Mae angen gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar fwy o frys, yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Heb addasu cyflym, efallai na fydd Cymru’n cyrraedd targedau “hanfodol”, yn enwedig o ran newid hinsawdd a chadwraeth amgylcheddol, meddai Derek Walker.

Cymru yw’r unig wlad sydd â deddf o’r fath, a daw galwadau’r Comisiynydd wrth iddo lansio strategaeth newydd, ‘Cymru Can’.

Mae’r strategaeth yn tynnu sylw at bum maes penodol:

  • ymhelaethu ar effaith ddyddiol y ddeddfwriaeth ar ddinasyddion
  • mynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd ac amgylcheddol brys
  • mesurau dwysach yn erbyn anhwylderau iechyd
  • rhoi pwysau ar economi sy’n canolbwyntio ar lesiant
  • diogelu a chyfoethogi’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.

Y system fwyd ydy canolbwynt strategaeth ‘Cymru Can’, ac mae Derek Walker yn awyddus i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth fwyd hirdymor fel y gall Cymru gael cynllun ar gyfer bwydo’i hun.

‘Cymru Can’

Ers cael ei benodi’n ail Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ym mis Mawrth, mae Derek Walker wedi bod yn sgwrsio â phobol ledled y wlad, a’r sgyrsiau hynny sydd wedi arwain at y strategaeth saith mlynedd.

Amodau Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol wnaeth arwain at benderfyniad Llywodraeth Cymru i atal ffordd liniaru’r M4 a’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Ond yn ôl Derek Walker, mae angen gwneud mwy yn gynt, a’i brif nod ydy “sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu i’w llawn botensial, er mwyn cau’r bwlch rhwng uchelgais a’r cyrhaeddiad”.

Ffilm fer

I gyd-fynd â’r strategaeth newydd, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi cyhoeddi ffilm fer sy’n cynnwys lleisiau o bob cwr o Gymru, sy’n codi cwestiynau ynglŷn â’r dyfodol, fel ‘Pam nad ydym yn amddiffyn trigolion a bywyd gwyllt ein planed?’, ‘Pam nad ydym yn sicrhau bod ein hieuenctid yn parhau i gael ei hangori yn eu cymunedau?’ a ‘Pham na allwn ni gefnogi cymunedau a helpu teuluoedd i gael gafael ar fwyd lleol, fforddiadwy?’

 

“Mae pobol yn falch oDdeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’n nodau llesiant – ond rhaid inni wthio’n galetach i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n well i wneud newid mwy cadarnhaol ym mywydau beunyddiol pobl, nawr ac yn y dyfodol,” meddai Derek Walker.

“Mae angen newid brys a thrawsnewidiol, gydag atebion cydgysylltiedig a hirdymor i broblemau fel yr argyfyngau hinsawdd a natur, anghydraddoldeb a thlodi ac nid yw’n digwydd ar y cyflymder a’r raddfa sydd ei angen arnom – fy ngwaith i yw gweithio gydag eraill i ddod o hyd i ffyrdd gwell o gefnogi’r newid hwnnw.

“Gall Cymru wneud cymaint mwy i gynyddu llesiant pawb a chynnwys mwy o bobl mewn adeiladu dyfodol cadarnhaol newydd – mae gennym ni ganiatâd a rhwymedigaeth gyfreithiol y gyfraith unigryw hon i wneud pethau gwell, ac mae yna enghreifftiau gwych o ble mae hynny’n digwydd y gellir eu lledaenu ar draws Cymru.”