gweld drwy bobol yn dlotach nag sydd angen iddyn nhw fod, ein daear yn fwy budr nag y byddai wedi bod fel arall – colli cyfleoedd i wneud bywyd yn well i’r bobol sy’n byw yma.
“A Phrif Weinidog, ni fydd unrhyw Lywodraeth San Steffan yn y dyfodol byth yn darparu rhaglen wedi’i theilwra a’i chynllunio i fynd i’r afael ag anghenion ein cenedl.
“Onid yw’n bryd i ni roi terfyn ar y genedl anghyfartal hon, ble mae ein dyfodol yn cael ei ysgrifennu gan ffigurau pell ac anghysbell, ac wedi’i adrodd gan frenin ar orsedd?”
‘Llywodraeth heb uchelgais’
“Roedd Araith y Brenin yn brin o’r uchelgais a’r cynigion ymarferol i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu pobol Cymru,” meddai Mark Drakeford wrth ymateb.
“Cyn belled ag y mae’r Senedd hon yn y cwestiwn, pryder allweddol yw a fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau â Chonfensiwn Sewel yn y sesiwn seneddol hon.
“Mae llawer iawn ar goll o Araith y Brenin.
“Ble roedd y Bil Iechyd Meddwl gafodd ei addo i ni am gyhyd, y byddem wedi gallu ei ddefnyddio i wneud pethau da yma yng Nghymru?
“Dim byd ar yr economi, dim byd ar chwyddiant, dim byd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a dim byd ar fewnfudo chwaith.
“Roedd yn Araith y Brenin ar gyfer llywodraeth yn ei dyddiau olaf – llywodraeth sy’n gwybod fod ei hamser ar ben, llywodraeth heb uchelgais i fod yn llywodraeth ar gyfer y dyfodol.”
Aeth yn ei flaen i ymateb i’r “anrhefn wnaeth ddim mynd i ffwrdd” yn Rhif 10, gan ddweud ei fod yn “edrych ymlaen at glywed ymddiheuriad” gan y Ceidwadwyr yn y Senedd am awgrymu y dylai Cymru fod wedi dilyn esiampl Lloegr yn ystod y pandemig.
“Rydym wedi gweld awyrgylch cegau budr, misogynistaidd a pharanoid fentrodd 10 Downing Street eu hamddiffyn wythnos ar ôl wythnos yma ar lawr y Senedd yn ystod argyfwng Covid.
“Faint o wythnosau ydw i’n cofio gwleidyddion Ceidwadol yma yn dweud wrtha i y dylem ddilyn beth oedd yn digwydd yn Lloegr, pan oedden ni’n gwybod beth oedd yn digwydd yn Lloegr, ac mae’n hollol annerbyniol.
“Rwy’n edrych ymlaen at glywed ymddiheuriad gan wleidyddion Ceidwadol yma [yn y Senedd].”
Fe gododd Andrew RT Davies, ac aeth yn ei flaen i ddadlau â’r Prif Weinidiog, cyn i’r Llywydd Elin Jones symud y Senedd yn ei blaen i’r cwestiwn canlynol.