Roedd Araith y Brenin heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 7) yn dangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi “rhedeg allan o stêm a syniadau”, yn Aelod Seneddol Llafur y Rhondda.

Daw sylwadau Chris Bryant yn dilyn araith Brenin Charles, oedd yn nodi’r 21 darn olaf o ddeddfwriaeth mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig eisiau gweithredu arnyn nhw cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae cyfanswm o bymtheg bil newydd, tra bod chwech wedi cael eu cario drosodd o’r sesiwn seneddol ddiwethaf.

Fel rhan o addewid Rishi Sunak i wneud “penderfyniadau tymor hir ar gyfer dyfodol mwy disglair”, nododd gynlluniau i wahardd sigaréts, a chyflwyno gorchymyn oes gyfan yn yr achosion gwaethaf o lofruddiaeth, yn ogystal â thyllu am olew ffres ym Môr y Gogledd.

Mae’r araith wedi derbyn beirniadaeth gan sawl gwleidydd, ond wedi’i chroesawu gan eraill.

‘Gwrthdyniad gwag’

Roedd yr araith yn cynnwys “mwy o addewidion gwag ar drosedd a dedfrydu”, yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Roedd Araith y Brenin yn wrthdyniad gan lywodraeth despret,” meddai.

“Mae pobol eisiau i’w gwleidyddion ganolbwyntio ar atebion i argyfwng anghydraddoldeb y Deyrnas Unedig, ond mae’r llywodraeth hon yn ymwneud yn fwy ag obsesiwn â rhyfel diwylliant.

“Roedd gennym ni fwy o addewidion gwag eto ar drosedd a dedfrydu, er bod carchardai’n llawn a chyllideb y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf 11% yn is mewn termau real nag yn 2010-11.

“Yn syml, ni fydd pobol yn credu’r llinell galed hon ar drosedd a chyfiawnder, pan fydd y Torïaid wedi cael 13 mlynedd i wella pethau ac yn amlwg wedi methu.

“Cyn Araith y Brenin hon, cyhoeddodd Plaid Cymru gynllun teg ac uchelgeisiol ar gyfer Cymru, gan ganolbwyntio ar roi mwy o arian ym mhocedi pobol drwy greu system les decach a mwy effeithlon, lleihau biliau ynni, a newid y ffordd mae Cymru’n cael ei hariannu.

“Byddem hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol mwy disglair drwy ddod ag adnoddau naturiol dan reolaeth lawn Gymreig drwy ddatganoli Ystâd y Goron i bobol Cymru.

“Dyna’r math o uchelgais sydd ei angen ar bobol yng Nghymru – nid y gwrthdyniad gwag glywson ni heddiw.”

Galw am etholiad cyffredinol

Un arall sydd wedi beirniadu’r araith yw Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, wrth alw am etholiad cyffredinol.

“Nid yw hon yn rhaglen ddeddfwriaethol am flwyddyn,” meddai.

“Gallem gyflawni hyn i gyd o fewn pythefnos, a chael etholiad cyffredinol wedyn.

“Ni fydd y rhan fwyaf o hyn yn fil llawn o 200 tudalen y mae’n rhaid i ni fynd drwyddo mewn pwyllgor am wythnosau di-ben-draw.

“Bydd fel cymal, bil cymal unigol.

“Mae’r llywodraeth hon wedi rhedeg allan o stêm.

“Mae’n rhedeg allan o syniadau a dylen ni gael etholiad cyffredinol.”

‘Dyw San Steffan ddim yn gweithio i Gymru’

Mae YesCymru wedi beirniadu “diffyg cynnwys” yr araith.

“Charles druan, ei Araith y Brenin cyntaf, yn ddiamau yn hanesyddol ac yn bwysig iddo ar ôl dros 50 mlynedd o aros ei dro,” meddai Ethan Jones, cyfarwyddwr y mudiad annibyniaeth.

“Mae’n rhaid bod cael agenda ddeddfwriaethol mor ddi-bwrpas, gormesol a diddychymyg i gynnig ar ran llywodraeth sydd yr un mor ddi-bwrpas, gormesol a diddychymyg wedi bod yn siom iddo.

“Sut bynnag y mae pobol yn teimlo am sefydliad y frenhiniaeth, rhowch eiliad i ystyried y dyn ei hunan druan, a pha mor anfoddhaol mae’n rhaid iddo fod fel llefarydd y llywodraeth hynod dila hon.

“Mae llawer yn galw am Etholiad Cyffredinol er mwyn newid y personél a lliw y llywodraeth – ond ni fydd hynny yn newid y realiti bod system y Deyrnas Unedig yn hen, yn flinedig a bod yn hen bryd ei danfon i dudalennau hanes er mwyn galluogi grŵp newydd, bywiog, o wledydd arloesol, annibynnol, i ddod i’r amlwg a meddiannu Ynysoedd Prydain.”

Yn ôl Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr y mudiad, roedd yr Araith yn “basiant dibwrpas o ffwlbri a ffolineb” ac yn “ddim byd mwy na chynhyrchiad Disney llipa”.

“Hen ffasiwn, diangen, gwastraffus a chwerthinllyd” yw ei ddisgrifiad arall o’r digwyddiad.

“Pa ran bosibl y byddai Cymru fodern ei heisiau mewn rhwysg a seremoni mor ddibwrpas?

“Yn ôl y disgwyl, nid oedd llawer o sylwedd i’r rhaglen ddeddfwriaethol ei hun.

“Gyda dim byd o gwbl i Gymru – cenedl sy’n dioddef yn fwy nag unrhyw un arall oherwydd argyfwng costau byw; argyfwng a achoswyd gan weithred a ffolineb llywodraeth San Steffan dros y degawd diwethaf.

“Maent wedi ein llorio a nawr maent yn cefnu arnom.

“Pa ‘bolisi yswiriant’ sydd yma?

“Dim ond sgam, ymgyrch barhaus i wahanu pobol Cymru o unrhyw hawliau a phwrpas, o’u cyfoeth, o’u dyfodol.

“I’r sawl sydd â’u llygaid ar ddyfodol gwell i Gymru a phlant Cymru rhaid ond gwylio gormodedd a ffolineb San Steffan i atgyfnerthu eu cred a’u ffydd mewn Cymru annibynnol fel yr unig ffordd ymlaen i Gymru Fach.”

Y Ceidwadwyr Cymreig wedi’u plesio

Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn teimlo bod yr araith yn dangos bod Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn gwneud penderfyniadau tymor hir ar gyfer “dyfodol mwy disglair”.

“Rwy’n croesawu araith y Brenin ac roeddwn yn arbennig o falch o weld mesurau gafodd eu hyrwyddo gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i adfywio ein trefi, annog arloesedd a’n gwneud yn genedl fasnachu fwy cystadleuol trwy fanteisio’n llawn ar fanteision Brexit,” meddai’r arweinydd Andrew RT Davies.

“Mae Prydain wedi bod yn arweinydd byd-eang wrth gefnogi’r Wcráin yn dilyn ymosodiad barbaraidd Putin, wrth gefnogi hawl Israel i amddiffyn ei hun yn dilyn ymosodiadau Hamas, ac wrth baratoi’r byd ar gyfer peryglon posibl yn ogystal â buddion AI.

“Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn gwneud penderfyniadau tymor hir ar gyfer dyfodol mwy disglair, gan gryfhau gwead cymdeithasol y Deyrnas Unedig gyda gweithredoedd i atal troseddu hyd yn oed ymhellach, rhoi terfyn ar fudo anghyfreithlon a threchu terfysgaeth.

“Yn y cyfamser, byddai’n well gan Lywodraeth Lafur Cymru flaenoriaethu creu mwy o wleidyddion a therfynau cyflymder 20mya blanced.”

Araith y Brenin: Plaid Cymru’n amlinellu “cynllun teg ac uchelgeisiol i Gymru”

Mae’n cynnwys pum mesur mae Plaid Cymru’n dymuno’u gweld yn cael eu cynnwys yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth y Deyrnas Unedig