Mae cynnig Llywodraeth Cymru o 30 awr o ofal plant i blant tair a phedair oed yn “hollol gamarweiniol”, yn ôl mam i ddwy o ferched.
Mae Lon Moseley yn dod o Sir Benfro yn wreiddiol, ond mae hi bellach yn byw yn Neiniolen, ac mae ganddi ddwy o ferched – Gwenllian, sy’n chwech oed, ac Eluned, sy’n dair oed.
Maen nhw’n mynd i Ysgol Gwaun Gynfi a Chylch Deiniolen.
Gall rhieni a gwarcheidwaid wneud cais am ofal plant ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos, a gall gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau (perthynas neu ffrind nad yw’n rhiant plentyn) wneud cais hefyd.
Mae 30 awr yr wythnos yn cynnwys o leiaf ddeg awr o addysg gynnar, a hyd at ugain awr o ofal plant.
Ond dywed Lon Moseley nad yw’r 30 awr o ofal plant am ddim yn cyfateb i 30 awr mewn gwirionedd.
Dywed fod yr ugain awr o ofal plant yn cael eu cymryd dros ddau ddiwrnod, ond os nad oes angen yr holl oriau dros y ddau ddiwrnod, dydy plant ddim yn eu derbyn yn llawn.
Cyn cael plant, doedd Lon Moseley ddim yn sylweddoli nad ydy pobol yn aml yn cael 30 awr o ofal plant mewn gwirionedd, ac mae hi’n credu bod yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig yn “gamarweiniol”.
“Rwy’n gweithio 30 awr yr wythnos,” meddai wrth golwg360.
“Dyna faint o oriau rwy’n gweithio ac rwy’n dal yn gorfod talu am ofal plant oherwydd nad ydy o’n cyfro’r oriau dwi’n gweithio, sy’n hollol gamarweiniol.
“Pan wnes i glywed yn wreiddiol bod o’n 30 awr yr wythnos am ddim, roeddwn fel, ‘Grêt, dyna faint rwy’n gweithio, dyna yw fy oriau contracted‘.
“Roeddwn yn meddwl ei fod yn ffantastig.
“Dyna faint roeddwn yn gweithio cyn cael y plant hefyd.
“Dydw i heb leihau fy oriau.
“Y ffordd mae o’n gweithio, mae deg awr o hwnna ar gyfer addysg, mae hwnnw’n mynd tuag at gylch neu ysgol.
“I rywun sy’n gweithio, mae yna lawer o issues in between, lle ti’n gorfod rhedeg i ’nôl y plant i fynd â nhw i rywle arall neu gael rhywun i wneud hynna ar dy ran di.
“Rwy’n gweithio pedwar diwrnod, ond dim ond dau o’r rheini sydd yn covered gan y 30 awr.
“Maen nhw’n cymryd yr oriau o pryd mae’r gofal plant ar agor, ddim yr oriau rydych chi’n eu defnyddio.
“Er dw i ddim ond yn gweithio 7.5 awr y dydd, mae o’n cymryd deg awr y dydd, oherwydd os fyswn i eisiau byswn yn gallu defnyddio’r gofal plant am ddeg awr y dydd.
“Mae’n swnio’n grêt, 30 awr yr wythnos.
“Oherwydd bod hi yn yr ysgol ran amser, mae deg awr yn mynd yn syth i’r ddwy awr yn yr ysgol, ond wedyn rydym hefyd yn gorfod talu am y cylch.”
Yr hyn sydd ar gael yn “ddefnyddiol”
Er nad yw Lon Moseley yn teimlo bod yr oriau yn ddigon, mae hi yn credu bod yr hyn sy’n cael ei gynnig yn ddefnyddiol, ond fod angen mwy o gymorth.
“Mae o o werth,” meddai.
“Hebddo fo, fyswn i’n gorfod meddwl stopio gweithio, neu leihau oriau o leiaf.
“Dydy o ddim beth maen nhw’n dweud ydy o.
“Hwnna ydy’r prif beth sydd gennyf.
“Bysa fo’n grêt os bysa fo’n wirioneddol 30 awr a’u bod nhw’n cymryd y deg awr addysg cylch ac yn yr ysgol rhan amser.
“Dydw i ddim cweit yn siŵr sut mae hynny yn gweithio.
“Mae bob plentyn yn cael gwneud hynny os ydych yn gweithio neu beidio.
“Mae o’n help, ond bysa mwy o help o hyd yn handi.”
Talebau Gofal Plant
Gan fod angen gofal cyn ac ar ôl ysgol ar y plant, mae costau ynghlwm wrth hynny.
Yn ffodus i Lon Moseley a’i gŵr, maen nhw ar y Cynllun Talebau Gofal Plant, lle mae arian yn dod allan o’u cyflogau cyn talu trethi.
Fe wnaethon nhw gofrestru ar gyfer hyn gyda’u plentyn hynaf, ac mae eu cyflogwyr yn caniatáu hynny hefyd.
“Rydym yn lwcus iawn yn yr ysgol,” meddai.
“Mae gennym ni glwb brecwast mae hi’n gallu mynd iddo, ond rydym yn gorfod talu am hwnna.
“Dydy o ddim yn llawer, ond mae o yn gost.
“Wedyn mae ganddyn nhw glwb cinio, sydd hefyd yn ffantastig ond mae cost i hwnnw.
“Dydy o ddim yn dod dan y cinio am ddim, rhaid i chi dalu am y clwb cinio a chinio ysgol, sy’n iawn, byswn yn gallu anfon bocs bwyd efo hi.
“Mae ei chwaer hi’n cael cinio ysgol, felly dydw i ddim yn mynd i wneud yn wahanol rhwng y ddwy, ac wedyn does yna ddim clwb ar ôl ysgol yn yr ysgol yn y fan yma.
“Ar ôl ysgol, rydym yn gorfod ceisio cydbwyso gweithio o adref efo’r plant yma, neu dalu am rywun i ofalu ar eu hôl nhw ar ôl ysgol hefyd.
“Mae’r leiaf yn mynd at ofalwr plant ddau ddiwrnod yr wythnos.
“Rydym wedi bod yn stryglo efo cost y gwarchodwr plant.
“Rydym yn hynod o lwcus hefyd, oherwydd mae’r ddau ohonon ni yn disgyn mewn i’r hen Gynllun Talebau Gofal Plant, sydd yn dod allan o’n cyflog ni bob wythnos cyn treth.
“Mae hwnna wedi bod yn ffantastig, ond dydy hwnna ddim ar gael i bobol rŵan, ti ddim yn gallu arwyddo fyny i hwnnw.
“Dydyn ni ddim ond efo hwnnw am bo ni wedi gallu llwyddo i arwyddo mewn iddo efo’r hynaf.
“Unwaith ti efo’r cyfri, ti’n gallu’i gadw fo i fynd.
“Mae hwnnw wedi bod yn dod allan o’n cyflog cyn i ni weld o, mewn ffordd, ond jest lwc ydy o bo ni’n gweithio i fudiadau sy’n gwneud hynna. Dim pawb sydd.
“Mae’r gofalwr plant sydd gennym hefyd yn derbyn y vouchers sydd gennym.
“Dim pawb sy’n gwneud hynny chwaith.”
Effaith y cyfnod clo
Cafodd y cyfnod clo gryn effaith ar sefyllfa gofal plant Lon Moseley oherwydd, erbyn i’w merch hynaf fod yn gymwys, roedd meithrinfeydd a gofalwyr plant wedi cau oherwydd y cyfnod clo.
“Mae hynaf fi’n yr ysgol rŵan, llawn amser,” meddai.
“Buon ni’n eithaf anlwcus gyda hi beth bynnag.
“Doedd o ddim yn dod mewn tan y tymor ar ôl eu pen-blwydd nhw’n dair.
“Gwnaeth fy merch droi’n dair yn Chwefror 2020. Mae hi’n chwech rŵan.
“Erbyn roedden nhw’n gymwys i’w gael o, roedd bob dim ar gau oherwydd y cyfnod clo.
“Ar ôl y Pasg roedd hi’n gymwys i’w gael o, ond roedd y cyfnod clo a bob dim wnaeth ddigwydd ar ôl hynna.
“Erbyn y mis Medi, pan oedd pethau actually wedi dechrau agor i fyny, roedd hi yn yr ysgol, felly gwnaeth hi fethu allan arno fo’n gyfangwbl.
“Wedyn y lleiaf sydd gennyf, mae [ei phen-blwydd] hi ym mis Mehefin.
“Doedd hi ddim yn gymwys tan fis Medi sydd newydd fynd rŵan.
“Mae hi hefyd yn yr ysgol rhan amser erbyn rŵan hefyd.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydyn ni’n cyflwyno gofal o ansawdd ar gyfer pob plentyn dwy oed ledled Cymru drwy ein rhaglen Dechrau’n Deg lwyddiannus fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydyn ni hefyd yn buddsoddi £70m o gyfalaf yn y sector hwn fel y gall barhau i dyfu.
“Mae ein Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr o ofal am ddim bob wythnos am hyd at 48 wythnos y flwyddyn i blant tair a phedair oed rhieni cymwys, sy’n cynnwys rhieni mewn addysg neu hyfforddiant, o’i gymharu â 38 wythnos y flwyddyn yn Lloegr ar gyfer rhieni sy’n gweithio yn unig.
“Yn dilyn Cyllideb Wanwyn y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth, roedd ein sefyllfa ariannol hyd at £900m yn is mewn termau real na’r hyn yr oedden ni’n ei ddisgwyl – a’r hyn y dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr oedd ei angen ar Gymru – adeg yr adolygiad diwethaf o wariant yn 2021.
“Rydyn ni’n mynd i’r afael â thlodi plant fel blaenoriaeth absoliwt ac yn parhau i weithio gyda’n partneriaid tuag at greu Cymru lle gall pob plentyn, person ifanc a theulu ffynnu.
“Mae mwy na 3,000 o blant, pobol ifanc, teuluoedd a sefydliadau wedi cyfrannu at ddatblygu’r Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig.
“Mae hyn wedi ein helpu i ganolbwyntio ar ble y gall ein polisïau wneud y gwahaniaeth mwyaf a nodi meysydd blaenoriaeth lle byddwn ni’n cyflymu’r gweithredu.
“Fodd bynnag, er mwyn lleihau tlodi plant yng Nghymru yn sylweddol, bydd angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddangos yr un lefel o ymrwymiad a chwarae rhan lawer mwy o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldebau strwythurol nag y mae wedi’i wneud ers 2010.”