Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n galw am gefnogaeth i weithwyr dur Tata ym Mhort Talbot sy’n wynebu colli eu swyddi.
Daw hyn yn sgil adroddiadau o’r newydd fod Tata yn bwriadu cau’r rhan fwyaf o’u gweithrediadau ar y safle.
Mae undebau wedi ymateb gan alw am weithredu’n ddiwydiannol yn sgil y sefyllfa.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol am weld pecyn cymorth incwm yn cael ei roi i weithwyr, yn ogystal â rhaglen sgiliau gwyrdd, fel rhan o gynlluniau i gefnogi’r 3,000 o weithwyr sy’n wynebu ansicrwydd.
Mae’r blaid eisoes wedi galw am Incwm Sylfaenol er mwyn symud at ddyfodol gwyrdd.
Cefndir
Fe fu pryderon ers tro y gallai’r gweithfeydd dur enfawr, sy’n cyflogi oddeutu 4,000 o bobol, wynebu cael ei redeg gan drydan dros y tair blynedd nesaf, gan golli hyd at 3,000 o swyddi.
Yn ddiweddar, fe wnaeth y cwmni sydd dan berchnogaeth teulu o India gyhoeddi manylion ynghylch cytundeb â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fuddsoddi £1.25bn yn y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot, gosod ffwrneisi ailgylchu dur trydan, a chau dau o’r prif ffwrneisi chwyth sy’n gwneud dur.
Mae hyn hefyd wedi arwain at bryderon gan undebau y gallai dros 3,000 o swyddi gael eu torri, gan nad oes angen cynifer o staff ar gyfer gwneud dur arc trydan, sy’n golygu ailgylchu yn hytrach na chreu dur o’r newydd.
‘Cytundebau munud olaf ac addewidion hanner-gwag’
“Am yn rhy hir o lawer rŵan, rydyn ni wedi gweld y safle hwn yn cael ei gynnal gan gytundebau munud olaf ac addewidion hanner-gwag sydd wedi gwneud dim byd i ddatrys pryderon y rheiny sy’n gweithio ar y safle,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“Rhaid i lywodraethau Ceidwadol y Deyrnas Uneidg a Chymreig Llafur roi trefn arnyn nhw eu hunain a gweithio tuag at sicrhau dyfodol gwyrdd cynaliadwy tymor hir i’r safle cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
“Drwy ddarparu pecyn cymorth gwyrdd, byddai’n gwarchod gweithwyr rhag y storm sydd i ddod, ac yn rhoi’r offer iddyn nhw gerfio yfory gwell iddyn nhw a’r genhedlaeth nesaf ym Mhort Talbot.
“Rhaid i ni fel gwlad fod â’r uchelgais sy’n cyfateb i’r heriau ddaw o amserau sy’n newid.”