Mae Plaid Cymru’n galw ar aelodau seneddol Llafur yng Nghymru i gefnogi’r alwad am gadoediad yn Gaza, gan ddilyn esiampl y Senedd.

Daw sylwadau Liz Saville Roberts, arweinydd y Blaid yn San Steffan, ar drothwy pleidlais ar welliant i Araith y Brenin yn senedd y Deyrnas Unedig heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 15).

Yr SNP sydd wedi cyflwyno’r gwelliant yn galw am gadoediad ar unwaith, ac mae wedi’i gefnogi gan Blaid Cymru.

Yn ôl Plaid Cymru, mae’r Senedd eisoes “wedi gwneud safiad yn achos y ddynoliaeth”.

Fe wnaeth unarddeg o aelodau o feinciau cefn Llafur gefnogi cynnig Plaid Cymru yn y Senedd, wrth i weinidogion atal eu pleidlais.

‘Datganiad pwerus tros heddwch’

“Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y Senedd gymryd safiad yn achos y ddynoliaeth drwy alw am gadoediad yn Gaza,” meddai Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.

“Mae Cymru’n genedl fach, ond mae ein senedd genedlaethol wedi gwneud datganiad pwerus dros heddwch.

“Fe geisiodd Plaid Cymru gefnogaeth drawsbleidiol i’r cynnig, gyda galwad clir a digamsyniol am gadoediad ar y ddwy ochr fel cynsail i drafodaethau heddwch, terfyn ar unwaith a pharhaus i’r trais a marwolaeth sifiliaid yn Israel a Phalesteina, ac ymdrech fyd-eang i leddfu’r dioddefaint dyngarol yn Gaza.

“Ymunodd unarddeg Aelod Llafur o’r Senedd ac un Democrat Rhyddfrydol â’r galwadau am heddwch.

“Rŵan, mae gennym ninnau yn San Steffan gyfle i ymuno â’r galwadau hynny.

“Gallwn ddangos i’r sifiliaid diniwed yn Gaza, a theuluoedd gwystlon o Israel sy’n despret am gael dychwelyd yn ddiogel, ein bod ni’n sefyll efo nhw.”

Seibiant yn “annigonol”

Dywed Liz Saville Roberts fod “seibiant dyngarol yn annigonol”.

“Mae UNRWA (Asiantaeth Rhyddhad a Gwaith y Cenhedloedd Unedig) yn honni y bydd cyfathrebu’n dechrau methu o ddydd Iau, Tachwedd 16, pan fydd cwmnïau telegyfathrebu’n rhedeg allan o danwydd i redeg eu canolfannau data a’u prif safleoedd cysylltedd,” meddai.

“Heb gyfathrebu dibynadwy, fydd pobol ddim yn gwybod pryd fydd oedi am bedair awr yn y bomio’n cychwyn, na phryd y dylen nhw ddechrau’r daith beryglus ar draws Gaza heb fynediad at danwydd.

“Mae’n bwysig ein bod ni, fel seneddwyr, yn gwneud yr hyn fedrwn ni i roi terfyn ar y dioddefaint ofnadwy ac yn ceisio adeiladu heddwch parhaus i Israeliaid a Phalestiniaid fel ei gilydd.”